Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kathryn Thomas

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 183KB) Gweld fel HTML (150KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson. Dirprwyodd Jeff Cuthbert ar ei rhan, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(09.15-09.25)

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-655 Mynnu ein Hawliau i’r Gymraeg yn y Sector Breifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

·         Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am yr amserlen ar gyfer adolygu safonau ar gyfer cyrff preifat a chyrff yn y sector gwirfoddol na chawsant eu cynnwys yn y garfan gyntaf; a

·         gofyn i Brif Weinidog Cymru;

o   i gadarnhau mai bwriad y Llywodraeth yw gweithredu ar yr amserlen honno; ac i

o   ddarparu gwybodaeth bellach ar fwriadau’r Llywodraeth o ran diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

o   gofyn am wybodaeth bellach am y rhesymau pam y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i fusnesau penodol gael eu tynnu’n ôl fel rhan o’r drydedd garfan o safonau; a

o   gofyn am eglurhad ar rôl Comisiynydd y Gymraeg wrth benderfynu pa fusnesau y dylid eu tynnu’n ôl.

 

 

2.2

P-04-657 Codi Tâl am Barcio a’r Berthynas â Strydoedd Mawr a’u Llwyddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i’r deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunwyd i:

·         Ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar lythyr y Gweinidog; ac

·         Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pa gamau y mae wedi’u cymryd, yn enwedig o ran cysylltu ag awdurdodau lleol, yn dilyn cyhoeddi’r ymchwil i archwilio’r berthynas rhwng taliadau meysydd parcio a nifer yr ymwelwyr â chanol trefi yng Nghymru.

 

 

(09.25-10.00)

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-633 Codi Ymwybyddiaeth o’r Band Eang Gwael yn Ein Hardal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a phartïon eraill yr effeithiwyd arnynt a chytunwyd i gau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny roeddent yn dymuno diolch i’r deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor ac i anfon ymlaen, er gwybodaeth, gopi o ohebiaeth gysylltiedig a anfonwyd at yr Aelodau yn ddiweddar.

 

3.2

P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog,  yn cefnogi’r llythyr gan Gyngor Tref Cas-gwent a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa ar frys.

 

3.3

P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Achub y Gyfnewidfa Lo a’r deisebydd a chytunwyd i:

·         ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth gyda’r sylwadau ychwanegol a gofyn iddi am y wybodaeth ddiweddaraf o ran ei dealltwriaeth bresennol o’r sefyllfa ac a yw’n credu bod Cyngor Sir Caerdydd yn defnyddio’i bwerau mewn ffordd briodol; ac wrth wneud hynny

·         anfon copi o’r llythyr at Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a Stephen Doughty AS, gyda chais eu bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar eu gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf. 

 

3.4

P-04-565 Adfywio Hen Reilffyrdd Segur at ddibenion Hamdden

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae hi’n rhan o ymgyrch i ailagor Twnnel y Rhondda.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y deisebydd a chytunwyd i:

·         Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pryd y mae’n disgwyl adolygiad Sustrans i mewn i Dwnnel y Rhondda gael ei gwblhau; a

·         Rhoi gwybod i’r deisebydd bod yr Adran Briffyrdd yn berchen ar dwneli rheilffordd eu hunain yng Nghymru ac efallai y byddai am gysylltu â nhw yn uniongyrchol.

 

 

3.5

P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb. Roedd yr aelodau’n dymuno diolch i’r deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor.

 

3.6

P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan y deisebydd ac, o ystyried na fydd y cynnig ymchwil sy’n cael ei ddatblygu i edrych ar economeg y diwydiant cartrefi mewn parciau yn cael ei gwblhau tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad, cytunwyd i gadw’r ddeiseb ar agor er mwyn caniatáu i Bwyllgor y 5ed Cynulliad ei ystyried pe byddai’n dewis gwneud hynny.

 

3.7

P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog, ar gais y deisebwyr, yn gofyn am ateb i’r cwestiynau a godwyd yn eu llythyr.

 

3.8

P-04-581 Gwrthwynebu’r toriadau yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd yr aelodau’n dymuno diolch i’r deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor.

 

3.9

P-04-516 Gwneud Gwyddor Gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a oes yna faes o waith yr Athro Donaldson sy’n ymwneud â Gwyddor Gwleidyddiaeth y gallai’r deisebydd naill ai fod yn ymwneud ag ef, neu’n gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch. Cytunodd yr Aelodau hefyd i symud i gau’r ddeiseb unwaith y byddai ymateb wedi ei dderbyn gan y Gweinidog.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5 and 6

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.00-10.10)

5.

Trafod y Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i fynegi pryderon am y sefyllfa yng ngoleuni’r cyngor a dderbyniwyd.

 

5.1

P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

5.2

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn

(10.10-10.30)

6.

Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau dystiolaeth a gafwyd o arolygon ac ymgynghoriadau a gynhaliwyd, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn dilyn sesiwn dystiolaeth lafar a gynhelir ar 8 Rhagfyr.

 

(10.30 - 11.00)

7.

Sesiwn Dystiolaeth - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Huw Lewis AC – Gweinidog Addysg a Sgiliau.

Joanne Larner – Llywodraeth Cymru

Kathryn Massey – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i:

·         Gadarnhau a yw rheoli asbestos yn cael ei gynnwys mewn rhaglenni hyfforddi llywodraethwyr; a

·         Darparu gwybodaeth bellach ar aelodaeth y gweithgor asbestos a’i gylch gorchwyl.