Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Naomi Stocks Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, yn enwedig Bethan Jenkins AC sy’n dychwelyd i’r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Russell George AC. Roedd Janet Finch-Saunders AC yn dirprwyo ar ei ran. |
||
9.00 - 9.05 |
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd yr Aelodau'r sesiwn
dystiolaeth ar 14 Mai a thrafod y meysydd yr hoffent eu codi gyda'r Gweinidog
pan fydd yn rhoi tystiolaeth lafar. Yn ogystal, cytunodd yr Aelodau i; ·
ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn holi
ei barn am statws MTAN; ·
ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio yn holi am
ddiffiniadau clir o ‘amgylchiadau eithriadol’ pan fydd modd hepgor y glustogfa
500 metr; ac i ·
wahodd yr Arolygiaeth Gynllunio i roi tystiolaeth lafar. |
|
9.05 - 9.10 |
P-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd yr Aelodau'r sesiwn
dystiolaeth ar 14 Mai a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Addysg a Sgiliau gan amlygu pryderon y deisebwyr; ·
aros am
ymateb i ymgynghoriad Anghenion Addysgol Arbennig gael ei gyhoeddi; ·
ysgrifennu
at SOLACE yn holi am enghreifftiau o arfer da; ·
amlygu
pryderon ynghylch diffiniad 'lleol' i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
ac i ·
ysgrifennu
at y cyrff sy'n cynrychioli iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch
yr angen i gydweithio.
|
|
9.10 - 9.20 |
Deisebau newydd |
|
P-04-484 Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bawb! Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb
am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn
am ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol: · Y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a · ColegauCymru gan holi ei farn am y ddeiseb; a · phob coleg Addysg Bellach yng Nghymru yn holi am eu defnydd o gontractau dros dro. |
||
P-04-486 Gweithredu nawr er mwyn achub siopau y Stryd Fawr Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb
am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol: ·
Gweinidog
yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gan holi ei barn am y ddeiseb; a'r ·
deisebwr
yn holi a yw wedi holi am farn Siambrau Masnach eraill. |
||
9.20 - 9.45 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: · y deisebwr yn holi am ei farn am lythyr y Prif Weinidog a'r dogfennau ategol, gan holi a yw hyn yn cyflawni amcanion y ddeiseb; a ·
Chadeirydd
y Pwyllgor Menter a Busnes yn tynnu sylw at y ddeiseb yng nghyd-destun gwaith
diweddar ei Bwyllgor ar y pwnc. |
||
P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru
i geisio barn y sefydliad am y ddeiseb a holi a fyddai'n ymchwilio i rai o'r
materion a godwyd gan y deisebwyr. |
||
P-04-422 Ffracio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan rannu'r ohebiaeth gan y Gweinidog Tai
ac Adfywio, a nodi nad yw Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn bwriadu cyflwyno
canllawiau ychwanegol, er gwaethaf cais y deisebwyr a Chymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru; ac at ·
y
Gweinidog Tai ac Adfywio yn holi a yw'r Llywodraeth wedi comisiynu unrhyw waith
ymchwil ynghylch ffracio neu a yw wedi ceisio cyngor annibynnol ynghylch hynny.
|
||
P-04-469 Dileu’r Cap Rhanbarthol ar Brisiau mewn Perthynas â’r Cynllun Hawl i Brynu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i holi am farn y deisebwr am ohebiaeth y
Gweinidog. |
||
P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn pa gamau a fydd yn cael eu
cymryd mewn ymateb i'r adroddiad; ac i ·
rannu'r
gwaith ymchwil gyda'r deisebwyr.
|
||
P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd y pryderon ymarferol,
cyfriethiol a moesegol a roddwyd sylw iddynt yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad
sy'n golygu na fyddai'r fath gofrestr yn ymarferol. |
||
P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn rhoi sylw i'r
ddeiseb hon, cyn iddo ystyried y Bil Treftadaeth (Cymru); ·
ysgrifennu
at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn rhoi sylw i'r ddeiseb hon, cyn
iddo ystyried y Bil Cynullunio (Cymru) a'r Bil Amgylchedd (Cymru); ac i ·
geisio
barn y deisebwr am yr ohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gan holi lle yr hoffent
weld rhagor o gamau'n cael eu cymryd i warchod coed hynafol a choed
treftadaeth. |
||
P-04-444 Ymgyrch ’DIG FOR VICTORY’ Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i holi am farn y deisebwr am yr ohebiaeth a
ddaeth i law. |
||
P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan nad yw Llywodraeth Cymru yn
bwriadu prynu Plas Cwrt yn Dre. Yn ogystal â chau'r ddeiseb,
cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol, gan gyfeirio at y materion a godwyd wrth ystyried y ddeiseb
hon a deisebau tebyg sy'n ymwneud â threftadaeth a gofyn iddo ystyried y
materion hyn wrth ystyried y Bil Treftadaeth (Cymru).
|
||
P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na chafwyd ymateb gan y deisebwyr. |
||
P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn holi sut mae'n bwriadu
ymateb i'r argymhellion a wnaed yn yr adolygiad strategol, a'r amserlen ar
gyfer ei weithredu; ac i ·
geisio
barn y deisebwr am yr Adolygiad Strategol. |
||
P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y deisebwr yn gofyn iddo gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus; ac ·
aros am
ganlyniadau'r ymgynghoriad. Yn ogystal, gwnaeth yr Aelodau
gais am nodyn ar ymdrin â deisebau ynghylch ad-drefnu ysbytai.
|
||
P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan nodi bod Cymdeithas
Alzheimer yn cefnogi'r galw i ychwanegu lefel difrifol i'r Offeryn Gwneud
Penderfyniadau a holi os yw'n bwriadu cadw ymrwymiad y Gweinidog blaenorol i
adolygu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal parhaus, a'r amserlen ar gyfer
y fath adolygiad; ·
ysgrifennu
at Swyddfa Archwilio Cymru yn holi am gopi a'i hadroddiad ar ofal iechyd
parhaus pan fydd wedi ei gyhoeddi; ·
ceisio
yamteb gan Dementia UK; ac i ·
wahodd y
deisebwr i roi tystiolaeth lafar. |
||
P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
rannu'r
ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a'r deisebwr â'r Pwyllgor Plant a
Phobl Ifanc; ac i ·
aros am
adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch
(Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru). |
||
P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gan rannu gohebiaeth y deisebwr a holi am: ·
ragor o
wybodaeth am wella ffyrdd cyswllt ·
y
wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o gyfyngderau cyflymder yr A40 rhwng Llanddewi
Felffre a chylchfan Scotchwell; ac am ·
y
wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gwella Llanddewi-Penblewin. |
||
P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i holi am farn y deisebwr am yr ohebiaeth a
ddaeth i law. |
||
9.45 - 10.15 |
P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol: Sesiwn Dystiolaeth Alan Rogers, Deisebydd Brian Pearce Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd Alan Rogers a Brian
Pearce gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. |
|
10.15 - 10.45 |
P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG : Sesiwn Dystiolaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd Jim Stewart ac Wynne
Roberts gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. Cytunodd Wynne Roberts i roi
rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y gwaith a wneir gan wasanaethau caplaniaeth
ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
|