Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

 

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

(30 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y diweddaraf ar gamau gweithredu sy’n deillio o adroddiadau’r Pwyllgor Menter a Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.32

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cryfhau Polisi Caffael

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.06

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Adolygiad o’r Diwydiant Llaeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.40

(30 munud)

6.

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) (Cymru) 2015

NDM5732 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddraft o'r Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 yn cael eu llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2015.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.22

NDM5732 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddraft o'r Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 yn cael eu llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2015.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

7.

Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015

NDM5731 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2015.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim pwyntiau adrodd

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5731 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2015.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

9

0

46

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

8.

Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru

NDM5729 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru.

Gosodwyd Bil Cymwysterau Cymru a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 1 Rhagfyr 2014;  gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar  Bil Cymwysterau Cymru gerbron y Cynulliad ar 13 Mawrth 2015.

Dogfennau Ategol

Bil Cymwysterau Cymru

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.55

NDM5729 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru.

Gosodwyd Bil Cymwysterau Cymru a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 1 Rhagfyr 2014;  gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar  Bil Cymwysterau Cymru gerbron y Cynulliad ar 13 Mawrth 2015.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

9.

Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ar Fil Cymwysterau Cymru

NDM5730 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Cymwysterau Cymru, yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.34

NDM5730 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Cymwysterau Cymru, yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

10.

Cyfnod pleidleisio

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.37

 

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: