Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF234KB) Gweld fel HTML (179KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AC a Bethan Jenkins AC, ac roedd Jeff Cuthbert AC ac Alun Ffred Jones AC yn dirprwyo ar eu rhan, yn y drefn honno.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-641 Perchnogion Tir nad yw wedi cael ei Ddatblygu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i gael cadarnhad gan gynghorwyr cyfreithiol a oedd gan y Cynulliad y pŵer i ddeddfu er mwyn gweithredu'r ddeiseb.

 

 

2.2

P-04-648 Diwygio'r Cyfarwyddyd ar Olew a Nwy Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

  • Mae'n ymgyrchydd hirsefydlog yn erbyn ffracio.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros hyd nes y ceir trafodaeth â'r deisebwyr pan gaiff y ddeiseb ei chyflwyno, a gofyn am eu sylwadau ysgrifenedig ar ymateb y Gweinidog.

 

Caiff y ddeiseb ei hailystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 6 Hydref.

 

 

2.3

P-04-649 Addysg Gymraeg Bendith neu Felltith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd.

 

2.4

P-04-651 Gweithio i Amddiffyn Llywodraeth Leol wrth Bennu Cyllidebau yn yr Hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

·         Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Datganodd Russell George y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

·         Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn gofyn am ei barn ar sylwadau pellach y deisebwyr; a
  • gofyn i'r Pwyllgor Cyllid ystyried y ddeiseb a'r materion y mae'n eu codi fel rhan o'i waith craffu ar gyllideb nesaf y Cynulliad.

 

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-523 Diogelu’r Henoed a Phobl sy’n Agored i Niwed mewn Cartrefi Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Prif Weinidog roi gwybod i'r Pwyllgor unwaith y bydd wedi cwrdd â'r deisebwyr.

 

3.2

P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebwyr am eu dyfalbarhad yn gweithio ar y ddeiseb.

 

3.3

P-04-365 Diogelu yr adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

  • Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys, mae'r adeilad yn ei ward ac roedd wedi bod yn rhan o'r mater yn y rôl honno.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gofyn am ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor.

 

 

3.4

P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         ofyn am ymateb gan y deisebydd i ohebiaeth y Gweinidog;

·         gau'r ddeiseb os na cheir ymateb o fewn y pedair wythnos nesaf; a

  • rhoi gwybod i Mark Drakeford AC am unrhyw gamau gweithredu y mae’r Pwyllgor yn cytuno arnynt.

 

 

3.5

P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

  • aros am farn y deisebydd; ac
  • aros am ganlyniad y cyfarfod rhwng y deisebwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

 

3.6

P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i'w chau.

 

3.7

P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog am amserlen gadarn gan fod y Cynllun Cenedlaethol Cyllid Trafnidiaeth bellach wedi'i gyhoeddi.

 

 

3.8

P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         gau'r ddeiseb; ac

·         wrth gau'r ddeiseb, ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i'w hysbysu o farn y deisebwyr y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Llywodraeth y DU i greu un gronfa ddata ganolog ym mhob gwlad Ewropeaidd.

 

3.9

P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Dirprwy Weinidog roi gwybod i'r Pwyllgor unwaith y bydd y trefniadau ar gyfer yr adolygiad o'r llenyddiaeth wedi cael eu cwblhau. 

 

3.10

P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i holi am farn y Gweinidog ar ohebiaeth ddiweddar y deisebydd.

 

 

 

3.11

P-04-629 Adolygu a gorfodi Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         aros am sylwadau pellach gan y deisebydd; a

·         chau'r ddeiseb os na cheir ymateb o fewn y pedair wythnos nesaf.

 

 

3.12

P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

  • aros am sylwadau pellach gan y deisebydd; a
  • chau'r ddeiseb os na cheir ymateb o fewn y pedair wythnos nesaf.

 

 

 

3.13

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         ofyn i'r tîm clercio ystyried unrhyw waith a wnaed yn ddiweddar gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta; ac

·         ailystyried y ddeiseb yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 6 Hydref.

 

3.14

P-04-501 Gwneud canolfannau dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb. 

 

3.15

P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebwyr ar lythyr diweddaraf y Gweinidog a thrafod y mater eto pan ddaw ymateb i law. 

 

3.16

P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiynau a'r pwyntiau a wnaed yn llythyr y deisebwyr.

 

3.17

P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Tadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros am sylwadau gan y deisebwyr cyn penderfynu a ddylid symud ymlaen gyda'r mater. 

 

 

 

3.18

P-04-630 Rheoliadau Facebook ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am yr ymatebion sy'n weddill gan Plant yng Nghymru a'r Comisiynydd Plant. 

 

3.19

P-04-642 Achubwch Brosiect Filter - Ymgyrch a Sefydlwyd i Atal Pobl Ifanc Rhag Ysmygu ac i'w Helpu i Roi'r Gorau Iddi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i gael rhagor o wybodaeth gan y Dirprwy Weinidog.

 

3.20

P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

  • Mae'n ymgyrchydd hirsefydlog yn erbyn ffracio.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb. 

 

 

3.21

P-04-623 Gwella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i rannu ymateb y deisebwyr â'r Gweinidog a gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor am gynnydd y gwaith cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad.

 

 

3.22

P-04-619 LLEOLIAETH O RAN CYNLLUNIO AC IAWNDAL AR GYFER TRYDYDD PARTÏON

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac roedd yn bwriadu cau'r ddeiseb, ond cytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ohebiaeth ddiweddaraf y Gweinidog cyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

 

3.23

P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac roedd yn bwriadu cau'r ddeiseb, ond cytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ohebiaeth ddiweddaraf y Gweinidog cyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

 

3.24

P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ddatganiad y Gweinidog.

 

3.25

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i wahodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i roi tystiolaeth lafar ar y ddeiseb. 

 

3.26

P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog am ei sylwadau ar ohebiaeth ddiweddaraf y deisebwyr ac am sicrwydd y bydd staff sy'n cefnogi adolygiad Donaldson yn cysylltu â DEFFO.

 

3.27

P-04-634 Rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn plant heb grefydd mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb.

 

3.28

P-04-636 Addysg Rhyw a Chydberthynas (SRE) statudol i bob ysgol a sefydliad addysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb.

 

3.29

P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i gael ei sylwadau ar lythyr y deisebydd a llythyr Gweinidog Lloegr, yn benodol a yw'r model canolfannau addysg cerddoriaeth yn cael ei ystyried yng Nghymru; a
  • gofyn i'r Gweinidog nodi'n benodol pa gamau y cytunwyd arnynt ar gyfer cerddoriaeth yng nghynllun pum mlynedd 'Dysgu Creadigol Drwy'r Celfyddydau – Cynllun Gweithredu Cymru' y Llywodraeth.

 

 

3.30

P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         rannu llythyr Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot â'r Gweinidog a gofyn a yw'n dymuno ailystyried unrhyw un o'r datganiadau yn ei lythyr dyddiedig 15 Mai ynghylch effaith y toriadau; ac

·         aros am farn y deisebwyr ar lythyr cynharach y Gweinidog a'r un gan Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot.

 

3.31

P-04-646 Canllawiau Anstatudol yng Nghymru ar Gyfer Awdurdodau lleol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i dynnu sylw'r Gweinidog at sylwadau pellach y deisebydd.

 

3.32

P-04-643 Diogelu Dechrau’n Deg Croeserw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.32.

 

3.33

P-04-645 Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         ofyn i Gweithredu dros Blant am eu barn ar y llythyr gan yr awdurdod lleol; a

·         gofyn i'r deisebwyr am unrhyw sylwadau a allai fod ganddynt ynghylch yr ohebiaeth a ddaeth i law.

 

 

3.34

P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb.

 

 

 

3.35

P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

 

 

4.

Papur i’w nodi

4.1

P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.