Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1-8 ac 11-13. Tynnwyd cwestiwn 9 yn
ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd cwestiynau 1 -
3 a 5 -15. Ni ofynnwyd cwestiwn 4. Atebwyd cwestiwn 9 gan y Dirprwy Weinidog
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ac atebwyd cwestiwn 15 gan y Dirprwy
Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM5799
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Alun
Ffred Jones (Arfon) Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu cyhyd â bod fformiwla Barnett yn parhau y
dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig, fel HS2, arwain at gyllid
canlyniadol Barnett llawn i Gymru; a 2. Yn credu ymhellach, pan fo Llywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant arwain at gyllid
canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu ar hyn. Cefnogir
gan: Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.01 Gohiriwyd y bleidlais
ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NNDM5799 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Alun Ffred Jones (Arfon) Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu cyhyd â bod
fformiwla Barnett yn parhau y dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig,
fel HS2, arwain at gyllid canlyniadol Barnett llawn i Gymru; a 2. Yn credu ymhellach, pan fo
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant
arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu
ar hyn.
Derbyniwyd y Cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5812
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynigion y Ceidwadwyr Cymreig i roi hwb i'r cymorth
a roddir i brynwyr tro cyntaf; a 2. Yn cydnabod yr angen i helpu prynwyr tro cyntaf ar yr
ysgol dai drwy weithio gyda'r farchnad gyfan i ddatblygu amrywiaeth o fentrau. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1 a
rhoi yn ei le: Yn nodi'r
anawsterau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf o dan yr amgylchiadau economaidd
cyfredol. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am fodel
tai rhentu i brynu newydd ac arloesol i alluogi tenantiaid i adeiladu cyfran ym
mherchnogaeth eu cartrefi drwy eu rhent. Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod rôl
tai cymdeithasol o ran darparu tai fforddiadwy cost isel, ac nad yw'n briodol i
weithredu polisïau prynu cartref a fyddai'n lleihau'r stoc tai cymdeithasol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.40 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5812 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi cynigion y
Ceidwadwyr Cymreig i roi hwb i'r cymorth a roddir i brynwyr tro cyntaf; a 2. Yn cydnabod yr angen i
helpu prynwyr tro cyntaf ar yr ysgol dai drwy weithio gyda'r farchnad gyfan i
ddatblygu amrywiaeth o fentrau.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi'r anawsterau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf o dan yr amgylchiadau
economaidd cyfredol.
Derbyniwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am fodel tai rhentu i brynu newydd ac arloesol i alluogi
tenantiaid i adeiladu cyfran ym mherchnogaeth eu cartrefi drwy eu rhent.
Gwrthodwyd Gwelliant 2. Gwelliant 3 – Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod rôl tai
cymdeithasol o ran darparu tai fforddiadwy cost isel, ac nad yw'n briodol i
weithredu polisïau prynu cartref a fyddai'n lleihau'r stoc tai cymdeithasol.
Derbyniwyd Gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5812 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r anawsterau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf o dan
yr amgylchiadau economaidd cyfredol. 2. Yn cydnabod yr angen i helpu prynwyr tro cyntaf ar yr ysgol dai drwy
weithio gyda'r farchnad gyfan i ddatblygu amrywiaeth o fentrau. 3. Yn cydnabod rôl tai
cymdeithasol o ran darparu tai fforddiadwy cost isel, ac nad yw'n briodol i
weithredu polisïau prynu cartref a fyddai'n lleihau'r stoc tai cymdeithasol.
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.33 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5811
Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Y rhwystrau i gyflogaeth sy'n wynebu pobl sydd â nam ar y
clyw yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
16.35 NDM5811
Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Y
rhwystrau i gyflogaeth sy'n wynebu pobl sydd â nam ar y clyw yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |