Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.  Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Safodd Elin Jones i mewn dros Arweinydd Plaid Cymru.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.18

(30 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Mynediad at Gyllid

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.28

(15 munud)

4.

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015

NDM5724 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2015.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

NDM5724 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2015.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

5.

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Diwygio) 2015

NDM5723 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2015.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2015 (Saesneg yn unig)
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.04

NDM5723 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2015.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

6.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth (Memorandwm rhif 4): Diwygiad i Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 mewn perthynas â diogelu chwythwyr chwiban yn y GIG

NDM5722 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr yn y GIG rhag gwahaniaethu yn erbyn ymgeisydd sydd wedi chwythu'r chwiban o'r blaen ac sy'n darparu rhwymedïau, gan gynnwys dyfarnu iawndal, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html (Saesneg yn unig)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.06

NDM5722 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr yn y GIG rhag gwahaniaethu yn erbyn ymgeisydd sydd wedi chwythu'r chwiban o'r blaen ac sy'n darparu rhwymedïau, gan gynnwys dyfarnu iawndal, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

7.

Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

NDM5725 Carl Saregant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Dogfennau Ategol

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

Memorandwm Esboniadol fel y’i Diwygiwyd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.21

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5725 Carl Saregant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

11

49

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

8.

Dadl ar Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2013-2014

NDM5720 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2013-14.

Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2015.

Dogfen Ategol
Adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2013-14

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r heriau recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector a chymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Yn mynegi pryder ynglŷn ag amrywioldeb perfformiad adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru.

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Yn nodi pwysigrwydd adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn helpu i wella safonau gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn edrych ar sut y mae cartrefi gofal yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol i atal derbyniadau diangen i ysbytai.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.46

NDM5720 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2013-14.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r heriau recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector a chymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder ynglŷn ag amrywioldeb perfformiad adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru.

Derbyniwyd Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn helpu i wella safonau gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Derbyniwyd Gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn edrych ar sut y mae cartrefi gofal yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol i atal derbyniadau diangen i ysbytai.

Derbyniwyd Gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5720 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2013-14.

2. Yn nodi'r heriau recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector a chymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

3. Yn mynegi pryder ynglŷn ag amrywioldeb perfformiad adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru.

4. Yn nodi pwysigrwydd adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn helpu i wella safonau gwasanaethau gofal cymdeithasol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn edrych ar sut y mae cartrefi gofal yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol i atal derbyniadau diangen i ysbytai.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

(60 munud)

9.

Dadl ar Gyflog Cyfartal

NDM5721 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod gwerth hyrwyddo Cyflog Cyfartal fel prif flaenoriaeth ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol ac yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn wrth ymdrin ag achosion anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Yn croesawu'r ffaith bod y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y bwlch cyflog llawn amser rhwng dynion a menywod yn fwy cul nag y mae wedi bod ers dechrau casglu cofnodion cymharol ym 1997.

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Yn croesawu gwaith Gweinidog Cydraddoldebau Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd angen i gwmnïau sy'n cyflogi mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi'r cyflog cyfartalog ar gyfer gweithwyr gwrywaidd a benywaidd, neu wynebu dirwy o hyd at £5,000.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.26

Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r ffaith bod y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y bwlch cyflog llawn amser rhwng dynion a menywod yn fwy cul nag y mae wedi bod ers dechrau casglu cofnodion cymharol ym 1997.

Derbyniwyd Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu gwaith Gweinidog Cydraddoldebau Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd angen i gwmnïau sy'n cyflogi mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi'r cyflog cyfartalog ar gyfer gweithwyr gwrywaidd a benywaidd, neu wynebu dirwy o hyd at £5,000.

Derbyniwyd Gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5721 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod gwerth hyrwyddo Cyflog Cyfartal fel prif flaenoriaeth ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol ac yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn wrth ymdrin ag achosion anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau.

2. Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed.

3. Yn croesawu'r ffaith bod y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y bwlch cyflog llawn amser rhwng dynion a menywod yn fwy cul nag y mae wedi bod ers dechrau casglu cofnodion cymharol ym 1997.

4. Yn croesawu gwaith Gweinidog Cydraddoldebau Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd angen i gwmnïau sy'n cyflogi mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi'r cyflog cyfartalog ar gyfer gweithwyr gwrywaidd a benywaidd, neu wynebu dirwy o hyd at £5,000.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

10.

Cyfnod pleidleisio

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.07

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: