Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 4, 9 a 12 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau. Tynnwyd cwestiwn 14 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Penderfyniad: Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 1 a 7 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Dulliau Llywodraeth Cymru i Sbarduno’r Economi |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn yr Aelodau NDM4820 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth weithredu o dan Reol Sefydlog Rhif 1.7, yn ethol David Melding AC, Mike Hedges AC, Peter Black AC a Jocelyn Davies AC, yn ymddiriedolwyr i gynllun pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle Rosemary Butler AC, John Griffiths AC, yr Arglwydd German a’r Arglwydd Wigley. Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4821 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Sefydlu ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’; a b) Penodi cydlynydd canser annibynnol i oruchwylio gweithredu’r ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’ hwnnw a chodi ymwybyddiaeth o ganser, cydlynu gwasanaethau a hyrwyddo mesurau ataliol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys ar
ddechrau pwynt 1: ‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt
b) a rhoi yn ei le: Adolygu pa gymorth
sydd angen ei roi ar
lefel Cymru gyfan i gynorthwyo GIG Cymru i fynd i’r afael â chanser Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4821 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Sefydlu ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’; a b) Penodi cydlynydd canser annibynnol i oruchwylio gweithredu’r ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’ hwnnw a chodi ymwybyddiaeth o ganser, cydlynu gwasanaethau a hyrwyddo mesurau ataliol.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys ar ddechrau pwynt 1: ‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt b) a rhoi yn ei le: Adolygu pa gymorth sydd angen ei roi ar lefel Cymru gyfan i gynorthwyo GIG Cymru i fynd i’r afael â chanser. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4821 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Sefydlu ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’; a b) Adolygu pa gymorth sydd angen ei roi ar lefel Cymru gyfan i gynorthwyo GIG Cymru i fynd i’r afael â chanser.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4822 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth y toriad o 41% yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ac effaith niweidiol hynny ar y sector adeiladu; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ysgogi’r economi drwy: a) Creu cronfa buddsoddiad seilwaith; b) Defnyddio pwerau benthyg Awdurdodau Lleol; c) Gweithredu i helpu i gynyddu canran y cwmnïau yng Nghymru sy’n ennill tendrau caffael cyhoeddus; a d) Chwilio am ffyrdd arloesol o godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith ar wahân i Fenter Cyllid Preifat. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt
1 a rhoi yn ei le “Yn nodi’r
gostyngiad o 41 y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru; ac” Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt
2d dileu “ar wahân i Fenter Cyllid Preifat” a rhoi yn ei
le “yn cynnwys Banc Buddsoddi Ewrop”. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
2: Bidio i leoli’r
Banc Buddsoddi Gwyrdd yng Nghaerdydd Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu
cyn lleied o gontractau Olympaidd a enillwyd dan y llywodraeth “Cymru’n Un" flaenorol, a allai fod wedi bod o fudd i’r sector adeiladu. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Cyflwyno proses ariannu drwy gynyddrannau
treth er mwyn galluogi awdurdodau
lleol i godi arian cyfalaf ar
gyfer prosiectau seilwaith. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Sefydlu cronfa
arloesedd i gynyddu nifer y patentau a sefydlu cynlluniau mentora busnes. Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4822 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth y toriad o 41y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ac effaith niweidiol hynny ar y sector adeiladu; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ysgogi’r economi drwy: a) Creu cronfa buddsoddiad seilwaith; b) Defnyddio pwerau benthyg Awdurdodau Lleol; c) Gweithredu i helpu i gynyddu canran y cwmnïau yng Nghymru sy’n ennill tendrau caffael cyhoeddus; a d) Chwilio am ffyrdd arloesol o godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith ar wahân i Fenter Cyllid Preifat.
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4824 Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
i: i) osod targedau
clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael
ar gael i bawb yng Nghymru
ni waeth pa fath o ganser sydd
ganddynt na lle maent yn
byw; ii) datblygu cynlluniau
clir ar gyfer
canfod canser yn gynharach yng
Nghymru. iii) sicrhau bod cefnogaeth
holistaidd yn cael ei darparu
i’r rheini sy’n byw â chanser
a’u teuluoedd o’r funud maent
yn amau bod ganddynt ganser, yn ystod eu
triniaeth ac ar ei hôl yn
ogystal ag ar ddiwedd bywyd;
b) Sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser; ac c) Datblygu cynllun i gefnogi’r rheini sy’n goroesi canser. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys ar
ddechrau pwynt 1: ‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau b.) ac
c.) a rhoi yn eu lle: sicrhau
bod pobl yn gallu cael gafael
ar driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg a phrydlon. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4824 Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
i: i) bennu targedau clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael
ar gael i bawb yng Nghymru
ni waeth pa fath o ganser sydd
ganddynt na lle maent yn
byw; ii) datblygu cynlluniau clir ar gyfer
canfod canser yn gynharach yng
Nghymru. iii) sicrhau bod cefnogaeth holistaidd yn cael
ei darparu i’r rheini sy’n
byw â chanser a’u teuluoedd o’r
funud maent yn amau bod ganddynt
ganser, yn ystod eu triniaeth
ac ar ei hôl yn ogystal
ag ar ddiwedd
bywyd; b) Sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser; ac c) Datblygu cynllun i gefnogi’r rheini sy’n goroesi canser.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys ar ddechrau pwynt 1: ‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau b.) ac c.) a rhoi yn eu lle: sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg a phrydlon. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM4824 Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cymeradwyaeth
unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
i: i) bennu targedau clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael
ar gael i bawb yng Nghymru
ni waeth pa fath o ganser sydd
ganddynt na lle maent yn
byw; ii) datblygu cynlluniau clir ar gyfer
canfod canser yn gynharach yng
Nghymru. iii) sicrhau bod cefnogaeth holistaidd yn cael
ei darparu i’r rheini sy’n
byw â chanser a’u teuluoedd o’r
funud maent yn amau bod ganddynt
ganser, yn ystod eu triniaeth
ac ar ei hôl yn ogystal
ag ar ddiwedd
bywyd; a b) sicrhau bod pobl
yn gallu cael gafael ar
driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg
a phrydlon.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4823 Joyce Watson
(Canolbarth a Gorllewin
Cymru): Busnesau Bach, Effaith Fawr Penderfyniad: NDM4823 Joyce Watson
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): Busnesau Bach, Effaith Fawr |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |