Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.17 Gofynnwyd y 12
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am
15.00 Andrew
RT Davies (Canol De Cymru):
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ei benderfyniad i ddiswyddo cadeirydd
Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan Ewrop ar gyfer 2014-2020? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru - Tlodi ac Anghydraddoldeb NDM5842
Christine Chapman (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ar Dlodi yng Nghymru: tlodi ac anghydraddoldeb, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2015. Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Cymunedau a Threchu
Tlodi i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2015. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.07 NDM5842
Christine Chapman (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Dlodi yng Nghymru: tlodi
ac anghydraddoldeb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2015. Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM5832 Mick
Antoniw (Pontypridd) R Rhodri
Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ymfalchïo yn y berthynas dda sydd wedi'i sefydlu yng
Nghymru rhwng cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r
sector preifat; a 2. Yn credu: a) bod Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn ymosodiad
diangen ar hawliau democrataidd pobl sy'n gweithio ac y bydd yn tanseilio'r
cysylltiadau diwydiannol da ac adeiladol sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru ers
1999; b) bod peryg y bydd y Bil yn mynd yn groes i Ddeddf
Hawliau Dynol 1998 a chonfensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol;
a c) bod y Bil yn ymyrryd â meysydd y mae Llywodraeth Cymru
yn gyfrifol amdanynt ac na ddylid ei gymhwyso i Gymru heb gydsyniad Cynulliad
Cenedlaethol Cymru. Y Bil Undebau
Llafur (Saesneg yn unig) Deddf Hawliau Dynol
1998 (Saesneg yn unig) Confensiynau
87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (Saesneg yn unig) Cefnogir
gan: Alun Davies (Blaenau Gwent) Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Eluned Parrott (Canol De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) David Rees (Aberafan) Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ann Jones (Dyffryn Clwyd) Christine Chapman (Cwm Cynon) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Gwenda Thomas (Castell-nedd) William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Jeff Cuthbert (Caerffili) Lynne Neagle (Torfaen) Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Keith Davies (Llanelli) Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Sandy Mewies (Delyn) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.55 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5832 Mick Antoniw
(Pontypridd) R Rhodri Glyn
Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Peter Black
(Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn ymfalchïo yn y berthynas dda sydd wedi'i sefydlu yng Nghymru rhwng
cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat;
a 2.
Yn credu: a)
bod Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn ymosodiad diangen ar hawliau
democrataidd pobl sy'n gweithio ac y bydd yn tanseilio'r cysylltiadau
diwydiannol da ac adeiladol sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru ers 1999; b)
bod peryg y bydd y Bil yn mynd yn groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a
chonfensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol; a c)
bod y Bil yn ymyrryd â meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac
na ddylid ei gymhwyso i Gymru heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig:
Derbyniwyd y Cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5843
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu
cymorth digonol i ddiwallu anghenion penodol cymunedau gwledig Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod rownd arall o fanciau wedi'u
cau yng nghefn gwlad Cymru yn ddiweddar. Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal cyfarfod brys gyda
banciau manwerthu mawr i annog cefnogaeth ar gyfer model bancio cymunedol a
sicrhau presenoldeb bancio lleol cynaliadwy mewn cymunedau gwledig. Gwelliant
3 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i dalu rhan sylweddol o'r
taliad sylfaenol i gymaint o ffermwyr â phosibl ar y cyfle cyntaf o fewn cyfnod
talu'r Cynllun Taliad Sylfaenol. Gwelliant
4 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am gynllun o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n
cynnig cyllid mwy hygyrch ar raddfa fach i wella gwydnwch ac effeithlonrwydd
ffermydd Cymru. Gwelliant
5 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ddileu'r rheol chwe diwrnod ar wahardd symud
yn gynnar. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.43 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5843 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i ddiwallu
anghenion penodol cymunedau gwledig Cymru.
Gwrthodwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1
– Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at y ffaith bod rownd arall o fanciau wedi'u cau yng nghefn gwlad Cymru
yn ddiweddar. Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 1:
Derbyniwyd
Gwelliant 1. Gwelliant 2
– Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal cyfarfod brys gyda banciau manwerthu mawr i
annog cefnogaeth ar gyfer model bancio cymunedol a sicrhau presenoldeb bancio
lleol cynaliadwy mewn cymunedau gwledig. Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 2:
Gwrthodwyd
Gwelliant 2. Gwelliant 3
– Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
annog Llywodraeth Cymru i dalu rhan sylweddol o'r taliad sylfaenol i gymaint o
ffermwyr â phosibl ar y cyfle cyntaf o fewn cyfnod talu'r Cynllun Taliad
Sylfaenol. Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 3:
Derbyniwyd
Gwelliant 3. Gwelliant 4
– Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw am gynllun o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n cynnig cyllid mwy hygyrch
ar raddfa fach i wella gwydnwch ac effeithlonrwydd ffermydd Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 4:
Gwrthodwyd
Gwelliant 4. Gwelliant 5
– Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw am ddileu'r rheol chwe diwrnod ar wahardd symud yn gynnar. Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 5:
Gwrthodwyd
Gwelliant 5. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio NDM5843 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i ddiwallu
anghenion penodol cymunedau gwledig Cymru. 2.
Yn gresynu at y ffaith bod rownd arall o fanciau wedi'u cau yng nghefn gwlad
Cymru yn ddiweddar. 3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i dalu rhan sylweddol o'r taliad sylfaenol i gymaint
o ffermwyr â phosibl ar y cyfle cyntaf o fewn cyfnod talu'r Cynllun Taliad
Sylfaenol.
Gwrthodwyd
y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.38 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5844
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Diogelu cleifion yn Sir Benfro - pam mae angen
gwasanaethau hanfodol yn Ysbyty Llwynhelyg Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.42 NDM5844 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Diogelu cleifion yn Sir
Benfro - pam mae angen gwasanaethau hanfodol yn Ysbyty Llwynhelyg. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |