Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor pan fydd adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei gyhoeddi a mynegi barn fanylach ar y ddeiseb yn sgil yr adroddiad hwnnw;
  • yn y cyfamser, gofyn iddo roi mwy o fanylion am y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn unol â chais y deisebwyr; ac
  • ysgrifennu at Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn gofyn am wybodaeth am y camau y mae'n debyg eu bod wedi'u cymryd i ailgyflwyno cyllid canolog ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth.

 

 

2.2

P-04-624 Caniatáu i Ofalwyr Maeth Gofrestru gyda Mwy Nag Un Awdurdod Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd am lythyr y Gweinidog, gyda'r bwriad o ofyn i'r Gweinidog pryd y bydd yn bwriadu cael cyngor gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor beth oedd canlyniad y cyngor hwnnw.

 

2.3

P-04-636 Addysg Rhyw a Chydberthynas

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y Gweinidog i ofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd; ac
  • yn benodol, gofyn i'r Gweinidog a all y deisebwyr gael copi o ganlyniadau'r 'Sgwrs Fawr' ac a allant gymryd rhan fel rhanddeiliaid yn ystod camau nesaf y drafodaeth.

 

 

2.4

P-04-638 Y Gwasanaethau Brys - Pŵer Mynediad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Dirprwy Weinidog yn gofyn iddo ddarparu ymateb manwl i'r pwyntiau a godwyd gan y deisebwyr, y mae llawer ohonynt yn ymddangos yn rhesymol; ac

·         ysgrifennu at swyddogion Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gofyn am eu barn ar y ddeiseb.

 

 

2.5

P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

  • aros am farn y deisebydd cyn penderfynu ar gamau pellach; ac
  • ysgrifennu at swyddogion yng Ngholeg Powys i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.

 

Cafwyd datganiad o fuddiant gan Russell George mewn perthynas â'r ddeiseb hon.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb oddi wrth y deisebydd, ond i gau'r ddeiseb os na cheir ymateb o fewn chwe wythnos.

 

 

3.2

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ofyn i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiwn o sefydlu Grŵp Llywio ynghylch Asbestos mewn Ysgolion i gynorthwyo'r Adran Addysg a Sgiliau wrth i'w swyddogion lunio ac adolygu polisi ar y mater hwn; ac
  • ystyried a ddylid gwahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol i ateb cwestiynau ar y mater.

 

 

3.3

P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg arni, oherwydd y bydd trafod y mater hwn yn fater penodol i'r Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd a'r Cynulliad maes o law.

 

 

3.4

P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg arni, oherwydd y bydd trafod y mater hwn yn fater penodol i'r Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd a'r Cynulliad maes o law.

 

 

3.5

P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb i lythyr y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Prif Swyddog Meddygol. 

 

 

3.6

P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • aros am farn y deisebydd cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach; ac
  • ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gofyn am wybodaeth am ymrwymiadau a roddwyd gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y mater hwn yn ystod sesiwn dystiolaeth ddiweddar gyda'r Pwyllgor.

 

 

3.7

P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg arni yn unol â dymuniad y deisebydd ac i ailedrych arni mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

3.8

P-04-619 LLEOLIAETH O RAN CYNLLUNIO AC IAWNDAL AR GYFER TRYDYDD PARTÏON

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd.

 

 

3.9

P-04-627 Gwell Gwasanaethau Trên i Gymudwyr ar gyfer Trigolion Gogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar yr ohebiaeth gan y Gweinidog.