Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 4 eu grwpio. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 4 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y diweddaraf am y cyhoeddiad ynghylch Grŵp Bwyd y 2 Sisters Cyf

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.00

(60 munud)

4.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

NDM5700 David Rees (Aberafan)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2014.

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2015.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

NDM5700 David Rees (Aberafan)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2014.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM5701 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau bod targedau'r GIG yng Nghymru yn cael eu cwrdd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu 'gymryd' a rhoi yn ei le:

'sicrhau bod ei thargedau yn diwallu anghenion cleifion y GIG a chymryd'

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

'a datblygu'r defnydd o fesurau deilliant a adroddir gan gleifion i fesur perfformiad yn y GIG yng Nghymru.'

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu gan Lywodraeth yr Alban, sydd wedi gweithredu gwelliannau mewn perthynas ag amseroedd aros yn y GIG yn yr Alban dros y blynyddoedd diwethaf.

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y daeth Swyddfa Archwilio Cymru i'r casgliad yn ei adroddiad ar 'Amseroedd aros y GIG ar gyfer gofal dewisol yng Nghymru' fod 'Lloegr a'r Alban yn perfformio'n well yn erbyn targedau llymach' yn eu gwasanaethau iechyd.

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar 'Amseroedd aros y GIG ar gyfer gofal dewisol yng Nghymru' ar gael yn http://www.wao.gov.uk/cy/cyhoeddi/amseroedd-aros-y-gig-ar-gyfer-gofal-dewisol-yng-nghymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.59

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5701 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau bod targedau'r GIG yng Nghymru yn cael eu cwrdd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

10

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

(60 munud)

6.

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM5702 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi:       

a) bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif y bydd un o bob pedwar oedolyn ym Mhrydain yn profi problem iechyd meddwl o fewn unrhyw flwyddyn benodol;

b) bod Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif y cynrychiolir 20% o'r 'baich afiechyd' yn y DU gan salwch meddwl ond mai dim ond 11% o wariant y GIG sy'n cael ei wario ar iechyd meddwl;

c) y gall problemau iechyd meddwl ryngweithio â chyflyrau eraill i waethygu lles unigolyn ymhellach;

d) yn ôl Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig, fod tri chwarter o anhwylderau meddwl ymysg oedolion yn dod i'r amlwg erbyn iddynt droi'n 21 oed, ond nad yw tri chwarter o'r plant a'r bobl ifanc sydd â'r anhwylderau hyn wedi cael diagnosis neu gael eu trin;

e) bod Stats Cymru wedi dangos bod pobl ifanc o dan 18 oed yn cynrychioli 85% o'r boblogaeth a wnaeth aros mwy na 18 wythnos ym mis Rhagfyr 2014 rhwng cael eu hatgyfeirio a chael eu triniaeth gyntaf ar gyfer problemau iechyd meddwl;

f) y canfu gwaith ymchwil gan Mind na fyddai 1 o bob 3 o weithwyr yn y DU yn gallu siarad yn agored â'u rheolwyr llinell am straen.

2. Yn croesawu gwaith ardderchog y trydydd sector o ran codi ymwybyddiaeth o les iechyd meddwl.

3. Yn credu bod yn rhaid i fwy gael ei wneud i gefnogi pobl i ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain.

4. Yn credu bod yn rhaid cael cydraddoldeb o ran y pwyslais a roddir ar iechyd meddwl a chorfforol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal astudiaeth i bennu pa gyllid ac adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran y pwyslais a roddir ar wasanaethau iechyd meddwl a chorfforol;

b) ehangu seiciatreg gyswllt yn y GIG i ddarparu cymorth gofal iechyd meddwl ar gyfer pobl sy'n cael eu trin ar gyfer problemau iechyd corfforol;

c) cynnig hyfforddiant cymorth iechyd meddwl a chyngor i bawb sy'n gweithio'n agos gyda phlant;

d) sicrhau bod pob athro dan hyfforddiant newydd yn cael hyfforddiant cymorth iechyd meddwl sylfaenol fel rhan o'r statws athro cymwysedig;

e) sicrhau bod cyflogwyr yn sicrhau bod gweithleoedd yn cynnig amgylchedd sy'n ystyriol o iechyd meddwl.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.54

Oherwydd nam technegol gyda’r system feicroffonau, cafodd y trafodion eu hatal am 17.18. Cafodd y gloch ei chanu cyn ailymgynnull am 17.30.

7.

Cyfnod pleidleisio

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.49

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

8.

Dadl Fer

NDM5703 Andrew RT Davies (Canol De Cymru):

Adnabod eich prostad!

Canser y prostad yng Nghymru - yr afiechyd cudd.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.51

NDM5703 Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Adnabod eich prostad!

Canser y prostad yng Nghymru - yr afiechyd cudd.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: