Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 - 3
gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.17 Gofynnwyd y 7 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 a 6 eu grwpio. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy
Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd yr eitem am
15.02 Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi adroddiad yr
Archwilydd Cyffredinol am Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio? |
||||||||||
Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd yr eitem am
15.10 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pryderon newydd a
godwyd gan berthnasau cleifion Tawel Fan ynghylch cyfathrebu gwael a diffyg
cynnydd o ran ymchwiliadau’r bwrdd iechyd hyd yma? |
||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad NDM5818
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
pharagraff 8(8) o Atodlen 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006: Yn nodi’r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun
Ieithoedd Swyddogol y Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2015. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.24 NDM5818 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006: Yn nodi’r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun
Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2015. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM5789
Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru) Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf
arbenigol ar gyfer staff meithrin, fel bod ganddynt y sgiliau a'r hyfforddiant
i ymateb yn gyflym ac yn briodol os bydd argyfwng. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth o
hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig i staff meithrinfeydd ac asesu opsiynau
ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod yr holl staff sy'n gweithio mewn meithrinfeydd
yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol. Cefnogir
gan: Eluned Parrott (Canol De Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.50 NDM5789 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
hyfforddiant cymorth cyntaf arbenigol ar gyfer staff meithrin, fel bod ganddynt
y sgiliau a'r hyfforddiant i ymateb yn gyflym ac yn briodol os bydd argyfwng. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ehangu'r ddarpariaeth o hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig i staff
meithrinfeydd ac asesu opsiynau ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod yr holl staff
sy'n gweithio mewn meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a
gydnabyddir yn swyddogol.
|
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5817
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r anawsterau difrifol sy'n wynebu'r sectorau
cig coch a llaeth yng Nghymru. 2. Yn gresynu at y dirywiad ym mhris wrth gât y fferm
llaeth a chig oen. 3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddiwygio'r
ardoll cig coch. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) defnyddio'r Rhaglen Datblygu Gwledig i ddarparu
cefnogaeth ar unwaith i'r sectorau a'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf; b) amddiffyn ffermwyr Cymru rhag anwadalrwydd y
marchnadoedd byd-eang drwy gryfhau cadwyni cyflenwi domestig; c) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU gyda'r bwriad o
gyflwyno system ddosbarthu ardoll cig coch decach; a d) gweithio tuag at gynnal blwyddyn cenedlaethol bwyd a
diod Cymru fel canolbwynt ar gyfer hyrwyddo cynnyrch Cymreig ar lefel ddomestig
a rhyngwladol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 3 a
rhoi yn ei le: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig. [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn
cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 3 a
rhoi yn ei le: Yn cydnabod yr
angen brys i ddiwygio'r ardoll cig coch ac yn croesawu'r gwaith gan Fforwm y
Diwydiant Cig Coch i ddatblygu cynigion ar gyfer ailddosbarthu ardoll hon. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddechrau isbwynt 4(c): 'rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am waith Fforwm y Diwydiant Cig Coch a' Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys isbwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: 'Yn sefydlu
gwobrau bwyd a diod newydd i Gymru i ddarparu meincnod cydnabyddedig o
ragoriaeth o ran ansawdd i gynhyrchwyr a helpu i godi proffil bwyd a diod o
Gymru yn y DU a thramor.' Gwelliant 5 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau lladd-dy cig eidion a chig oen wedi'i leoli yng
ngogledd Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hir dymor cynhyrchu cig coch yng
Ngogledd Cymru. Gwelliant 6 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am god
ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd a siopau i neilltuo rhan o'u
lloriau i gefnogi a hyrwyddo statws dynodiad daearyddol gwarchodedig o Gymru a
chig tractor coch Prydeinig. Gwelliant 7 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol y canran o'r cynnyrch a gaffelir yn
gyhoeddus sy'n dod o Gymru. Gwelliant 8 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion adolygiad Richardson o'r sector
llaeth yn ddi-oed. Mae'r Adolygiad
Richardson ar gael yma Gwelliant 9 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am
ymestyn labelu gwlad tarddiad gorfodol i'r sector llaeth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.14 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5817
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r anawsterau difrifol sy'n wynebu'r sectorau
cig coch a llaeth yng Nghymru. 2. Yn gresynu at y dirywiad ym mhris wrth gât y fferm
llaeth a chig oen. 3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddiwygio'r
ardoll cig coch. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) defnyddio'r Rhaglen Datblygu Gwledig i ddarparu
cefnogaeth ar unwaith i'r sectorau a'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf; b) amddiffyn ffermwyr Cymru rhag anwadalrwydd y
marchnadoedd byd-eang drwy gryfhau cadwyni cyflenwi domestig; c) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU gyda'r bwriad o
gyflwyno system ddosbarthu ardoll cig coch decach; a d) gweithio tuag at
gynnal blwyddyn genedlaethol bwyd a diod Cymru fel canolbwynt ar gyfer hyrwyddo
cynnyrch Cymreig ar lefel ddomestig a rhyngwladol.
Derbyniwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.14 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5816
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Atal sgamiau yng Nghymru: camau y gellir eu cymryd i atal
pobl rhag bod yn destun sgamiau. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.16 NDM5816
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Atal sgamiau yng Nghymru: camau y gellir eu cymryd i atal
pobl rhag bod yn destun sgamiau. |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|