Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 4
a chwestiynau 3 ac 11 eu grwpio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 4 a 6 i 14. Tynnwyd cwestiwn 5
yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5684
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi na fu unrhyw welliant sylweddol yn nifer y
teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru gymryd
perchnogaeth o'r maes awyr. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o
ran datblygu llwybrau newydd o'r maes awyr a chynyddu gweithrediadau cludo
nwyddau; b) cyhoeddi prisiad marchnad cyfredol ar gyfer Maes Awyr
Caerdydd; ac c) cyhoeddi strategaeth glir a chynhwysfawr er budd
teithwyr, busnesau a threthdalwyr sy'n cynnwys cynigion ar gyfer llwybrau hir
ac yn archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys
dychwelyd y maes awyr i berchnogaeth breifat. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 1 a
rhoi yn ei le: Yn nodi y bydd
gwelliant yn nifer y teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol
yn dibynnu ar gefnogaeth llywodraeth a rheolaeth fasnachol gadarn. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn berchennog ar Faes Awyr Caerdydd heb
baratoi achos busnes llawn dros wneud hynny yn gyntaf. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda'i gilydd i ddatganoli toll
teithiau awyr pell i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi
strategaeth twf clir a chynhwysfawr, gan gynnwys cynigion ar gyfer llwybrau
pell; b) archwilio pob
opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys modelau buddsoddi
cyhoeddus a phreifat; ac c) sicrhau
datganoli toll teithwyr awyr er mwyn cynhyrchu llwybrau ychwanegol, cynyddu
nifer y teithwyr a rhoi hwb i economi Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.01 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5684
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi na fu unrhyw welliant sylweddol yn nifer y
teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru gymryd
perchnogaeth o'r maes awyr. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o
ran datblygu llwybrau newydd o'r maes awyr a chynyddu gweithrediadau cludo
nwyddau; b) cyhoeddi prisiad marchnad cyfredol ar gyfer Maes Awyr
Caerdydd; ac c) cyhoeddi strategaeth glir a chynhwysfawr er budd
teithwyr, busnesau a threthdalwyr sy'n cynnwys cynigion ar gyfer llwybrau hir
ac yn archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys
dychwelyd y maes awyr i berchnogaeth breifat.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 – Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi y bydd gwelliant yn nifer y teithwyr sy'n teithio
drwy Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth llywodraeth a
rheolaeth fasnachol gadarn. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn
berchennog ar Faes Awyr Caerdydd heb baratoi achos busnes llawn dros wneud
hynny yn gyntaf. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio
gyda'i gilydd i ddatganoli toll teithiau awyr pell i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi strategaeth twf clir a chynhwysfawr, gan
gynnwys cynigion ar gyfer llwybrau pell; b) archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr
Caerdydd, gan gynnwys modelau buddsoddi cyhoeddus a phreifat; ac c) sicrhau datganoli toll teithwyr awyr er mwyn cynhyrchu
llwybrau ychwanegol, cynyddu nifer y teithwyr a rhoi hwb i economi Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd
gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5684
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi y bydd gwelliant yn nifer y teithwyr sy'n
teithio drwy Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth
llywodraeth a rheolaeth fasnachol gadarn. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i
weithio gyda'i gilydd i ddatganoli toll teithiau awyr pell i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o
ran datblygu llwybrau newydd o'r maes awyr a chynyddu gweithrediadau cludo
nwyddau; b) cyhoeddi prisiad marchnad cyfredol ar gyfer Maes Awyr
Caerdydd; ac c) cyhoeddi strategaeth glir a chynhwysfawr er budd
teithwyr, busnesau a threthdalwyr sy'n cynnwys cynigion ar gyfer llwybrau hir
ac yn archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys
dychwelyd y maes awyr i berchnogaeth breifat.
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5681
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio symiau
canlyniadol Barnett blaenorol gan Lywodraeth y DU i roi'r gallu i awdurdodau lleol
rewi'r dreth gyngor i breswylwyr yng Nghymru; 2. Yn nodi ymhellach y byddai teuluoedd sy'n talu band D
y dreth gyngor yng Nghymru £149.31 y flwyddyn yn gyfoethocach pe bai
Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i rewi'r dreth gyngor ym mhob blwyddyn ers
2010; 3. Yn gresynu at y ffaith bod biliau treth gyngor wedi
cynyddu dros 150% yng Nghymru ers 1997/98, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r
fath wedi rhoi pwysau gormodol ar aelwydydd sydd o dan bwysau; a 4. Yn credu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wario
arian cyhoeddus gyda gofal a phwyll, er mwyn sicrhau bod cyfraddau treth gyngor
yn cael eu gosod mor isel â phosibl i breswylwyr a bod cyfraddau treth gyngor
yn darparu gwerth am arian i'r trethdalwr. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwyntiau 2
a 3 a rhoi yn eu lle: Yn nodi'r
sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu llywodraeth leol ac effaith mesurau llymder
Llywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus yng Nghymru. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 4 a
rhoi yn ei le: Yn credu mai
dyletswydd gyntaf awdurdodau lleol yn sgil y toriad 3.4% ar gyfartaledd yn y
setliad refeniw llywodraeth leol yw diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.00 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5681
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio symiau
canlyniadol Barnett blaenorol gan Lywodraeth y DU i roi'r gallu i awdurdodau
lleol rewi'r dreth gyngor i breswylwyr yng Nghymru; 2. Yn nodi ymhellach y byddai teuluoedd sy'n talu band D
y dreth gyngor yng Nghymru £149.31 y flwyddyn yn gyfoethocach pe bai
Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i rewi'r dreth gyngor ym mhob blwyddyn ers
2010; 3. Yn gresynu at y ffaith bod biliau treth gyngor wedi
cynyddu dros 150% yng Nghymru ers 1997/98, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r
fath wedi rhoi pwysau gormodol ar aelwydydd sydd o dan bwysau; a 4. Yn credu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wario
arian cyhoeddus gyda gofal a phwyll, er mwyn sicrhau bod cyfraddau treth gyngor
yn cael eu gosod mor isel â phosibl i breswylwyr a bod cyfraddau treth gyngor
yn darparu gwerth am arian i'r trethdalwr.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: Yn nodi'r sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu llywodraeth
leol ac effaith mesurau llymder Llywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus yng
Nghymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn credu mai dyletswydd gyntaf awdurdodau lleol yn sgil y
toriad 3.4% ar gyfartaledd yn y setliad refeniw llywodraeth leol yw diogelu
gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5681
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio symiau
canlyniadol Barnett blaenorol gan Lywodraeth y DU i roi'r gallu i awdurdodau
lleol rewi'r dreth gyngor i breswylwyr yng Nghymru; 2. Yn nodi'r sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu
llywodraeth leol ac effaith mesurau llymder Llywodraeth y DU ar wariant
cyhoeddus yng Nghymru. 3. Yn credu mai dyletswydd gyntaf awdurdodau lleol yn
sgil y toriad 3.4% ar gyfartaledd yn y setliad refeniw llywodraeth leol yw
diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd Nick Ramsay Bwynt o Drefn ynghylch y ffordd yr
oedd Ann Jones wedi cyfeirio at Janet Finch Saunders yn ystod y ddadl
flaenorol. Dywedodd y Dirprwy Lywydd, er y byddai’r term ‘rhagrithiwr’ yn sicr
allan o drefn, clywodd ef y gair ‘rhagrith’, a gellir caniatáu’r gair hwnnw yn
dibynnu ar y cyd-destun, ac i ba raddau yr oedd wedi’i anelu’n uniongyrchol at
gymeriad Aelod. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n bwrw golwg ar y cofnod,
ond anogodd yr Aelodau i feddwl am ffyrdd gwahanol o awgrymu bod anghysondebau
yng nghyfraniadau pobl eraill. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5686
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Cymru yn hanesyddol wedi gwneud cyfraniad
sylweddol i bortffolio ynni'r DU. 2. Yn gresynu at y darpariaethau ym Mil Seilwaith
Llywodraeth y DU a fydd yn caniatáu i gwmnïau ffracio ddrilio o dan gartrefi
yng Nghymru heb ganiatâd gan berchnogion yr eiddo. 3. Yn credu y dylai ynni gael ei ddatganoli'n llawn i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i
atal ffracio. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei
phŵer i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru hyd nes y profir bod ffracio
yn ddiogel yng nghyd-destun yr amgylchedd a iechyd cyhoeddus. Mae'r Bil Seilwaith ar gael ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/infrastructure.html (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwyntiau 2,
3 a 4 a rhoi yn eu lle: 2. Yn gresynu at
y ffaith y gwrthodwyd gwelliant trawsbleidiol i Fil Seilwaith Llywodraeth y DU
i weithredu moratoriwm ar ffracio am ddwy flynedd a hanner tra bod risgiau'n
cael eu hasesu. 3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithredu argymhellion Comisiwn Silk ar gyfer datganoli ynni
a thrwyddedu olew ar y tir ac echdynnu nwy i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol ag argymhelliad ar gyfer yr Alban gan Gomisiwn Smith. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru drwy gyhoeddi Nodyn
Cyngor Technegol newydd yn nodi'r safonau amgylcheddol ac iechyd a ddisgwylir o
weithrediadau ffracio a chyfarwyddo awdurdodau cynllunio i wrthod ceisiadau ar
gyfer gweithrediadau ffracio oni chaiff ei brofi i fod yn ddiogel ar gyfer yr
amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3
yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le: Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd cymunedau yn elwa o gronfa gymunedol
sylweddol, os bydd echdynnu nwy siâl yn digwydd. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 3 a
rhoi yn ei le: Yn galw am
ddatganoli cymhwysedd ar gyfer prosiectau ynni hyd at 100MW, ac i Lywodraeth
Cymru adeiladu capasiti ychwanegol ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau lleol yn cael dweud eu dweud wrth
benderfynu a ydynt eisiau cefnogi cynlluniau i archwilio nwy siâl yn eu hardal. Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canllawiau cynllunio cyfredol ar waith mewn
perthynas ag echdynnu nwy siâl. Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyllid ac arbenigedd digonol i
allu ymateb i drwyddedau i ddrilio am nwy siâl a sicrhau bod cyflenwadau dŵr daear a dŵr gwastraff yn cael eu monitro'n briodol i
sicrhau eu bod yn ddiogel ac na achosir risg sylweddol i iechyd pobl neu'r
amgylchedd. Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil sy'n ymwneud â'r meini prawf pellter diogel
gofynnol cyn cynnal gwaith ffracio yn agos i dai preswyl neu oddi tanynt. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16.59 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio: NDM5686 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod Cymru yn hanesyddol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i bortffolio
ynni'r DU. 2.
Yn gresynu at y darpariaethau ym Mil Seilwaith Llywodraeth y DU a fydd yn
caniatáu i gwmnïau ffracio ddrilio o dan gartrefi yng Nghymru heb ganiatâd gan
berchnogion yr eiddo. 3.
Yn credu y dylai ynni gael ei ddatganoli'n llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
ac y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i atal ffracio. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei phŵer i atal ffracio
rhag digwydd yng Nghymru hyd nes y profir bod ffracio yn ddiogel yng
nghyd-destun yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus.
Derbyniwyd y cynnig heb ei
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 17.56 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5685
Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynlluniau pensiynau diffoddwyr tân: sicrhau chwarae teg Sicrhau nad yw cyn-ddiffoddwyr tân ar eu colled o
ganlyniad i'r cynllun pensiwn diffoddwyr tân newydd. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 18.01 NDM5685 Peter Black
(Gorllewin De Cymru)
Cynlluniau
pensiynau diffoddwyr tân: sicrhau chwarae teg Sicrhau
nad yw cyn-ddiffoddwyr tân ar eu colled o ganlyniad i'r cynllun pensiwn
diffoddwyr tân newydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |