Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Naomi Stocks  Deputy Clerk: Sarita Marshall

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

Croesawodd y Cadeirydd Aelodau o Senedd yr Alban, a oedd yn gwylio’r cyfarfod o’r oriel gyhoeddus.

09:30 - 09:40

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-437 Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy'n derbyn addysg yn y cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau er mwyn cael ei farn, gan amlygu pryderon penodol y deisebwyr.

 

2.2

P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i gael ei farn;

Ysgrifennu at Brif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn a yw awdurdodau lleol yn cydymffurfio â chanllawiau’r Adran Drafnidiaeth i barcio hygyrch.

 

09:40 - 10:00

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-425: Tîm Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Prif Weinidog yn ymwneud â’r ddeiseb hon, a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil yr ymateb hwn, sy’n nodi y byddai angen newid cyfansoddiadol cyn y gallai’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ystyried sefydlu tîm ar wahân i Gymru.

 

3.2

P-03-294 Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joyce Watson fuddiant, ar sail y faith yr arferai reoli Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru.

Yn sgîl yr ohebiaeth a gafwyd eisoes gan y Gweinidog, a’r diffyg ymateb gan y deisebwr, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

3.3

P-04-345 Cysylltiadau bws a rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y ddwy ddeiseb a gafwyd ar y pwnc hwn gyda’i gilydd, ac i aros am ymateb y Gweinidog i’r ddeiseb ddiweddaraf.

 

3.4

P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth sy’n ymwneud â’r ddeiseb hon.

Datganodd William Powell, y Cadeirydd, fuddiant gan ei fod yn ymwneud â’r gwaith o hyrwyddo ailenwi rhan o’r A470 yn ‘Royal Welsh Way’.

Cytunodd y Pwyllgor i geisio barn y deisebwr yn ffurfiol am yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog.

 

3.5

P-04-390 Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd yn ymwneud â’r mater hwn a chytunodd i:

Ysgrifennu at Gyngor Cefn Gwlad Cymru i amlygu pryderon y deisebwyr a gofyn am gyngor ar ddulliau y gallai’r deisebwyr eu mabwysiadu i ddiogelu’r ardal;

Ysgrifennu at Gyngor Sir Ynys Môn i amlygu pryderon y deisebwyr.

 

3.6

P-04-349 Darpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg - Caerffili

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

3.7

P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn a fyddai’n ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb, ac i ofyn bod y deisebwyr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.8

P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i ofyn am fanylion yr adolygiad a gynhelir a gaiff ei ddilysu yn allanol, ac i godi materion eraill a godwyd gan y deisebwyr.

 

3.9

P-04-375 Rhoi Terfyn ar System Eithrio ar gyfer Rhoi Organnau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

 

Gohiriwyd y Pwyllgor rhwng 10.03 a.m. a 10.27 a.m.

 

 

10.30 - 11.00

4.

P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol - Sesiwn dystiolaeth lafar

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths AC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau aelodau’r Pwyllgor ar y Safonau Canser Cenedlaethol, y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Canser a phrofiad cleifion.

 

Trawsgrifiad