Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Naomi Stocks Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
09.00 - 09.20 |
Deisebau newydd |
|
P-04-469 Dileu’r Cap Rhanbarthol ar Brisiau mewn Perthynas â’r Cynllun Hawl i Brynu Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Prif Weinidog i ofyn am ei farn ar y ddeiseb ac i ofyn pryd bydd yr achos
busnes a’r gwaith diwydrwydd dyladwy ar gael. |
||
P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i Sicrhau Bod Diffibrilwyr ar Gael ym Mhob Man Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.3 Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
Y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ·
Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru; ·
Gwasanaethau
Tân ac Achub Cymru; ·
Heddluoedd
Cymru; ·
Un
Llais Cymru; a ·
Chonsortiwm
Manwerthu Prydain i ofyn am eu barn ar y ddeiseb. |
||
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; a ·
chlywed
tystiolaeth lafar. |
||
P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog
Tai ac Adfywio; a ·
Chyngor
Sir Powys i ofyn am eu barn
ar y ddeiseb. Gwnaeth y Cadeirydd a Russell George ddatganiad o fuddiant fel Aelodau o Gyngor
Sir Powys. |
||
P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
grwpio’r ddeiseb gyda P-04-457, gan nodi bod y ddwy
ddeiseb yn dadlau i’r gwrthwyneb i’w gilydd; ·
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
yn ei hysbysu am y ddeiseb ac i ofyn am ei farn ar y posibilrwydd o ymestyn
gwasanaethau caplaniaeth i ganolfannau gofal eraill; a ·
chymryd tystiolaeth lafar. |
||
09.20 - 10.20 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-421 Rhwystro Trident rhag dod i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ganlyniad i ddatganiad
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU nad oes unrhyw ystyriaeth wedi’i roi i
symud Trident, cytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at
Gyngor Ceredigion i ofyn a allai’r Cabinet rannu casgliadau’r adolygiad
annibynnol â’r Pwyllgor, a nodi pa gamau gweithredu fydd yn cael eu cymryd o
ganlyniad i’r adolygiad. |
||
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlygu
pryderon BEAT Cymru a’r deisebydd; ·
Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta
i ofyn am ei barn ar y ddeiseb; ac ·
yn ddibynnol ar gapasiti, clywed tystiolaeth lafar, o
bosibl. |
||
P-04-413 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a
chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth gan Bwrdd Iechyd Cwm Taf.
|
||
P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r
Fro i ofyn am ragor o fanylion ar amserlen yr adolygiad gwasanaethau iechyd
rhywiol; ac ·
ailedrych ar y ddeiseb ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau
i ystyried y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y
Fro. |
||
P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd
Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; ac ·
aros am gyhoeddiad y cynlluniau gwasanaeth ar gyfer De
Cymru. |
||
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ymgymryd â rhagor o waith ar y ddeiseb os na fyddai’r
Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn gwneud hynny; ·
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
yn amlygu’r problemau sy’n wynebu’r deisebydd a’r anawsterau a nodwyd gan
Gyngor Caerffili; ac ·
ysgrifennu at Gyngor Caerffili gyda mwy o fanylion am
achos y deisebydd. |
||
P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
grwpio’r
ddeiseb gyda P-04-474; ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlygu’r problemau sy’n wynebu’r
deisebydd a gofyn a yw ei farn yn wahanol i farn ei ragflaenydd; ·
ysgrifennu at Gonffederasiwn y GIG i ofyn am
ei farn ar y ddeiseb a gofyn a ŵyr am unrhyw ddata ynghylch y nifer sy’n
defnyddio gwasanaethau caplaniaeth; a ·
chlywed
tystiolaeth lafar. |
||
P-04-418 Enwi’r A470 yn - Brif Ffordd Tywysog Owain Glyndŵr Dogfennau ategol: Cofnodion: O ganlyniad i ddiffyg ymateb gan y deisebydd cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb. |
||
P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am
farn y deisebydd ar yr ohebiaeth weinidogol; ac ·
ysgrifennu
at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i’w hysbysu am y ddeiseb. |
||
P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am
benderfyniad y Gweinidog. |
||
P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
ColegauCymru; ·
Ffederasiwn
Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru; a ·
Gyrfaoedd
Cymru i ofyn am eu barn ar y ddeiseb. |
||
P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Addysg a Sgiliau i amlygu pryderon y deisebydd nad oedd ei ohebiaeth
yn mynd i’r afael â phwynt cyntaf y ddeiseb. |
||
P-03-144 Cŵn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros tan i’r Pwyllgor Menter a Busnes orffen ystyried Bil Teithio Llesol (Cymru). |
||
P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
Ymddiriedolaeth Castell Penfro a Chyngor Tref Penfro i
ofyn am eu barn ar y ddeiseb; a’r ·
Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ragor o
wybodaeth am y Cynlluniau Dehongli ar gyfer y Canol Oesoedd hwyrach. |
||
P-04-344 Carthffos gyhoeddus yn Freshwater East Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac am fod nodau’r ddeiseb
wedi’u cyflawni cytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-406 Yn erbyn Safle yng Ngogledd Cymru yn y Cynllun Parthau Cadwraeth Morol Dogfennau ategol: |
||
P-04-411 Deiseb yn Erbyn Parthau Cadwraeth Morol yn Sir Benfro Dogfennau ategol: |
||
P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
rannu ymatebion y deisebydd â’r
Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan amlygu bod gan y ddwy ochr bryderon
sylweddol ynghylch y broses ymgynghori, ac i ofyn pa wersi sydd wedi’u dysgu ar
gyfer ymarferion ymgynghori yn y dyfodol; ac ·
aros am
gasgliadau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Barthau Cadwraeth Morol. |
||
P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Tai ac Adfywio yn rhannu gwybodaeth y deisebydd a gofyn a ellir
ystyried y materion sydd wedi’u hamlygu. |
||
P-04-428 Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y
deisebydd ar ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. |
||
P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn
amlygu pryderon y Cyngor ynghylch y cynllun ffordd gyswllt; ac ·
y Gweinidog Tai ac Adfywio yn gofyn sut bydd y fframwaith
adfywio newydd yn cynorthwyo â datblygu gwelliannau, fel y rhai y mae galw
amdanynt yn Abergwaun. |