Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Cynnig i atal dros dro Rheol Sefydlog 11.16 er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes

Dechreuodd yr eitem am 14.34

NNDM5860 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.6:

Yn atal rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5861 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 3 Tachwedd 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

3.

Dadl ar Fil Cymru Drafft

NNDM5861 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru drafft gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015 ac yn anfodlon nad yw’r model cadw pwerau presennol yn bodloni argymhellion Rhan 2 Comisiwn Silk.

Bil Cymru draft

Rhan 2 Comisiwn Silk

Cefnogir gan:                       
Elin Jones (Ceredigion)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NNDM5861 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru drafft gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015 ac yn anfodlon nad yw’r model cadw pwerau presennol yn bodloni argymhellion Rhan 2 Comisiwn Silk.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

12

0

52

Derbyniwyd y Cynnig.

 

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyflawni ar gyfer ein Lluoedd Arfog a'u teuluoedd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.36

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Adroddiad ar Gyflwr yr Ystâd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.14

6.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Y Rhaglen i Ddileu TB - Gohiriwyd

(30 munud)

7.

Rhentu Doeth Cymru - Cod Ymarfer (Rhwymedigaethau Statudol a Chanllaw Arfer Gorau), o ganlyniad i Ymgynghoriad - Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014

 NDM5857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi'i thrwyddedu o dan Ran 1 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2015.

Dogfennau Ategol
Ddrafft o'r Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi'i thrwyddedu o dan Ran 1 Deddf Tai (Cymru) 2014
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
Dim pwyntiau adrodd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi'i thrwyddedu o dan Ran 1 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2015.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y Cynnig.

 

(5 munud)

8.

Trefn ystyried y gwelliannau ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

NDM5859 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a)         adrannau 7 i 29

b)         adrannau 31 i 88

c)         adrannau 90 i 101

d)         adrannau 103 i 119

e)         adrannau 121 i 131

f)          adrannau 133 i 146

g)         adrannau 148 i 257

h)        Atodlenni 2 i 11

i)          adran 30

j)          adran 89

k)         adran 102

l)          adran 120

m)        adran 132

n)        adran 147

o)         adrannau 1 i 4

p)         Atodlen 1

q)         adrannau 5 i 6

r)          teitl hir

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.59

NDM5859 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a)         adrannau 7 i 29

b)         adrannau 31 i 88

c)         adrannau 90 i 101

d)         adrannau 103 i 119

e)         adrannau 121 i 131

f)          adrannau 133 i 146

g)         adrannau 148 i 257

h)        Atodlenni 2 i 11

i)          adran 30

j)          adran 89

k)         adran 102

l)          adran 120

m)        adran 132

n)        adran 147

o)         adrannau 1 i 4

p)         Atodlen 1

q)         adrannau 5 i 6

r)          teitl hir

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

9.

Dadl ar Benderfyniad Ariannol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

NDM5858 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.59

NDM5858 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

10.

Dadl ar Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2014 - 2015

NDM5856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Arolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Llunio dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol'.

Gellir gweld copi o'r adroddiad drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.equalityhumanrights.com/cy/llunio-dyfodol-cydraddoldeb-hawliau-dynol

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i anfon neges gref i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.

Deddf Hawliau Dynol 1998 ( Saesneg yn unig)

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Arolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Llunio dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol'.

Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i anfon neges gref i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Arolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Llunio dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol'.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i anfon neges gref i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 

11.

Cyfnod pleidleisio

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.37

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: