Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Cyhoeddodd y
Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 26.75 fod y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) a’r
Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) wedi cael Cydsyniad
Brenhinol ar 18 Ionawr. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw
ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 5 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys (10 munud) Dechreuodd yr eitem am
14.16 Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am honiadau gan bennaeth
y Coleg Brehinol Meddygaeth Frys yng Nghymru nad oedd gan yr un adran
damweiniau ac achosion brys yng Nghymru ddigon o feddygon ymgynghorol i fodloni
isafswm lefelau staffio y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys y llynedd?
EAQ(4)0676(HSS) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.30 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Tata Steel Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 14.47 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd: Y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.59 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Prentisiaethau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
16.35 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Y wybodaeth ddiweddaraf am yr agenda Diwygio Gwasanaethau Datganoledig Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.19 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Argymhellion a dyfodol y Cynllun Bathodynnau Glas yng Nghymru - Tynnwyd yn ôl - i’w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig Penderfyniad: Tynnwyd yr eitem yn ôl
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2016 NDM5918 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn)
(Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2015.
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 17.56 NDM5918 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn)
(Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2015. Derbyniwyd y Cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014 - 2015 NDM5919 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-2015. 'Adroddiad Blynyddol ar
Gydraddoldeb 2014-15' Cyflwynwyd y Gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw toriadau i'r
gyllideb cymunedau a threchu tlodi yn cael effaith andwyol ar gynnydd o ran
creu cymunedau mwy cydlynol a chynhwysol yng Nghymru. Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder y toriad arfaethedig o 68 y cant mewn
cyllid craidd i Anabledd Cymru. Gwelliant 3 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod cymhelliad hiliol i ychydig dros dri chwarter
o'r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn 2012-2013. Gwelliant 4 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith mai dim ond 13 y cant o blant sy'n
Sipsiwn/Sipsiwn Roma a 17 y cant o blant sy'n derbyn gofal a gyflawnodd TGAU
graddau A* i C, mewn mathemateg a naill ai Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf
yn 2014. Gwelliant 5 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran gwella gwasanaethau dysfforia rhywedd yng
Nghymru, ac yn galw am astudiaeth dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig
hunaniaeth rhywedd yng Nghymru. Gwelliant 6 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at recriwtio dienw yn
y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn cael eu barnu ar eu
gallu gwirioneddol i wneud swydd. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.59 NDM5919 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Adroddiad
Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-2015. Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad
yw toriadau i'r gyllideb cymunedau a threchu tlodi yn cael effaith andwyol ar
gynnydd o ran creu cymunedau mwy cydlynol a chynhwysol yng Nghymru. Derbyniwyd y
gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio. Gwelliant 2 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder y toriad arfaethedig o 68
y cant mewn cyllid craidd i Anabledd Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o
dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod cymhelliad hiliol i ychydig
dros dri chwarter o'r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn
2012-2013. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y
ffaith mai dim ond 13 y cant o blant sy'n Sipsiwn/Sipsiwn Roma a 17 y cant o
blant sy'n derbyn gofal a gyflawnodd TGAU graddau A* i C, mewn mathemateg a
naill ai Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf yn 2014. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Gweinidog
i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran gwella
gwasanaethau dysfforia rhywedd yng Nghymru, ac yn galw am astudiaeth ddichonolrwydd
annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth rhywedd yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at
recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn
cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5919 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r Adroddiad
Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-2015. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
nad yw toriadau i'r gyllideb cymunedau a threchu tlodi yn cael effaith andwyol
ar gynnydd o ran creu cymunedau mwy cydlynol a chynhwysol yng Nghymru. 3. Yn nodi bod cymhelliad hiliol i ychydig
dros dri chwarter o'r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn
2012-2013. 4. Yn gresynu at y ffaith mai dim ond 13 y
cant o blant sy'n Sipsiwn/Sipsiwn Roma a 17 y cant o blant sy'n derbyn gofal a
gyflawnodd TGAU graddau A* i C, mewn mathemateg a naill ai Saesneg neu Gymraeg
fel iaith gyntaf yn 2014. 5. Yn galw ar y
Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran
gwella gwasanaethau dysfforia rhywedd yng Nghymru, ac yn galw am astudiaeth
dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth rhywedd yng Nghymru. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at
recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn
cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 18.43 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|