Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd fod y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a’r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Gofynnwyd cwestiynau 1, 3-11. Tynnwyd
cwestiwn 2 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a’u rhoi ar waith NDM5748
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i
Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau cyllidebol
newydd a'u rhoi ar waith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2015. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ebrill 2015. Dogfennau
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 15.01 NDM5748 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei
ymchwiliad i Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau
cyllidebol newydd a'u rhoi ar waith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9
Mawrth 2015. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru
i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ebrill 2015. Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5747 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i economi Cymru; 2.
Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol yng Nghymru; 3.
Yn galw am roi mesurau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar waith yn
llawn yng Nghymru fel y gall cymunedau wneud cais am asedau lleol, fel
swyddfeydd post a thafarndai, sy'n wynebu'r bygythiad o gael eu cau; 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill
prosiect Cyflymu Cymru, sy'n effeithio
ar fusnesau a thrigolion mewn cymunedau gwledig; a 5.
Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar fodel bancio cymunedol i sicrhau bod
gwasanaethau dros y cownter yn parhau i fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi eu helw fel cyfartaledd o ddwy flynedd i bum mlynedd at ddibenion treth incwm, gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth. Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi'r canlynol yn ei le: Yn cydnabod yr angen i ddatblygu dull penodol i Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu anghenion Cymru ac sy'n seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru. [Os derbynnir
gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 3, dileu 'sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar waith yn llawn yng Nghymru' a rhoi 'ar waith' yn ei le. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.37 Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5747 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i
economi Cymru; 2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r
sector amaethyddol yng Nghymru; 3. Yn galw am roi mesurau sydd wedi'u
cynnwys yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar waith yn llawn yng Nghymru fel y gall
cymunedau wneud cais am asedau lleol, fel swyddfeydd post a thafarndai, sy'n
wynebu'r bygythiad o gael eu cau; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu
amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill prosiect Cyflymu Cymru, sy'n effeithio ar fusnesau a thrigolion mewn
cymunedau gwledig; a 5. Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr
yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar
fodel bancio cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau dros y cownter yn parhau i
fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb
Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi
eu helw fel cyfartaledd o ddwy flynedd i bum mlynedd at ddibenion treth incwm,
gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y
dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
Derbyniwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer
Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
Derbyniwyd Gwelliant 2. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd
gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
Derbyniwyd Gwelliant 3. Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi'r
canlynol yn ei le: Yn cydnabod yr angen i
ddatblygu dull penodol i Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu
anghenion Cymru ac sy'n seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
Derbyniwyd Gwelliant 4. Gan fod gwelliant 4 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5747 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i
economi Cymru; 2. Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb
Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi
eu helw fel cyfartaledd o ddwy flynedd i bum mlynedd at ddibenion treth incwm,
gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y
dyfodol. 3. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r
sector amaethyddol yng Nghymru; 4. Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer
Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd
gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth. 6. Yn cydnabod yr angen i ddatblygu dull penodol i
Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu anghenion Cymru ac sy'n
seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu
amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill prosiect Cyflymu Cymru, sy'n effeithio ar fusnesau a thrigolion mewn
cymunedau gwledig; a 8. Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr
yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar
fodel bancio cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau dros y cownter yn parhau i
fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru.
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5746
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac aneffeithiol
Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb unrhyw beth i
gymryd ei le. 2. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim 2014 ar Twf
Swyddi Cymru wedi canfod: a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod o hyd i
gyflogaeth heb y cynllun; b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r bobl ifanc
hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun wedi'u
cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r cyfartaledd ar gyfer
eu grŵp oedran. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio cynlluniau
cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar wella lefelau sgiliau,
cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd hyfforddiant sy'n seiliedig
ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf tebygol o wynebu diweithdra
hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd yn helpu i adeiladu economi
gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd. Mae
adroddiad gwerthuso Twf Swyddi Cymru ar gael yma Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys pwynt 1
newydd ac ailrifo yn unol â hynny: 1. Yn cydnabod
bod economi Deyrnas Unedig gref: a) yn creu'r
amodau ar gyfer twf o ran cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc; b) yn herio
ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi
a diwallu sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac c) yn caniatáu i
entrepreneuriaid ifanc fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd. Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 1 a
rhoi yn ei le: Yn nodi bod
cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn
ac yn galw am adfer rhaglen sy'n cyfateb iddo yn gyflym. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
16.28 Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5746 Aled
Roberts (Gogledd Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac
aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb
unrhyw beth i gymryd ei le. 2. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim
2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod: a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod
o hyd i gyflogaeth heb y cynllun; b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r
bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y
cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r
cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar
wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd
hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf
tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd
yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: 1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig
gref: a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran
cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc; b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg
bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu
hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc
fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
Derbyniwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Elin
Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod cynllun
blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn ac yn
galw am adfer rhaglen sy'n cyfateb iddo yn gyflym. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
Gwrthodwyd Gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5746 Aled
Roberts (Gogledd Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig
gref: a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran
cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc; b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg
bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu
hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc
fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd. 2. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac
aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb
unrhyw beth i gymryd ei le. 3. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim
2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod: a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod
o hyd i gyflogaeth heb y cynllun; b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r
bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y
cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r
cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar
wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd
hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf
tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd
yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.23 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Dadl Fer - Gohiriwyd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |