Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Naomi Stocks  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.

 

09:00 - 09:15

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i ofyn am ei barn ar y ddeiseb.

2.2

P-04-443 Hanes Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb, a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

2.3

P-04-444 Ymgyrch ‘DIG FOR VICTORY’

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd yn gofyn am eu barn ar y ddeiseb;
Ysgrifennu at CLlLC i ofyn sut gallai awdurdodau lleol gynorthwyo gyda chynllun o’r fath. 

2.4

P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn gofyn am ei farn ar y ddeiseb, a gofyn a yw’r ddeddfwriaeth yn effeithiol ac a yw’n bwriadu cynnal adolygiad arni.

 

2.5

P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a’r Gweinidog Cyllid cyn gynted â phosibl i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a gofyn beth yw canfyddiadau’r ymgynghoriad diwethaf a phryd y mae penderfyniad yn debygol o gael ei wneud ar y mater.

2.6

P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am ei farn ar y ddeiseb;

Holi am safbwyntiau ehangach ar y ddeiseb drwy ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro, Parc Cenedlaethol Arfordirol Sir Benfro, Cymdeithas Twristiaeth Sir Benfro, Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru a chymdeithasau hanesyddol perthnasol.

09:15 - 10:30

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-404 Awyrennau Di-Beilot Aberporth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i rannu gohebiaeth y deisebydd â’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a gofyn iddi ymateb i bob un o’r pwyntiau a godwyd gan y deisebydd.

3.2

P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol unwaith y ceir gwybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru.

3.3

P-04-432 : Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i lansio ymgynghoriad ysgrifenedig cyhoeddus ar y ddeiseb. Yn dibynnu ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, gallai’r Pwyllgor gynnal sesiynau tystiolaeth lafar.

3.4

P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

3.5

P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Rannu ymateb y deisebydd â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau gan ofyn iddo ymateb i’r cwestiynau a godwyd, a’i fod yn rhoi manylion am amserlen y ffordd osgoi;

Sicrhau nodyn o unrhyw benderfyniadau a chamau gweithredu sy’n codi o gyfarfodydd cyhoeddus yn y dyfodol gyda Llywodraeth Cymru ar y ffordd osgoi.

3.6

P-04-418 Enwi’r A470 yn - Brif Ffordd Tywysog Owain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymateb ffurfiol y deisebydd.

 

3.7

P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol ar y ddeiseb ac yn sgîl y penderfyniad i adeiladu uned arennol newydd, cytunwyd i gau’r ddeiseb. Gwnaeth y Pwyllgor longyfarch y prif ddeisebydd am ei ddyfalbarhad wrth ddilyn y mater hwn.

 

3.8

P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn iddi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am hynt yr adolygiad a’r canfyddiadau unwaith y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau;

Ysgrifennu at yr Athro Siobhan McCelland i’w hysbysu am y ddeiseb hon.

 

3.9

P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty

Dogfennau ategol:

3.10

P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn ar yr ymarfer ymgynghori, ac a oeddent yn teimlo bod y cyhoedd wedi cael digon o gyfle i gyfrannu at y cynigion;

Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y penderfyniadau a wnaed yng nghyfarfod neilltuol y Bwrdd a sut mae barn y deisebwyr a’r ymgynghoriad ehangach wedi bod yn sail i benderfyniad y Bwrdd Iechyd. 

 

3.11

P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlinellu pryderon penodol a godwyd gan y deisebydd a gofyn iddi ymateb yn uniongyrchol iddynt, a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir gan swyddogion gyda NICE er mwyn mabwysiadu Safon Ansawdd NICE yng Nghymru;

Ysgrifennu at Gofal, Hafal a Mind Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb hon.

 

3.12

P-04-413 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf yn gofyn pryd y gwneir penderfyniad ynghylch lleoliad yr uned, a sut y cynhelir gwaith dadansoddi pellach.

3.13

P-04-430 Y bwriad i gau Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y penderfyniadau a wnaed yng nghyfarfod neilltuol y Bwrdd, gan rannu gwybodaeth y deisebydd a gofyn pa ystyriaeth a roddwyd i’r materion hyn;

Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn ar yr ymarfer ymgynghori ac a oeddent yn teimlo bod y cyhoedd wedi cael digon o gyfle i gyfrannu at y cynigion.

3.14

P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau I Wasanaethau Iechyd

I did

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y penderfyniadau a wnaed yng nghyfarfod neilltuol y Bwrdd a pha ystyriaeth benodol a roddwyd o ran darpariaeth yr Uned Babanod Gofal Arbennig, a gofyn sut yr oedd barn y deisebydd yn sail i benderfyniad y Bwrdd Iechyd;

Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn ar yr ymarfer ymgynghori ac a oeddent yn teimlo bod y cyhoedd wedi cael digon o wybodaeth i gyfrannu at y cynigion.

 

3.15

P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd yn gofyn sut mae’n bwriadu atgyfnerthu’r defnydd o basbortau, pryd y cynhelir ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth bosibl a gofyn bod y deisebwyr yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn;

Ysgrifennu at y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r ddeiseb.

 

3.16

P-04-406 Yn erbyn Safle yng Ngogledd Cymru yn y Cynllun Parthau Cadwraeth Morol

Dogfennau ategol:

3.17

P-04-411 Deiseb yn Erbyn Parthau Cadwraeth Morol yn Sir Benfro

Dogfennau ategol:

3.18

P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y tair deiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn gofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod y diweddaraf am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, darparu rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad dilynol a gofyn bod deisebwyr y tair deiseb yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad;

Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn a ydynt yn teimlo eu bod wedi cael digon o gyfle i ymgysylltu â’r broses ymgynghori.

 

3.19

P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn rhannu gwybodaeth y deisebydd a gofyn am fanylion pellach ar yr ymchwil i effaith ffermydd gwynt ar dwristiaeth a chynnwys amserlen;

Gofyn am ragor o wybodaeth gan y deisebwyr am y materion a godwyd yn yr ohebiaeth.

3.20

P-04-414 Swyddi Cymreig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn yn ffurfiol am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth weinidogol.

 

10:30

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Item 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

10:30 - 11:00

5.

Y broses dderbyniadwy

Cofnodion:

Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth am broses dderbyniadwy’r deisebau a chytunodd i edrych eto ar fater deisebau ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli.

Trawsgrifiad