Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Ethol Dirprwy Lywydd dros dro

Cafodd Rhodri Glyn Thomas ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro.

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 11 a chwestiynau 13 a 15. Tynnwyd cwestiynau 12 ac 14 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.41

 

(30 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Canlyniadau Ymgynghoriad Cynnal Cymru Fyw

 

Dogfen Ategol
Cynnal Cymru Fyw

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.55

 

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i “Adolygu Ardrethi Busnes Cymru: Cymell Twf”

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.29

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-drefnu Addysg Uwch

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.02

 

(5 munud)

6.

Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

NNDM5065 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012.

Dogfennau Ategol
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol




Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.49

NNDM5065 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

NDM5070 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).

Gosodwyd Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 23 Ebrill 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 12 Hydref 2012.

Dogfennau Ategol
Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

NDM5070 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

8.

Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

NDM5071 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.39

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5071 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

13

52

Derbyniwyd y cynnig.

 

(60 munud)

9.

Dadl ar y Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol

NDM5069 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

Nodi Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru, sy’n gwireddu ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2012 ac sy’n nodi dyheadau Llywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu amgylchedd hanesyddol yng Nghymru sydd ar gael i’w fwynhau yn awr a chan genedlaethau’r dyfodol ac sy’n cael ei ddiogelu’n dda.

Cafodd Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru ei hanfon drwy’r e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 16 Hydref 2012.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu ar gael drwy’r linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/about/programmeforgov/?skip=1&lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Mewnosod fel pwynt 1 newydd:

Nodi y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb pwysig i economi Cymru.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

TYNNWYD YN ôL

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys y mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Cydnabod rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wrth warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar y Gweinidog i gydnabod mai’r ffordd orau y gall Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’i strategaeth yw drwy aros yn annibynnol.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar y Gweinidog i ystyried y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â CADW yn mynd yn fwy annibynnol ar Lywodraeth Cymru.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.40

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Mewnosod fel pwynt 1 newydd:

Nodi y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb pwysig i economi Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys y mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Cydnabod rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wrth warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar weddill y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar y Gweinidog i gydnabod mai’r ffordd orau y gall Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’i strategaeth yw drwy aros yn annibynnol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

6

27

51

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar y Gweinidog i ystyried y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â CADW yn mynd yn fwy annibynnol ar Lywodraeth Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

33

52

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5069 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1.   Nodi y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb pwysig i economi Cymru.

 

2.   Nodi Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru, sy’n gwireddu ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2012 ac sy’n nodi dyheadau Llywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu amgylchedd hanesyddol yng Nghymru sydd ar gael i’w fwynhau yn awr a chan genedlaethau’r dyfodol ac sy’n cael ei ddiogelu’n dda.

 

3.   Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys y mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl.

 

4.   Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu.

 

5.   Cydnabod rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wrth warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

13

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.26

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: