Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
y cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
y cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM5715 Bethan
Jenkins William
Graham Lynne
Neagle William
Powell Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i a) annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled Cymru, er
mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu digon o
amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig; b) ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleodd glo
brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â
phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; ac c) cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i
wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.26 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NNDM5715 Bethan Jenkins William Graham Lynne Neagle William Powell Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i a) annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled
Cymru, er mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu
digon o amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig; b) ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleodd glo
brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â
phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; ac c) cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithir arnynt
i wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig:
Derbyniwyd y
Cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5742 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y bu polisïau Llywodraeth y DU ers 2010 yn hanfodol yn y gwaith o
adfer economïau'r DU a Chymru; 2.
Yn cydnabod ymhellach fod economi gynyddol gryf y DU wedi tanategu twf yn y
sector preifat a chreu dros 2 filiwn o swyddi; a 3.
Yn cydnabod mai sector preifat ffyniannus yw'r sylfaen ar gyfer cynnal ein
gwasanaethau cyhoeddus. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones
(Ceredigion) Dileu
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod bod rhaglen galedi Llywodraeth y DU wedi methu yn erbyn ei thelerau ei
hun ac yn gresynu at effeithiau economaidd a chymdeithasol y toriad diangen o
10% yng nghyllideb Cymru ers 2010. Gwelliant 2 – Elin Jones
(Ceredigion) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
croesawu cyfleoedd gwaith newydd ond yn gresynu at y ffaith bod 17,000 o'r
swyddi newydd a grëwyd yng Nghymru ers 2010 wedi bod yn rhan-amser. Gwelliant 3 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
croesawu'r ffaith mai economi'r DU yw'r economi sy'n tyfu'n gyflymaf o blith
gwledydd y G7. Gwelliant 4 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
croesawu'r ffaith bod treth incwm 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael ei
dorri o £800, diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y DU yn
cynyddu'r trothwy lwfans personol. Gwelliant 5 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu bod yn rhaid inni fantoli'r cyfrifon yn deg, gyda buddsoddiad mewn
sgiliau uchel, economi carbon isel, dileu'r diffyg yn y gyllideb strwythurol
erbyn 2017-18, sicrhau bod y bobl gyfoethocaf yn talu cyfran deg drwy gyflwyno
treth plasty, ac amddiffyn y mwyaf agored i niwed o fewn cymdeithas. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.12 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5742 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y bu polisïau Llywodraeth y DU ers
2010 yn hanfodol yn y gwaith o adfer economïau'r DU a Chymru; 2. Yn cydnabod ymhellach fod economi gynyddol gryf
y DU wedi tanategu twf yn y sector preifat a chreu dros 2 filiwn o swyddi; a 3. Yn cydnabod mai sector preifat ffyniannus yw'r
sylfaen ar gyfer cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod rhaglen galedi Llywodraeth y DU
wedi methu yn erbyn ei thelerau ei hun ac yn gresynu at effeithiau economaidd a
chymdeithasol y toriad diangen o 10% yng nghyllideb Cymru ers 2010. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
Derbyniwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn croesawu cyfleoedd gwaith newydd ond yn gresynu
at y ffaith bod 17,000 o'r swyddi newydd a grëwyd yng Nghymru ers 2010 wedi bod
yn rhan-amser. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
Derbyniwyd Gwelliant 2. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r ffaith mai economi'r DU yw'r economi
sy'n tyfu'n gyflymaf o blith gwledydd y G7. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y Gwelliant. Felly gwrthodwyd y
gwelliant. Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r ffaith bod treth incwm 1.2 miliwn o
bobl yng Nghymru wedi cael ei dorri o £800, diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol
yn Llywodraeth y DU yn cynyddu'r trothwy lwfans personol. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
Gwrthodwyd Gwelliant 4. Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod yn rhaid inni fantoli'r cyfrifon yn
deg, gyda buddsoddiad mewn sgiliau uchel, economi carbon isel, dileu'r diffyg
yn y gyllideb strwythurol erbyn 2017-18, sicrhau bod y bobl gyfoethocaf yn talu
cyfran deg drwy gyflwyno treth plasty, ac amddiffyn y mwyaf agored i niwed o
fewn cymdeithas.
Gwrthodwyd Gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5742 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod bod rhaglen galedi Llywodraeth y DU wedi methu yn erbyn ei thelerau
ei hun ac yn gresynu at effeithiau economaidd a chymdeithasol y toriad diangen
o 10% yng nghyllideb Cymru ers 2010.; 2.
Yn croesawu cyfleoedd gwaith newydd ond yn gresynu at y ffaith bod 17,000 o'r
swyddi newydd a grëwyd yng Nghymru ers 2010 wedi bod yn rhan-amser. 3. Yn cydnabod mai sector preifat ffyniannus yw'r
sylfaen ar gyfer cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus.
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5741 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi pwysigrwydd sefydliadau addysg bellach i ddarparu addysg ôl-16; 2.
Yn nodi pwysigrwydd darparu cyfleoedd dysgu i oedolion ar gyfer oedolion sydd am
ddatblygu sgiliau newydd; 3.
Yn gresynu at effaith y toriadau i addysg ôl-16 ar y sector addysg bellach; a 4.
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fonitro tâl uwch reolwyr mewn addysg
uwch yn flynyddol ac yn annog hynny i gael ei ymestyn i addysg bellach. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ar
ddiwedd pwynt 3, mewnosoder: 'ac
yn nodi'r gostyngiad o 47% yn nifer y bobl a gofrestrodd ar gyfer cyrsiau
rhan-amser rhwng 2003 a 2013.' Gwelliant 2 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnwys
pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
nodi pwysigrwydd y Gronfa Blaenoriaethau Sector i sefydliadau addysg bellach o
ran datblygu sgiliau dysgwyr. Gwelliant 3 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnwys
pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
gresynu at y ffaith bod llai o gyfleoedd prentisiaeth ar gael i feysydd
blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, sef dysgwyr 16 i 24 oed a phrentisiaethau uwch. Gwelliant 4 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnwys
pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
gresynu at ddiffyg brys Llywodraeth Cymru wrth roi gwybod i sefydliadau addysg
bellach a fyddant yn derbyn eu dyraniad o'r Gronfa Blaenoriaethau Sector. Gwelliant 5 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
nodi yr amcangyfrifir bod nifer y bobl 50 oed a throsodd nad ydynt mewn
cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) dair gwaith cymaint â nifer y bobl
NEET o dan 25 oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddylunio a gweithredu
rhaglen benodol i wella sgiliau a rhagolygon cyflogadwyedd pobl dros 50 nad
ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant . Gwelliant 6 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
croesawu'r cytundeb cyllideb rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth
Cymru a oedd yn sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer 5,000 o brentisiaethau
newydd a chynllun newydd sy'n darparu gofal plant ar gyfer rhieni mewn addysg
bellach. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
16.13 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5741 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd sefydliadau addysg bellach i
ddarparu addysg ôl-16; 2. Yn nodi pwysigrwydd darparu cyfleoedd dysgu i
oedolion ar gyfer oedolion sydd am ddatblygu sgiliau newydd; 3. Yn gresynu at effaith y toriadau i addysg ôl-16
ar y sector addysg bellach; a 4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
fonitro tâl uwch reolwyr mewn addysg uwch yn flynyddol ac yn annog hynny i gael
ei ymestyn i addysg bellach.
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.15 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM3740
Russell George (Sir Drefaldwyn) Gofal Iechyd yng nghanolbarth Cymru Yr heriau sydd ynghlwm â darparu gofal iechyd yng nghefn
gwlad canolbarth Cymru mewn cyd-destun trawsffiniol a materion sy'n ymwneud ag
Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.19 NDM3740 Russell George (Sir
Drefaldwyn) Gofal Iechyd yng nghanolbarth Cymru |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Dadl Fer - Tynnwyd yn ôl NDM5726
Leanne Wood (Canol De Cymru): Darparu difidend datganoli ar gyfer Cymru gyfan Manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o
ddatganoli i wneud yn siŵr bod yr holl wlad yn elwa arnynt. Penderfyniad: NDM5726 Leanne Wood (Canol De Cymru) Darparu difidend datganoli ar gyfer Cymru gyfan Manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o ddatganoli i
wneud yn siŵr bod yr holl wlad yn elwa arnynt. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |