Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4, 5 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd.
Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3 a 9
gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM5881 David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
pwysigrwydd cynhyrchu dur i economi Cymru; 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i barhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r diwydiant dur yn
ystod y cyfnod anodd hwn; a 3. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i gymryd camau brys ar nifer o feysydd, gan gynnwys mynd i'r afael â'r
costau ynni uchel a wynebir gan y diwydiannau ynni dwys yng Nghymru, megis y
diwydiant dur, er mwyn sicrhau y gallant gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr
Ewropeaidd eraill o fewn marchnad fyd-eang. Cefnogir gan: Lindsay Whittle (Dwyrain
De Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.05 NDM5881 David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur i economi
Cymru; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i wneud
popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r diwydiant dur yn ystod y cyfnod anodd hwn; a 3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys
ar nifer o feysydd, gan gynnwys mynd i'r afael â'r costau ynni uchel a wynebir
gan y diwydiannau ynni dwys yng Nghymru, megis y diwydiant dur, er mwyn sicrhau
y gallant gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr Ewropeaidd eraill o fewn marchnad
fyd-eang. Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5898 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adolygiad o
wariant a datganiad yr hydref Llywodraeth y DU; 2. Yn croesawu cyflwyno
llawr Barnett sy'n 115 y cant o wariant cymharol y pen yn Lloegr; a 3. Yn nodi y bydd
gwariant cyfalaf yng Nghymru yn codi dros £900 miliwn. Spending
Review and Autumn Statement 2015: documents (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y Gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2: 'ac yn nodi'r angen i gael cytundeb rhyng-lywodraethol ffurfiol er mwyn
sicrhau canlyniad sy'n hir ei barhad' Cefnogwyd gan: Aled Roberts (Gogledd Cymru) Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Mewnosod pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu tro pedol Llywodraeth DU ar ddileu'r system credydau treth, ond
yn nodi â phryder y gallai toriadau i gredyd cynhwysol arwain at golliadau
tebyg ar gyfer teuluoedd incwm isel erbyn 2020. Gwelliant 3 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at yr oedi o ran trydaneiddio prif reilffordd y Great Western o
Lundain i Abertawe a diffyg gwybodaeth ddiweddar am drydaneiddio rheilffordd
gogledd Cymru. Gwelliant 4 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y diffyg eglurder ynghylch faint o gymorth ariannol sydd ar
gael ar gyfer bargen dinas Caerdydd. Gwelliant 5 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith yr hepgorwyd prosiect morlyn llanw Bae Abertawe o
ddatganiad yr hydref. Gwelliant 6 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y toriad o 22 y cant yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU
sy'n bygwth ein gallu i gyrraedd targedau newid hinsawdd a datgarboneiddio yng
Nghymru. Gwelliant 7 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y toriad o £1.7 miliwn mewn cyllid ar gyfer S4C, er gwaethaf
yr ymrwymiad ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru i '(d)diogelu arian ac annibyniaeth
olygyddol S4C'. Maniffesto'r
Blaid Geidwadol i Gymru 2015 [os chynigwyd gwelliant 7,
bydd gwelliant 13 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 8 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weithio gyda'i gilydd i
ddiweddaru dadansoddiad Gerry Holtham o danariannu Cymru, ac yna cynyddu'r
grant bloc i lefel deg. Tegwch
ac atebolrwydd: setliad ariannu newydd i Gymru Gwelliant 9 – Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith na fydd Cymru – yn wahanol i'r Alban a Gogledd
Iwerddon – yn cael cyllid canlyniadol Barnett llawn o ganlyniad i brosiect
cyflymder uchel 2. Gwelliant 10 – Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi cynnydd o tua £945 miliwn yng nghyfran ganlyniadol Cymru o'r
cynnydd mewn gwariant ar iechyd yn Lloegr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
neilltuo'r swm hwn ar gyfer cyllidebau iechyd a gofal yng Nghymru. Gwelliant 11 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at gael gwared ar fwrsariaethau nyrsio yn Lloegr a'r ffaith eu
bod yn cael eu disodli gan fenthyciadau, a fydd yn cael effaith negyddol ar
gynllunio gweithlu yn y dyfodol a recriwtio yn y GIG yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gadarnhau a fydd cyllid ar gyfer astudiaethau nyrsio yng
Nghymru yn parhau. Gwelliant 12 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at gapio budd-daliadau tai i'r gyfradd lwfans tai lleol yn y
sector cymdeithasol sy'n peryglu'r bobl fwyaf agored i niwed ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i egluro effaith y penderfyniad hwn ar ddigartrefedd a
gwasanaethau llety eraill a gefnogir yng Nghymru. Gwelliant 13 – Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri ymrwymiad maniffesto i
warchod cyllideb S4C. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.05 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5898 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adolygiad o wariant a datganiad yr
hydref Llywodraeth y DU; 2. Yn croesawu cyflwyno llawr Barnett sy'n 115 y
cant o wariant cymharol y pen yn Lloegr; a 3. Yn nodi y bydd gwariant cyfalaf yng Nghymru yn
codi dros £900 miliwn.
Gwrthodwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2: 'ac yn nodi'r angen i gael
cytundeb rhyng-lywodraethol ffurfiol er mwyn sicrhau canlyniad sy'n hir ei
barhad' Cefnogwyd gan: Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
Derbyniwyd
Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Mewnosod pwynt 3 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu tro pedol
Llywodraeth y DU ar ddileu'r system credydau treth, ond yn nodi â phryder y
gallai toriadau i gredyd cynhwysol arwain at golliadau tebyg ar gyfer teuluoedd
incwm isel erbyn 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
Derbyniwyd
Gwelliant 2. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at yr oedi o ran
trydaneiddio prif reilffordd y Great Western o Lundain i Abertawe a diffyg
gwybodaeth ddiweddar am drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 3:
Derbyniwyd
Gwelliant 3. Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y diffyg
eglurder ynghylch faint o gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer bargen dinas
Caerdydd. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 4:
Derbyniwyd
Gwelliant 4. Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith yr
hepgorwyd prosiect morlyn llanw Bae Abertawe o ddatganiad yr hydref. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 5:
Derbyniwyd
Gwelliant 5. Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y toriad o 22 y
cant yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU sy'n bygwth ein gallu i gyrraedd
targedau newid hinsawdd a datgarboneiddio yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 6:
Derbyniwyd
Gwelliant 6. Gwelliant 7 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y toriad o £1.7
miliwn mewn cyllid ar gyfer S4C, er gwaethaf yr ymrwymiad ym maniffesto
Ceidwadwyr Cymru i '(d)diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C'. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 7:
Derbyniwyd
Gwelliant 7. Gwelliant 8 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru i weithio gyda'i gilydd i ddiweddaru dadansoddiad Gerry
Holtham o danariannu Cymru, ac yna cynyddu'r grant bloc i lefel deg. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 8:
Derbyniwyd
Gwelliant 8. Gwelliant 9 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith na fydd
Cymru – yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon – yn cael cyllid canlyniadol
Barnett llawn o ganlyniad i brosiect cyflymder uchel 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 9:
Gwrthodwyd Gwelliant 9. Gwelliant 10 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn nodi cynnydd o tua £945
miliwn yng nghyfran ganlyniadol Cymru o'r cynnydd mewn gwariant ar iechyd yn
Lloegr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo'r swm hwn ar gyfer cyllidebau
iechyd a gofal yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 10:
Gwrthodwyd
Gwelliant 10. Gwelliant 11 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at gael gwared ar
fwrsariaethau nyrsio yn Lloegr a'r ffaith eu bod yn cael eu disodli gan
fenthyciadau, a fydd yn cael effaith negyddol ar gynllunio gweithlu yn y
dyfodol a recriwtio yn y GIG yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gadarnhau a fydd cyllid ar gyfer astudiaethau nyrsio yng Nghymru yn parhau. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 11:
Gwrthodwyd
Gwelliant 11. Gwelliant 12 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at gapio
budd-daliadau tai i'r gyfradd lwfans tai lleol yn y sector cymdeithasol sy'n
peryglu'r bobl fwyaf agored i niwed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro
effaith y penderfyniad hwn ar ddigartrefedd a gwasanaethau llety eraill a
gefnogir yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 12:
Derbyniwyd
Gwelliant 12. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5898 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adolygiad o wariant a datganiad yr
hydref Llywodraeth y DU; 2. Yn croesawu cyflwyno llawr Barnett sy'n 115 y
cant o wariant cymharol y pen yn Lloegr ac yn nodi'r angen i gael
cytundeb rhyng-lywodraethol ffurfiol er mwyn sicrhau canlyniad sy'n hir ei
barhad. 3. Yn croesawu tro pedol
Llywodraeth DU ar ddileu'r system credydau treth, ond yn nodi â phryder y
gallai toriadau i gredyd cynhwysol arwain at golliadau tebyg ar gyfer teuluoedd
incwm isel erbyn 2020. 4. Yn nodi y bydd gwariant cyfalaf yng Nghymru yn
codi dros £900 miliwn. 5. Yn gresynu at yr oedi o ran
trydaneiddio prif reilffordd y Great Western o Lundain i Abertawe a diffyg
gwybodaeth ddiweddar am drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru. 6. Yn gresynu at y diffyg
eglurder ynghylch faint o gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer bargen dinas
Caerdydd. 7. Yn gresynu at y ffaith yr
hepgorwyd prosiect morlyn llanw Bae Abertawe o ddatganiad yr hydref. 8. Yn gresynu at y toriad o 22
y cant yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU sy'n bygwth ein gallu i gyrraedd
targedau newid hinsawdd a datgarboneiddio yng Nghymru. 9. Yn gresynu at y toriad o
£1.7 miliwn mewn cyllid ar gyfer S4C, er gwaethaf yr ymrwymiad ym maniffesto
Ceidwadwyr Cymru i '(d)diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C'. 10. Yn galw ar Lywodraeth y DU
a Llywodraeth Cymru i weithio gyda'i gilydd i ddiweddaru dadansoddiad Gerry
Holtham o danariannu Cymru, ac yna cynyddu'r grant bloc i lefel deg. 11. Yn gresynu at gapio
budd-daliadau tai i'r gyfradd lwfans tai lleol yn y sector cymdeithasol sy'n
peryglu'r bobl fwyaf agored i niwed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro
effaith y penderfyniad hwn ar ddigartrefedd a gwasanaethau llety eraill a
gefnogir yng Nghymru.
Derbyniwyd
y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5896 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod busnesau
bach yn rhan annatod o economïau cenedlaethol a chymunedol Cymru; 2. Yn croesawu'r rôl y
mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn ei chwarae o ran hyrwyddo busnesau bach Cymru; 3. Yn cydnabod y
cyfraniad y mae busnesau bach yn ei wneud tuag at sicrhau hunaniaeth cymunedau
lleol a hyrwyddo eu diwylliant a'u treftadaeth unigryw; 4. Yn cydnabod bod
busnesau bach, lleol yn darparu porth i gyflogaeth i lawer o bobl ifanc; a 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cynnig pecyn cymorth
gwell i fusnesau bach i wella eu cyfraniad i fywyd economaidd-gymdeithasol
Cymru; b) datblygu seilwaith
ledled Cymru i wasanaethu rhagolygon twf busnesau bach yng Nghymru yn well. Cyflwynwyd y Gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Mewnosod ar ddiwedd is-bwynt 5a: 'gan gynnwys creu gweinyddiaeth busnes bach o fewn banc datblygu Cymru,
sydd â'r dasg o ddarparu cymorth busnes mewn 'siop un stop' a mynediad amrywiol
at gyllid' Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Mewnosod ar ddiwedd is-bwynt 5b: 'gan gynnwys seilwaith digidol' Gwelliant 3 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: mynd i'r afael â rhwystrau sy'n atal microfusnesau yng Nghymru rhag tyfu,
er mwyn datblygu 'Mittelstand' yng Nghymru. Gwelliant 4 – Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach i gynnwys pob busnes â
gwerth ardrethol o £15,000 neu lai, sicrhau na fydd mentrau newydd yn talu
unrhyw ardrethi busnes am y flwyddyn gyntaf y byddant yn gweithredu ac
ailasesu'r eiddo at ddibenion ardrethi busnes bob tair blynedd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.05 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5896 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod busnesau bach yn rhan annatod o
economïau cenedlaethol a chymunedol Cymru; 2. Yn croesawu'r rôl y mae Dydd Sadwrn Busnesau
Bach yn ei chwarae o ran hyrwyddo busnesau bach Cymru; 3. Yn cydnabod y cyfraniad y mae busnesau bach yn
ei wneud tuag at sicrhau hunaniaeth cymunedau lleol a hyrwyddo eu diwylliant
a'u treftadaeth unigryw; 4. Yn cydnabod bod busnesau bach, lleol yn darparu
porth i gyflogaeth i lawer o bobl ifanc; a 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cynnig pecyn cymorth gwell i fusnesau bach i
wella eu cyfraniad i fywyd economaidd-gymdeithasol Cymru; b) datblygu seilwaith ledled Cymru i wasanaethu
rhagolygon twf busnesau bach yng Nghymru yn well.
Derbyniwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.01 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5897 Christine Chapman (Cwm Cynon) Gwastraffu ein talent?
Menywod a'r economi yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.06 NDM5897 Christine Chapman (Cwm
Cynon) Gwastraffu ein talent? Menywod a'r economi yng
Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |