Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1, 2 a 3 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 5 ac 8 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 14. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Trosglwyddwyd cwestiwn 5 i’w ateb yn ysgrifenedig. Tynnwyd cwestiynau 8 a 9 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Gofynnwyd y 7 cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Trosglwyddwyd cwestiwn 7 i’w ateb yn ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4844 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod cyfraniad ac ymrwymiad anferth holl aelodau’r Lluoedd Arfog Cymreig; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cydnabod yn ffurfiol canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn 2014; b) gwneud popeth posibl i roi sylw i anghenion ein lluoedd arfog a chyn-filwyr gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma, gan gydnabod y bydd hyn yn golygu ymgysylltu’n uniongyrchol â nhw; ac c) datblygu a gweithredu Cerdyn penodol ar gyfer y Lluoedd Arfog. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd is-bwynt 2a): drwy, ymysg pethau eraill, archwilio’r posibilrwydd o sefydlu Sefydliad Heddwch yng Nghymru. [os derbynnir
gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 2 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt c, dileu “datblygu a gweithredu” ac yn ei le rhoi “ystyried gweithredu” Gwelliant 3 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ym mhwynt 2 c), dileu ‘datblygu a gweithredu’ ac yn ei le rhoi ‘ystyried dewisiadau ar gyfer ymgynghori ynghylch’ Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4844 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod cyfraniad ac ymrwymiad anferth holl aelodau’r Lluoedd Arfog Cymreig; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cydnabod yn ffurfiol canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn 2014; b) gwneud popeth posibl i roi sylw i anghenion ein lluoedd arfog a chyn-filwyr gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma, gan gydnabod y bydd hyn yn golygu ymgysylltu’n uniongyrchol â hwy; ac c) datblygu a gweithredu Cerdyn penodol ar gyfer y Lluoedd Arfog.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd is-bwynt 2a): drwy, ymysg pethau eraill, archwilio’r posibilrwydd o sefydlu Sefydliad Heddwch yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt c, dileu “datblygu a gweithredu” ac yn ei le rhoi “ystyried gweithredu” Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM4844 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod cyfraniad ac ymrwymiad anferth holl aelodau’r Lluoedd Arfog Cymreig; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cydnabod yn ffurfiol canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn 2014; b) gwneud popeth posibl i roi sylw i anghenion ein lluoedd arfog a chyn-filwyr gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma, gan gydnabod y bydd hyn yn golygu ymgysylltu’n uniongyrchol â hwy; ac c) ystyried gweithredu Cerdyn penodol ar gyfer y Lluoedd Arfog.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4845 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gwneud economi wledig Cymru yn fwy cystadleuol drwy wneud gwelliannau mewn seilwaith; b) diogelu dyfodol Cymru wledig drwy helpu busnesau gwledig i gynyddu nifer y swyddi a chynorthwyo pobl ifanc i aros mewn ardaloedd gwledig; ac c) ymrwymo i adolygu’r holl reoliadau a’r fiwrocratiaeth sy’n effeithio ar yr economi wledig. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd is-bwynt 1b): , ymwrthod ag ymdrechion i ddiwygio’r PAC mewn unrhyw ffordd a fydd yn tanseilio’r economi wledig. Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: ‘Yn gresynu bod cymorth penodol yn cael ei dynnu oddi wrth ffermwyr mewn Ardaloedd Llai Ffafriol dan y cynllun Glastir, a fydd yn cael effaith andwyol ar yr economi wledig.’ Gwelliant 3 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: ‘Yn croesawu’r £56.9 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddyrannu i gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru, a fydd yn help mawr i’r economi wledig.’ Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4845 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gwneud economi wledig Cymru yn fwy cystadleuol drwy wneud gwelliannau mewn seilwaith; b) diogelu dyfodol Cymru wledig drwy helpu busnesau gwledig i gynyddu nifer y swyddi a chynorthwyo pobl ifanc i aros mewn ardaloedd gwledig; ac c) ymrwymo i adolygu’r holl reoliadau a’r fiwrocratiaeth sy’n effeithio ar yr economi wledig.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4846 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i: a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol; b) delio â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, yn cynnwys dwyn prosiectau cyfalaf ymlaen er mwyn rhoi hwb i’r sector adeiladu ac i greu swyddi. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt 1, ar ôl ‘fethiant’, rhoi ‘presennol, a blaenorol,’ Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘presennol,’ a rhoi yn ei le chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu ac i greu swyddi yn y sector preifat. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: “Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella economi Cymru." Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: “Yn croesawu’r ffaith efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried galluogi ariannu drwy gynyddrannau treth i helpu adfywio economaidd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion pendant cyn gynted ag sy’n ymarferol.” Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd
Ardaloedd Menter i economi Cymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ar gyfer eu
cyflwyno. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4846 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i: a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol; b) ymdrin â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, yn cynnwys cyflwyno prosiectau cyfalaf er mwyn rhoi hwb i’r sector adeiladu a chreu swyddi.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ym mhwynt 1, ar ôl ‘fethiant’, rhoi ‘presennol, a blaenorol,’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘presennol,’ a rhoi yn ei le chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu ac i greu
swyddi yn y sector preifat. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: “Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae
wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella
economi Cymru." Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: “Yn croesawu’r ffaith efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried galluogi
ariannu drwy gynyddrannau treth i helpu adfywio economaidd, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion pendant cyn gynted ag sy’n ymarferol.” Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod
pwysigrwydd Ardaloedd Menter i economi Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyhoeddi amserlen ar gyfer eu cyflwyno. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd
gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM4846 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i: a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol; b) ymdrino â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu a chreu swyddi yn y sector preifat. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella economi Cymru.
Gwrthodwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4843 Leanne Wood
(Canol De Cymru): Banciau bwyd – ceginau cawl yr oes fodern? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |