Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 11
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i
ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.15 Gofynnwyd cwestiynau 1
i 2 a 4 i 11. Cafodd cwestiynau 2 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Ni
ofynnwyd cwestiwn 3. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM5942 Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd) Elin Jones (Ceredigion) Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at nifer y canghennau banc sydd wedi'u cau yng
Nghymru ac, yn arbennig, pa mor aml y mae canghennau yn cael eu cau hyd yn oed
pan mai’r gangen banc yw'r banc olaf yn yr ardal. 2. Yn galw ar fanciau i ystyried effaith cau canghennau
banc ar gymunedau trefol a gwledig ac unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau
bach, cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ynghylch eu cau. 3. Yn galw ar fanciau i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan
gynnwys sefydliadau cymunedol lleol, sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes
cyn dod i benderfyniadau terfynol ynghylch cau canghennau, yn enwedig pan mai’r
gangen banc dan sylw yw'r unig un sydd ar ôl yn yr ardal. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod
Ymddygiad Ariannol i sicrhau eu bod yn ystyried effaith cau canghennau banc
wrth lunio eu polisïau perthnasol ar wasanaethau ariannol, datblygu economaidd
a rheoleiddio ariannol. Cefnogir gan: Christine Chapman (Cwm Cynon) Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Russell George (Sir Drefaldwyn) Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Mark Isherwood (Gogledd
Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe) David Rees (Aberafan) Sandy Mewies (Delyn) Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru) Ann Jones (Dyffryn
Clwyd) Alun Ffred Jones (Arfon) Gwyn Price (Islwyn) Joyce Watson (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.03 NNDM5942 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Elin Jones (Ceredigion) Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
gresynu at nifer y canghennau banc sydd wedi'u cau yng Nghymru ac, yn arbennig,
pa mor aml y mae canghennau yn cael eu cau hyd yn oed pan mai’r gangen banc
yw'r banc olaf yn yr ardal. 2. Yn
galw ar fanciau i ystyried effaith cau canghennau banc ar gymunedau trefol a
gwledig ac unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau bach, cyn i
benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ynghylch eu cau. 3. Yn
galw ar fanciau i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnwys sefydliadau
cymunedol lleol, sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes cyn dod i
benderfyniadau terfynol ynghylch cau canghennau, yn enwedig pan mai’r gangen
banc dan sylw yw'r unig un sydd ar ôl yn yr ardal. 4. Yn
galw ar Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i
sicrhau eu bod yn ystyried effaith cau canghennau banc wrth lunio eu polisïau
perthnasol ar wasanaethau ariannol, datblygu economaidd a rheoleiddio ariannol. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.03 NDM5951 Ann Jones (Dyffryn Clwyd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Waith
Athrawon Cyflenwi, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2015. Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 3 Chwefror 2016. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5952 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli
manyleb a phroses gaffael masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. 2. Yn nodi â braw bwriad Llywodraeth y DU i ddileu rhai
gwasanaethau o'r fasnachfraint honno cyn ei datganoli. 3. Yn nodi nad yw cyfyngiad o'r fath yn gymwys, ac ni
fu'n gymwys, i'r fasnachfraint rheilffyrdd yn yr Alban. 4. Yn credu y byddai ail-lunio map gwasanaethau
masnachfraint Cymru a'r Gororau yn sylweddol yn tanseilio'r broses o ddatganoli
swyddogaethau trafnidiaeth ac yn niweidio buddiannau teithwyr rheilffyrdd yng
Nghymru a'r Gororau. Cyflwynwyd y Gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi pwysigrwydd cysylltiadau rheilffordd trawsffiniol
i Fanceinion, Lerpwl a Birmingham i economïau gogledd a chanolbarth Cymru. Gwelliant 2 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwyntiau 2, 3 a 4. [os derbynnir gwelliant 2,
bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2: ', yn enwedig cael gwared ar lwybrau trawsffiniol a all
danseilio atyniad masnachol y fasnachfraint' Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
16.52 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5952
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli manyleb a phroses gaffael
masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. 2.
Yn nodi â braw bwriad Llywodraeth y DU i ddileu rhai gwasanaethau o'r
fasnachfraint honno cyn ei datganoli. 3.
Yn nodi nad yw cyfyngiad o'r fath yn gymwys, ac ni fu'n gymwys, i'r
fasnachfraint rheilffyrdd yn yr Alban. 4.
Yn credu y byddai ail-lunio map gwasanaethau masnachfraint Cymru a'r Gororau yn
sylweddol yn tanseilio'r broses o ddatganoli swyddogaethau trafnidiaeth ac yn
niweidio buddiannau teithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5954 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y gwerth i economi Cymru o gynnal
digwyddiadau mawr yng Nghymru 2. Yn galw am lunio cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad gyda Chymru'n
croesawu'r Gemau hynny yn 2026 neu 2030. 3. Yn galw am lunio cais i ddod â Ras Fawr beicio i
Gymru, ar gyfer dynion a menywod. 4. Yn galw am ddigwyddiad swyddogol yn y Cynulliad hwn i
ffarwelio â thîm pêl-droed Cymru wrth iddo fynd i gystadlu yn Ewro 2016 yr
UEFA. 5. Yn galw am sefydlu 'parthau cefnogwyr' ledled Cymru
fel bod y rhai na allant fod yn bresennol yn Ewro 2016 yr UEFA yn gallu cefnogi
eu tîm gartref. Cyflwynwyd y Gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn credu bod angen cynllunio trafnidiaeth a gwaith rheoli
effeithiol ar bob digwyddiad mawr i sicrhau profiad o ansawdd uchel i ymwelwyr
a lleihau aflonyddwch i drigolion a busnesau lleol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.19 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5954
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y gwerth i economi Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru 2.
Yn galw am lunio cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad gyda Chymru'n croesawu'r Gemau
hynny yn 2026 neu 2030. 3.
Yn galw am lunio cais i ddod â Ras Fawr beicio i Gymru, ar gyfer dynion a
menywod. 4.
Yn galw am ddigwyddiad swyddogol yn y Cynulliad hwn i ffarwelio â thîm
pêl-droed Cymru wrth iddo fynd i gystadlu yn Ewro 2016 yr UEFA. 5.
Yn galw am sefydlu 'parthau cefnogwyr' ledled Cymru fel bod y rhai na allant
fod yn bresennol yn Ewro 2016 yr UEFA yn gallu cefnogi eu tîm gartref.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(15 munud) |
Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) NDM5956 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil
Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.19 NDM5956 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir
Faesyfed) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn
cymeradwyo Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
18.05 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5953 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Pwysigrwydd ysgolion gwledig: Y modd y mae ysgolion yn
enaid cymunedau gwledig. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
18.08 NDM5953
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Pwysigrwydd
ysgolion gwledig: Y modd y mae ysgolion yn enaid cymunedau gwledig. |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |