Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Penderfyniad:

Gofynnwyd y 15 cwestiwn.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Llywodraethu Addysg Bellach

(30 munud)

5.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Gorchymyn i ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd

(15 munud)

6.

Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

NDM4855 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2011.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011
Memorandwm EsboniadolAr gael yn Saesneg yn unig
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad

Penderfyniad:

NDM4855 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2011.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar Fanteision Rhannu Gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bersonol

NDM4856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, gyda chymorth technoleg, yn hanfodol er mwyn cwrdd ag amcanion ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a sicrhau’r newid i’r system sy’n angenrheidiol er mwyn darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig a chynaliadwy sy’n gwella canlyniadau, yn cefnogi pobl mewn angen ac yn darparu gofal yn agos at y cartref.

Dogfen Ategol
Gallwch weld ‘Law yn Llaw at Iechyd’ drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/together/?skip=1&lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu y bydd cynigion cyllideb ddrafft cyfredol Llywodraeth Cymru yn methu â rhoi digon o gyllid ar gyfer caffael systemau technoleg i fanteisio’n llawn ar rannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn credu, er mwyn cynyddu manteision rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso’r broses o ymgorffori hanes gwasanaeth cyn-filwyr yn eu cofnodion meddygol.

Penderfyniad:

NDM4856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, gyda chymorth technoleg, yn hanfodol er mwyn cwrdd ag amcanion ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a sicrhau’r newid i’r system sy’n angenrheidiol er mwyn darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig a chynaliadwy sy’n gwella canlyniadau, yn cefnogi pobl mewn angen ac yn darparu gofal yn agos at y cartref.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu y bydd cynigion cyllideb ddrafft cyfredol Llywodraeth Cymru yn methu â rhoi digon o gyllid ar gyfer caffael systemau technoleg i fanteisio’n llawn ar rannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

5

38

55

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, er mwyn cynyddu manteision rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso’r broses o ymgorffori hanes gwasanaeth cyn-filwyr yn eu cofnodion meddygol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

5

0

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, gyda chymorth technoleg, yn hanfodol er mwyn cwrdd ag amcanion ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a sicrhau’r newid i’r system sy’n angenrheidiol er mwyn darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig a chynaliadwy sy’n gwella canlyniadau, yn cefnogi pobl mewn angen ac yn darparu gofal yn agos at y cartref.

Yn credu, er mwyn cynyddu manteision rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso’r broses o ymgorffori hanes gwasanaeth cyn-filwyr yn eu cofnodion meddygol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

(15 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol)

NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau Ategol
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Hydref 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.(ii)

Y Pwyllgor Menter a Busnes: Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol)

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ychwanegwch fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.

I weld copi o’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/publicservicessocialvalue.html

Penderfyniad:

NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfnod Pleidleisio

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: