Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(9.00 - 9.20) |
Deisebau newydd |
|
P-04-541Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif
Weinidog i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-542 Cyfleoedd Ymarferol i Bobl Ifanc Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
i ofyn am eu barn am y ddeiseb. |
||
P-04-543 Dim cynnydd mewn ffioedd dysgu prifysgolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-545 Gweithdrefnau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: 1. y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ofyn am eu
barn am y ddeiseb; a 2. Chyngor Iechyd
Cymuned Aneurin Bevan i ofyn am ei farn am y ddeiseb ac i ofyn am ragor o
wybodaeth ynglŷn â faint o bobl sydd wedi mynegi pryderon tebyg i’r cyngor
yn uniongyrchol. |
||
P-04-546 Magu anifeiliaid dan amodau annaturiol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn i’r
deisebwr am eglurhad pellach ynghylch diben y ddeiseb. |
||
P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: 1. ysgrifennu at y
Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn am ei farn am y ddeiseb; 2. cysylltu â’r
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w hysbysu am y ddeiseb; a 3. rhoi rhagor o
ystyriaeth i ymgymryd â gwaith ar y materion a godwyd. |
||
P-04-548 Ailgyflwyno dosbarthiadau Cymraeg ym Mhrifysgol Rennes. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Prif Weinidog i ofyn am ei farn am y
ddeiseb. |
||
P-04-549 Gwnewch ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn anthem genedlaethol swyddogol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
||
(9.20 - 9.45) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gofyn iddo roi
gwybod i’r Pwyllgor pryd y bydd yn ystyried y mater ac am ragor o wybodaeth
ynghylch y rhesymau y bu oedi yn trafod y mater hwn. |
||
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio a
chytunodd i ofyn i’r Gweinidog roi gwybod i’r Pwyllgor am ddatblygiadau’n
ymwneud â’r ymgynghoriadau ar Reoliadau sy’n codi o Ddeddf Cartrefi Symudol
(Cymru) 2013 ac i rannu pryderon y deisebydd gydag ef. |
||
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn
am y pwyntiau pellach a godwyd gan y deisebydd. |
||
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Wedi’i
grwpio gyda deiseb P-04-408 - Gweler eitem 3.3 |
||
P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: 1. ofyn i’r deisebydd
roi gwybod i’r Pwyllgor am y datblygiadau ar ôl bod mewn cysylltiad â
swyddogion y Gweinidog ac i ystyried y ddeiseb eto ar ôl cael y wybodaeth
ddiweddaraf gan y deisebydd; ac 2. ysgrifennu at y
Gweinidog yn gofyn iddo ystyried ehangu ymgynghoriadau tebyg yn y dyfodol i
bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.
|
||
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y busnes a ganlyn o dan Eitem 3 tan y cyfarfod nesaf ar 13 Mai. |
||
P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr Dogfennau ategol: |
||
P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru Dogfennau ategol: |
||
P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed Dogfennau ategol: |
||
P-04-510 Ymchwiliad Cyhoeddus i achos Breckman yn Sir Gaerfyrddin Dogfennau ategol: |
||
P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus Phil Hill, Deisebydd Mr Richard Lee, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans
Cymru June Thomas, Ymgyrchwr Diffibrilwyr Leol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r tystion yn ateb cwestiynau’r Aelodau a dangoswyd i’r Pwyllgor sut i
ddefnyddio diffibrilwyr. |
||
5. Sesiwn dystiolaeth: Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru |
||
P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd Dogfennau ategol: |
||
P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo Dogfennau ategol: |
||
P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r tyst yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |