Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Ar ôl i’r Llywydd
ystyried ymhellach y pwynt o drefn a godwyd gan Leighton Andrews, y Gweinidog
Addysg a Sgiliau, ynghylch sylwadau a wnaed gan Antoinette Sandbach, yr Aelod
dros Ogledd Cymru, ar 22 Mehefin, atgyfnerthodd y dyfarniad fod Aelodau unigol
yn gyfrifol am gynnwys a chywirdeb eu cyfraniadau. Os caiff y cyfraniadau hynny
eu profi i fod yn anghywir, mae’r Llywydd yn disgwyl i Aelodau dynnu eu
sylwadau yn ôl yn syth ac i ymddiheuro. Pan fydd Aelodau’n cael eu gwahodd i
ymateb i Bwynt o Drefn, mae’n bosibl y byddant am egluro’u sylwadau. Fodd
bynnag, nid cyfle yw hyn i ymestyn y ddadl ymhellach. Os oes unrhyw amheuaeth
ynghylch yr hyn a ddywedwyd, dylai Aelodau ymatal rhag gwneud unrhyw bwyntiau
pellach, a darllen y Cofnod o’r hyn a ddywedwyd, unwaith y caiff ei gyhoeddi, i
gadarnhau’r sylwadau. Gwnaeth y Llywydd
atgoffa’r Aelodau bod disgwyl iddynt ddangos parch at ei gilydd ac i fod yn
gwrtais a bod disgwyl iddynt gydymffurfio â chyfarwyddiadau o’r Gadair. Er y
dylai trafodaethau yn y Cynulliad fod yn rhai cadarn, dyfarnodd y Llywydd na
ddylai unrhyw faterion bach am iaith, neu bwyntiau sy’n amherthnasol i’r
drafodaeth dan sylw neu i’r cyhoedd, fod yn destun pwynt o drefn yn rheolaidd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011 NDM4745 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod fersiwn drafft Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011
yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
1 Mehefin 2011. Dogfennau Ategol
Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM4745 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog
27.5 Yn cymeradwyo bod fersiwn drafft Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011 yn cael ei
lunio yn unol â’r fersiwn
drafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mehefin
2011. Cynhaliwyd pleidlais y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Wasanaethau Cymdeithasol NDM4746 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod mai'r gwerthoedd, yr egwyddorion a'r weledigaeth sydd wedi'u pennu
yn "Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu" yw'r allwedd i gyflawni ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau
cymdeithasol yng Nghymru; ac 2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac i arwain y rhaglen newid y mae gofyn ei
chynnal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fodloni
anghenion a dyheadau ein dinasyddion. Gwasanaethau Cymdeithasol
Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu: http://cymru.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/guidance1/services/?lang=cy Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 2, dileu’r
geiriau ‘parhau i fodloni’ a rhoi ‘bodloni’ yn eu
lle. Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Dileu pwynt 2. Gwelliant 3 - Nick
Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod manteision
defnyddio taliadau uniongyrchol i ddefnyddwyr gofal cymdeithasol ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i hybu eu defnydd lle
bo hynny’n briodol. Gwelliant 4 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cyflenwi ar gyfer gwasanaethau
cymdeithasol cynaliadwy yn amlinellu ei
hymrwymiad i ddatblygu ac arwain y rhaglen newid. Gwelliant 5 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynyddu’n
gyflym y defnydd o Gyllidebau Personol ar gyfer gwasanaethau
gofal. Penderfyniad: NDM4746 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
mai'r gwerthoedd, yr egwyddorion a'r weledigaeth sydd wedi'u pennu
yn "Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu" yw'r allwedd i gyflawni ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau
cymdeithasol yng Nghymru; ac 2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac i arwain y rhaglen newid y mae gofyn ei chynnal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fodloni anghenion a dyheadau ein dinasyddion. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Ym mhwynt 2, dileu’r geiriau ‘parhau i fodloni’ a rhoi ‘bodloni’ yn eu lle. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Dileu pwynt 2. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Nick
Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod manteision
defnyddio taliadau uniongyrchol i ddefnyddwyr gofal cymdeithasol ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i hybu eu defnydd lle
bo hynny’n
briodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cyflenwi ar gyfer gwasanaethau
cymdeithasol cynaliadwy yn amlinellu ei
hymrwymiad i ddatblygu ac arwain y rhaglen newid. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynyddu’n
gyflym y defnydd o Gyllidebau Personol ar gyfer gwasanaethau
gofal. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig: NDM4746 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
mai'r gwerthoedd, yr egwyddorion a'r weledigaeth sydd wedi'u pennu
yn "Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu" yw'r allwedd i gyflawni ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau
cymdeithasol yng Nghymru; ac 2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac i arwain y rhaglen newid y mae gofyn ei chynnal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fodloni anghenion a dyheadau ein dinasyddion. 3. Yn cydnabod manteision defnyddio taliadau uniongyrchol i ddefnyddwyr gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i hybu eu defnydd lle bo hynny’n briodol. 4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cyflenwi
ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn amlinellu
ei hymrwymiad i ddatblygu ac arwain y rhaglen newid.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar yr Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen NDM4747 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi'r ymdrech y mae'r Llywodraeth yn ei gwneud, drwy'r
Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, i symud adnoddau oddi wrth swyddogaethau
gweinyddol a chynorthwyol a'u trosglwyddo i reng flaen addysgu
a dysgu, ac i wella perfformiad addysgol a chyflawniadau dysgwyr ledled Cymru. 2. Yn croesawu cyfraniad Adroddiad y Grŵp
Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur
Gwasanaethau Addysg yng Nghymru i'r
Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen. Adroddiad y Grŵp
Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur
Gwasanaethau Addysg yng Nghymru: http://cymru.gov.uk/topics/educationandskills/publications/wagreviews/educationservicesreview/?lang=cy Gwelliant 1 -
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1: ‘gyda’r nod yn benodol o sicrhau
bod plant sy’n gadael ysgol gynradd yn
gallu darllen, ysgrifennu a chyfri i’r safon ddisgwyliedig’ Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen
i ystyried daearyddiaeth unigryw Cymru wrth
ffurfio unrhyw gonsortia addysg rhanbarthol yn y dyfodol. Gwelliant 3 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen
i fanteisio ar arbenigedd athrawon wrth ffurfio polisïau. Gwelliant 4 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod gweithio mewn ffordd amlasiantaethol
yn hanfodol er mwyn gwella
perfformiad addysgol Cymru. Penderfyniad: NDM4747 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi'r
ymdrech y mae'r Llywodraeth yn ei gwneud, drwy'r
Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, i symud adnoddau oddi wrth swyddogaethau
gweinyddol a chynorthwyol a'u trosglwyddo i reng flaen addysgu
a dysgu, ac i wella perfformiad addysgol a chyflawniadau dysgwyr ledled Cymru. 2. Yn croesawu cyfraniad Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru i'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 1 -
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1: ‘gyda’r
nod yn benodol o sicrhau bod plant sy’n gadael ysgol gynradd
yn gallu darllen, ysgrifennu a chyfri i’r safon
ddisgwyliedig’ Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen i ystyried daearyddiaeth unigryw Cymru wrth ffurfio unrhyw gonsortia addysg rhanbarthol yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant
2. Gwelliant 3 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen i fanteisio ar arbenigedd athrawon wrth ffurfio polisïau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant
3. Gwelliant 4 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod gweithio mewn ffordd
amlasiantaethol yn hanfodol er mwyn
gwella perfformiad addysgol Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant
4. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig: NDM4747 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi'r
ymdrech y mae'r Llywodraeth yn ei gwneud, drwy'r
Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, i symud adnoddau oddi wrth swyddogaethau
gweinyddol a chynorthwyol a'u trosglwyddo i reng flaen addysgu
a dysgu, ac i wella perfformiad addysgol a chyflawniadau dysgwyr ledled Cymru gyda’r nod yn benodol o sicrhau
bod plant sy’n gadael ysgol gynradd yn
gallu darllen, ysgrifennu a chyfri i’r safon ddisgwyliedig. 2. Yn croesawu cyfraniad Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru i'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen. 3. Yn cydnabod yr angen i ystyried daearyddiaeth unigryw Cymru wrth ffurfio unrhyw gonsortia addysg rhanbarthol yn y dyfodol. 4. Yn cydnabod yr angen i fanteisio ar arbenigedd athrawon wrth ffurfio polisïau. 5. Yn cydnabod bod gweithio mewn ffordd
amlasiantaethol yn hanfodol er mwyn
gwella perfformiad addysgol Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4744 Angela Burns (Gorllewin
Caerfyrddin a De Sir Benfro):
Colli’r ffordd
wrth bontio |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |