Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Croesawodd y Llywydd Altaf Hussain, yr aelod Ceidwadol
newydd dros Ranbarth Gorllewin De Cymru a gwahoddodd Mr Hussain i gyfarch y
Siambr. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.32 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am
14.16 Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad a wnaed heddiw ynghylch
buddsoddiad mewn tai cymdeithasol? EAQ(4)0331(CTP) |
||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.21 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Llysgenhadon Cyllid yr UE Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.50 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch y Strategaeth Dŵr Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.20 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Deddfwriaeth Digartrefedd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
16.00 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch Gwerthuso'r Cyfnod Sylfaen: Adroddiad Terfynol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
16.39 |
|||||||||
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch cydsyniad Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw Yn unol â Rh.S. 26.67, gwnaeth y Gweinidog Cyfoeth
Naturiol ddatganiad ei fod wedi cael gorchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines a
Dug Cernyw i roi gwybod i’r Cynulliad fod y ddau ohonynt, ar ôl cael gwybod am
gynnwys y Bil Cynllunio (Cymru) yn rhoi eu cydsyniad i’r Bil hwn. |
||||||||||
(15 munud) |
Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Cynllunio (Cymru) NDM5762 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Cynllunio (Cymru). Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.27 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan
y cyfnod pleidleisio. NDM5762
Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Cynllunio (Cymru). Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
Derbyniwyd y Cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) NDM5760 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bill Llywodraeth Leol
(Cymru). Gosodwyd Bil Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 26 Ionawr 2015. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ar Bil Llywodraeth Loeol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 5 Mai
2015. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.41 NDM5760 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bill Llywodraeth Leol
(Cymru). Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Dadl ar Benderfyniad Ariannol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) NDM5761 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno
i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog
26.69 sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.36 NDM5761 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil
Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y
cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
18.36 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |