Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-640 Gostwng yr Oedran ar gyfer Profion Ceg y Groth i 18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at bwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU yn gofyn am fanylion yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar a lywiodd benderfyniad y Gweinidog i gynyddu'r oedran;
  • ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ystadegau ynghylch sut y disgwylir i'r rhaglen frechu HPV ostwng nifer y cleifion sy'n dioddef o ganser yn y 10 mlynedd nesaf; a
  • gofyn am sylwadau gan y deisebydd i ymateb y Gweinidog.

 

 

 

2.2

P-04-643 Diogelu Dechrau’n Deg yng Nghroeserw

Dogfennau ategol:

2.3

P-04-645 Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn:
    • am ymateb i sylwadau Gweithredu dros Blant a'r deisebydd;
    • sut y caiff yr arian a roddir i awdurdodau lleol ei gyfrifo;
    • pa asesiad y mae wedi'i wneud yn ddiweddar ynghylch a yw'r cyllid yn ddigon i dalu'r costau;
  • ysgrifennu at Gweithredu dros Blant i ofyn faint yn rhagor o gyllid fyddai ei angen arnynt i allu parhau â'r ddarpariaeth ar y lefel bresennol;
  • ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn:
    • a fydd darpariaeth newydd ar gael erbyn mis Medi;
    • a oes sail i bryderon y deisebwyr y gallai fod bwlch sylweddol yn y ddarpariaeth;
    • pam na roddwyd darpariaeth amgen yn ei lle yn gynharach o ystyried maint y rhybudd a roddwyd gan Gweithredu dros Blant.

 

Cafwyd datganiad o fuddiant gan Bethan Jenkins.

 

 

2.4

P-04-644 Dyfodol Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl a bydd yn cael ei hystyried yn y cyfarfod ar 14 Gorffennaf.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-552 Diogelu Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ofyn am nodyn cyfreithiol yng ngoleuni barn y Gweinidog bod y mater heb ei ddatganoli ac nad yw'n rhan o'i bwerau na'i gylch gwaith; a than hynny
  • aros am farn y deisebwyr ynghylch gohebiaeth y Gweinidog.

 

 

3.2

P-04-589 Lleihau Nifer y Cynghorwyr ac Aelodau Gweithredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb. 

 

3.3

P-04-602 Personoleiddio Beddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

3.4

P-04-616 Rhaid Atal Gwerthu Tân Gwyllt i’r Cyhoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb oni cheir ymateb gan y deisebydd cyn pen chwe wythnos.

 

 

3.5

P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • aros am sylwadau pellach gan y deisebydd; ac
  • ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel yr awgrymodd y Gweinidog, yn gofyn am eglurhad pellach am y cyllid y byddai angen iddo ei gael i ddarparu triniaethau gyda chymorth robotig yng Ngogledd Cymru.

 

 

3.6

P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Thadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog:
    • i groesawu ei ymgysylltiad â'r deisebwyr;
    • i groesawu'r camau a gymerwyd i sicrhau bod CAFCASS yn cofnodi manylion am ryw'r rhieni;
    • i ofyn ei farn am sylwadau’r deisebydd.  Yn benodol:
      • pam nad yw'n CAFCASS yn Lloegr yn teimlo bod cyhoeddi offeryn asesu CAWAC yn achosi problemau yn y ffordd a awgrymwyd gan CAFCASS yng Nghymru; ac
      • a ellir ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gofnodi gwybodaeth am y rhywiau.
  • Gofyn i'r deisebwyr ymhelaethu am y rheswm dros eu pryder ynghylch y defnydd o'r offeryn CAWAC.

 

 

3.7

P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd, o ystyried pryderon y deisebydd, i:

 

  • ysgrifennu'n uniongyrchol at WEFO yn gofyn am ymateb i'r pwyntiau a wnaed; ac
  • anfon copi o'r llythyr at y Gweinidog.

 

 

3.8

P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Plant yng Nghymru i ofyn iddynt ymateb i bryderon penodol y deisebwyr, yn enwedig o ran lleoliad cyfarfodydd.

 

 

3.9

P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb. 

 

3.10

P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy’n addas at y diben

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

 

3.11

P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf a addawodd y Gweinidog.

 

3.12

P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y Gweinidog Iechyd fel yr awgrymwyd gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, gan gynnwys a ellid mynd i'r afael â'r mater hwn yn y Bil Iechyd y Cyhoedd; a
  • Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gael ei barn.

 

 

3.13

P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

Caiff y ddeiseb uchod ei thrafod eto yn y cyfarfod ar 14 Gorffennaf. Y rheswm am hyn yw bod darn o ohebiaeth wedi dod i law na thynnwyd sylw'r Pwyllgor ato cyn iddo benderfynu cau'r ddeiseb.