Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 5 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.30 Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Difrifol (Memorandwm Rhif 2) NDM5673
Leighton Andrews (Rhondda) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag ymddygiad cyfyngol neu orthrechol mewn perthnasoedd
personol neu deuluol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Gellir gweld copi o'r Bil yn: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.40 NDM5673 Leighton Andrews (Rhondda) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag
ymddygiad cyfyngol neu orthrechol mewn perthnasoedd personol neu deuluol, i'r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(iii). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.45. Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5675
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r cytundeb diweddar rhwng Llywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU ar drydaneiddio rheilffyrdd, a allai leihau lefelau
traffig ar yr M4. 2. Yn credu bod angen prosiect trafnidiaeth effeithlon,
ystyriol a strwythuredig sy'n rhoi gwerth am arian i economi Cymru a bod yn
rhaid iddo gael ei roi ar waith ar y cyfle cyntaf er mwyn lleddfu tagfeydd
cronig ar yr M4 o amgylch Casnewydd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad
llawn a chyflym o'r holl opsiynau, gan gynnwys rhoi ystyriaeth gyfartal i'r
llwybr glas, gyda'r prif nod o wella capasiti'r M4 er budd modurwyr a busnesau. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru ar y cyd i gynnal Astudiaeth fanwl o'r Effaith Amgylcheddol
ar lwybr dewisol Llywodraeth Cymru, ac na fydd gwaith adeiladu'n dechrau ar
ffordd liniaru'r M4 cyn etholiad nesaf y Cynulliad. [os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn a chyfartal
i'r llwybr glas wrth iddi barhau i ddatblygu ei chynigion ar gyfer coridor yr
M4 o amgylch Casnewydd. [os
derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella ffordd ddosbarthu
ddeheuol yr A48 a ffordd fynediad gwaith dur yr A4810 ger gwaith dur Llanwern
yng Nghasnewydd, fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer
de-ddwyrain Cymru yn cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith
cludo nwyddau ar drenau a gwella llwybrau strategol lleol. Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun
gwariant ehangach ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yn arwain at fuddsoddiad ac
adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg ar hyd a lled y wlad, nid dim ond o amgylch
yr M4 yng Nghasnewydd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.51 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5675 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn croesawu'r cytundeb
diweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar drydaneiddio
rheilffyrdd, a allai leihau lefelau traffig ar yr M4. 2. Yn credu bod angen prosiect
trafnidiaeth effeithlon, ystyriol a strwythuredig sy'n rhoi gwerth am arian i
economi Cymru a bod yn rhaid iddo gael ei roi ar waith ar y cyfle cyntaf er
mwyn lleddfu tagfeydd cronig ar yr M4 o amgylch Casnewydd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gomisiynu adolygiad llawn a chyflym o'r holl opsiynau, gan gynnwys rhoi
ystyriaeth gyfartal i'r llwybr glas, gyda'r prif nod o wella capasiti'r M4 er
budd modurwyr a busnesau.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth
Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y cyd i gynnal Astudiaeth fanwl o'r Effaith
Amgylcheddol ar lwybr dewisol Llywodraeth Cymru, ac na fydd gwaith adeiladu'n
dechrau ar ffordd liniaru'r M4 cyn etholiad nesaf y Cynulliad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
roi ystyriaeth lawn a chyfartal i'r llwybr glas wrth iddi barhau i ddatblygu ei
chynigion ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
wella ffordd ddosbarthu ddeheuol yr A48 a ffordd fynediad gwaith dur yr A4810
ger gwaith dur Llanwern yng Nghasnewydd, fel rhan o strategaeth drafnidiaeth
integredig ar gyfer de-ddwyrain Cymru yn cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth
gyhoeddus, seilwaith cludo nwyddau ar drenau a gwella llwybrau strategol lleol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod ei chynllun gwariant ehangach ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yn arwain
at fuddsoddiad ac adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg ar hyd a lled y wlad, nid
dim ond o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5675 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r cytundeb
diweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar drydaneiddio
rheilffyrdd, a allai leihau lefelau traffig ar yr M4. 2. Yn credu bod angen prosiect
trafnidiaeth effeithlon, ystyriol a strwythuredig sy'n rhoi gwerth am arian i
economi Cymru a bod yn rhaid iddo gael ei roi ar waith ar y cyfle cyntaf er
mwyn lleddfu tagfeydd cronig ar yr M4 o amgylch Casnewydd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gomisiynu adolygiad llawn a chyflym o'r holl opsiynau, gan gynnwys rhoi
ystyriaeth gyfartal i'r llwybr glas, gyda'r prif nod o wella capasiti'r M4 er
budd modurwyr a busnesau. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod ei chynllun gwariant ehangach ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth
yn arwain at fuddsoddiad ac adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg ar hyd a lled y
wlad, nid dim ond o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5678
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at yr effaith y mae'r polisi o lymder
wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain at: a) economi Cymru yn colli dros £1 biliwn drwy doriadau i
amddiffyn cymdeithasol; b) cynnydd yn nibyniaeth pobl ar fanciau bwyd; c) toriadau i wariant llywodraeth leol sydd wedi arwain
at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau yn ôl; d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth rhwng y cyfoethocaf a'r
tlotaf; a e) parhad mewn anghydbwysedd economaidd gyda
gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn cael ei
ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig. 2. Yn galw am: a) rhoi terfyn ar economeg o lymder; b) ail-gydbwyso grym a chyfoeth o fewn y wladwriaeth
Brydeinig; c) mabwysiadu polisïau economaidd a fydd yn arwain at
swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy; d) cynyddu'r isafswm cyflog i gyflog byw; e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r wladwriaeth les; f) cydraddoldeb ariannol rhwng Cymru a'r Alban; a g) datganoli ysgogiadau cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn cydnabod yr angen am reolaeth economaidd ddarbodus gan
lywodraethau ar bob lefel a'r angen i ddarparu sicrwydd economaidd i bobl Cymru
a'r DU. [os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi yr etifeddodd Llywodraeth Glymblaid y DU y
diffyg ariannol mwyaf erioed mewn cyfnod o heddwch. 2. Yn croesawu, diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn
Llywodraeth Glymblaid y DU: a) bod y diffyg yn y gyllideb wedi cael ei haneru; b) bod buddsoddiad net y sector cyhoeddus yn uwch fel
cyfran o CMC nag yr oedd rhwng 1997 a 2010; c) bod 1.8 miliwn o swyddi wedi cael eu creu; d) bod treth incwm wedi cael ei thorri £800 ar gyfer 1.2
miliwn o weithwyr yng Nghymru sydd ar incwm isel a chanolig drwy godi trothwy’r
dreth incwm i £10,500, gan arbed 153,000 o bobl rhag talu treth incwm yn gyfan
gwbl; e) bod y Banc Buddsoddi Gwyrdd cyntaf yn y byd wedi cael
ei sefydlu. f) bod cyflogwyr yn cael £2,000 o arian yn ôl ar y dreth
y maent yn ei thalu ar eu gweithwyr. g) y dilëwyd cynlluniau i dalu llai i weithwyr yn y
sector cyhoeddus yng Nghymru dim ond am eu bod yn byw y tu allan i Lundain a
de-ddwyrain Lloegr. h) bod y gyfradd gyflogaeth ar y lefel uchaf erioed o
£30.8 miliwn, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. i) bod tâl rheolaidd wedi cynyddu 1.8 y cant a thâl yn y
sector preifat wedi cynyddu 2.2 y cant, sy'n cynrychioli cynnydd uwch na
chwyddiant mewn cyflogau gweithwyr, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. 3. Yn credu: a) na all rhaglen flaengar gael ei darparu gan Lywodraeth
sy'n fethdalwr; b) na fyddai mynnu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth San
Steffan yn bosibl yng nghyd-destun Cymru annibynnol; ac c) y dylem gydbwyso'r gyllideb erbyn 2018, torri trethi
ar gyfer pobl sy'n ennill cyflogau isel a chanolig a sicrhau bod gwasanaethau
cyhoeddus digonol ar gael, gan greu cyfleoedd i bawb. 4. Yn galw am: a) lleihad teg yn y diffyg ariannol drwy sicrhau bod pobl
sy'n ennill cyflogau uchel a'r bobl gyfoethocaf yn talu eu rhan, gan gynnwys
drwy gyflwyno treth plastai wedi'i fandio; b) rheolau ariannol newydd i gydbwyso'r gyllideb wrth
ganiatáu ar gyfer buddsoddi cynhyrchiol; c) toriad pellach o £400 yn y dreth incwm ar gyfer pobl
sydd ar gyflog isel a chanolig; d) gweithredu cynigion Silk Rhan 1 ar bwerau ariannol i
Gymru yn llawn; a d) cyllid teg i Gymru, drwy gynyddu grant bloc Cymru i
lefel deg dros gyfnod Senedd a mynd i'r afael â'r anghydbwysedd drwy sefydlu
llawr Barnett ar lefel sy'n adlewyrchu'r angen i Gymru gael ei hariannu'n deg. [os
derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant
3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 1c) dileu 'toriadau i wariant llywodraeth leol'
a rhoi yn ei le 'y toriad digyffelyb o £1.5 biliwn gan Lywodraeth y DU i Grant
Bloc Llywodraeth Cymru'; Gwelliant
4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2f) a rhoi yn ei le: setliad ariannol teg ar frys i Gymru gan weithredu cyllid
gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o gydraddoldeb ariannol â'r Alban a gweddill
y DU; Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.50 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5678 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at yr effaith y
mae'r polisi o lymder wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain
at: a) economi Cymru yn colli dros
£1 biliwn drwy doriadau i amddiffyn cymdeithasol; b) cynnydd yn nibyniaeth pobl
ar fanciau bwyd; c) toriadau i wariant
llywodraeth leol sydd wedi arwain at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau
yn ôl; d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth
rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf; a e) parhad mewn anghydbwysedd
economaidd gyda gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn
cael ei ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig. 2. Yn galw am: a) rhoi terfyn ar economeg o
lymder; b) ail-gydbwyso grym a
chyfoeth o fewn y wladwriaeth Brydeinig; c) mabwysiadu polisïau
economaidd a fydd yn arwain at swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy; d) cynyddu'r isafswm cyflog i
gyflog byw; e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r
wladwriaeth les; f) cydraddoldeb ariannol rhwng
Cymru a'r Alban; a g) datganoli ysgogiadau
cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn cydnabod yr angen am reolaeth
economaidd ddarbodus gan lywodraethau ar bob lefel a'r angen i ddarparu
sicrwydd economaidd i bobl Cymru a'r DU. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi yr etifeddodd
Llywodraeth Glymblaid y DU y diffyg ariannol mwyaf erioed mewn cyfnod o
heddwch. 2. Yn croesawu, diolch i'r
Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y DU: a) bod y diffyg yn y gyllideb
wedi cael ei haneru; b) bod buddsoddiad net y sector
cyhoeddus yn uwch fel cyfran o CMC nag yr oedd rhwng 1997 a 2010; c) bod 1.8 miliwn o swyddi
wedi cael eu creu; d) bod treth incwm wedi cael
ei thorri £800 ar gyfer 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru sydd ar incwm isel a
chanolig drwy godi trothwy’r dreth incwm i £10,500, gan arbed 153,000 o bobl
rhag talu treth incwm yn gyfan gwbl; e) bod y Banc Buddsoddi Gwyrdd
cyntaf yn y byd wedi cael ei sefydlu; f) bod cyflogwyr yn cael
£2,000 o arian yn ôl ar y dreth y maent yn ei thalu ar eu gweithwyr; g) y dilëwyd cynlluniau i dalu
llai i weithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dim ond am eu bod yn byw y tu
allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr; h) bod y gyfradd gyflogaeth ar
y lefel uchaf erioed o £30.8 miliwn, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau
Gwladol; ac i) bod tâl rheolaidd wedi
cynyddu 1.8 y cant a thâl yn y sector preifat wedi cynyddu 2.2 y cant, sy'n
cynrychioli cynnydd uwch na chwyddiant mewn cyflogau gweithwyr, yn ôl
ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. 3. Yn credu: a) na all rhaglen flaengar
gael ei darparu gan Lywodraeth sy'n fethdalwr; b) na fyddai mynnu cyllid
ychwanegol gan Lywodraeth San Steffan yn bosibl yng nghyd-destun Cymru
annibynnol; ac c) y dylem gydbwyso'r gyllideb
erbyn 2018, torri trethi ar gyfer pobl sy'n ennill cyflogau isel a chanolig a
sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus digonol ar gael, gan greu cyfleoedd i bawb. 4. Yn galw am: a) lleihad teg yn y diffyg
ariannol drwy sicrhau bod pobl sy'n ennill cyflogau uchel a'r bobl gyfoethocaf
yn talu eu rhan, gan gynnwys drwy gyflwyno treth plastai wedi'i fandio; b) rheolau ariannol newydd i
gydbwyso'r gyllideb wrth ganiatáu ar gyfer buddsoddi cynhyrchiol; c) toriad pellach o £400 yn y
dreth incwm ar gyfer pobl sydd ar gyflog isel a chanolig; d) gweithredu cynigion Silk
Rhan 1 ar bwerau ariannol i Gymru yn llawn; a d) cyllid teg i Gymru, drwy
gynyddu grant bloc Cymru i lefel deg dros gyfnod Senedd a mynd i'r afael â'r
anghydbwysedd drwy sefydlu llawr Barnett ar lefel sy'n adlewyrchu'r angen i
Gymru gael ei hariannu'n deg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 1c) dileu 'toriadau
i wariant llywodraeth leol' a rhoi yn ei le 'y toriad digyffelyb o £1.5 biliwn
gan Lywodraeth y DU i Grant Bloc Llywodraeth Cymru'; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2f) a rhoi yn ei
le: setliad ariannol teg ar frys i
Gymru gan weithredu cyllid gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o gydraddoldeb
ariannol â'r Alban a gweddill y DU; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5678 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at yr effaith y mae'r
polisi o lymder wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain at: a) economi Cymru yn colli dros
£1 biliwn drwy doriadau i amddiffyn cymdeithasol; b) cynnydd yn nibyniaeth pobl
ar fanciau bwyd; c) toriadau i wariant llywodraeth
leol sydd wedi arwain at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau yn ôl; d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth
rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf; a e) parhad mewn anghydbwysedd
economaidd gyda gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn
cael ei ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig. 2. Yn galw am: a) rhoi terfyn ar economeg o
lymder; b) ail-gydbwyso grym a
chyfoeth o fewn y wladwriaeth Brydeinig; c) mabwysiadu polisïau
economaidd a fydd yn arwain at swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy; d) cynyddu'r isafswm cyflog i
gyflog byw; e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r
wladwriaeth les; f) setliad ariannol teg ar
frys i Gymru gan weithredu cyllid gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o
gydraddoldeb ariannol â'r Alban a gweddill y DU; g) datganoli ysgogiadau
cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5676
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod cael mynediad at gyfalaf ariannol i
fusnesau Cymru yn hanfodol er mwyn hybu twf yn y sector preifat. 2. Yn nodi bod gwella sgiliau poblogaeth Cymru yn
hanfodol i gynyddu cynhyrchiant a rhoi mantais gystadleuol i economi Cymru. 3. Yn nodi bod ein natur wledig a'n daearyddiaeth yn
golygu bod angen cynigion arloesol a radical i dyfu ein heconomi a gwella
cysylltedd. 4. Yn credu bod yna lawer o gryfderau a fydd yn helpu i
adeiladu economi Cymru, fel y ffaith ein bod yn agos at farchnadoedd y DU a'r
UE, pocedi cyfredol o arloesi a rhagoriaeth, a chapasiti hyfforddi. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth
gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg
datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau
a seilwaith Cymru, gan gynnwys drwy: a) creu banc datblygu yng Nghymru; b) datblygu rhwydweithiau o ymgynghorwyr i ddarparu
cymorth busnes proffesiynol; c) ymgorffori sgiliau ehangach megis entrepreneuriaeth,
arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cwricwlwm; d) datganoli mwy o bwerau dros ddatblygu economaidd o Fae
Caerdydd, yn uniongyrchol i gymunedau; e) gwella ein seilwaith trafnidiaeth drwy gefnogi
trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd, datblygu awdurdodau
trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau darpariaeth
addas; ac ariannu astudiaeth ddichonoldeb i adfer y cysylltiadau rheilffordd
rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith presennol; ac f) lansio adolygiad radical a systematig o'r modd y mae
ardrethi busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ail rifo yn unol â hynny: Yn cydnabod bod sector preifat llwyddiannus, gan gynnwys
mentrau cymdeithasol, yn hanfodol ar gyfer twf economaidd cynaliadwy ledled
Cymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Gwelliant
2 – Elin Jones (Ceredigion) Yn is-bwynt 5(e), mewnosoder ar ôl 'Prif Linell
Reilffordd Arfordir y Gogledd': 'a Llinell y Gororau'. Gwelliant
3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 5e) dileu 'datblygu awdurdodau trafnidiaeth
teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau darpariaeth addas' a
rhoi yn ei le 'datblygu model nad yw'n talu difidend fel rhan allweddol o
ddarparu system drafnidiaeth integredig'. Gwelliant
4 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach i roi
rhyddhad o 100% i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £10,000 neu lai a
rhyddhad sy'n lleihau'n raddol ar gyfer y rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng
£10,001 a £15,000. Gwelliant
5 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: sefydlu corff newydd i weithio ochr yn ochr â UKTI i
adeiladu perthynas fasnachu rhwng busnesau Cymru a'r gymuned ryngwladol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.50 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5676 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod cael mynediad
at gyfalaf ariannol i fusnesau Cymru yn hanfodol er mwyn hybu twf yn y sector
preifat. 2. Yn nodi bod gwella sgiliau
poblogaeth Cymru yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant a rhoi mantais gystadleuol
i economi Cymru. 3. Yn nodi bod ein natur
wledig a'n daearyddiaeth yn golygu bod angen cynigion arloesol a radical i dyfu
ein heconomi a gwella cysylltedd. 4. Yn credu bod yna lawer o
gryfderau a fydd yn helpu i adeiladu economi Cymru, fel y ffaith ein bod yn
agos at farchnadoedd y DU a'r UE, pocedi cyfredol o arloesi a rhagoriaeth, a
chapasiti hyfforddi. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a
mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i
fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru, gan gynnwys drwy: a) creu banc datblygu yng
Nghymru; b) datblygu rhwydweithiau o
ymgynghorwyr i ddarparu cymorth busnes proffesiynol; c) ymgorffori sgiliau ehangach
megis entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cwricwlwm; d) datganoli mwy o bwerau dros
ddatblygu economaidd o Fae Caerdydd, yn uniongyrchol i gymunedau; e) gwella ein seilwaith
trafnidiaeth drwy gefnogi trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Arfordir y
Gogledd, datblygu awdurdodau trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth
gyhoeddus a sicrhau darpariaeth addas; ac ariannu astudiaeth ddichonoldeb i
adfer y cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu
â'r rhwydwaith presennol; ac f) lansio adolygiad radical a
systematig o'r modd y mae ardrethi busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt 1 newydd ac
ail-rifo yn unol â hynny: Yn cydnabod bod sector preifat
llwyddiannus, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn hanfodol ar gyfer twf
economaidd cynaliadwy ledled Cymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau
cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion) Yn is-bwynt 5(e), mewnosoder ar
ôl 'Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd': 'a Llinell y Gororau'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 5e) dileu 'datblygu
awdurdodau trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau
darpariaeth addas' a rhoi yn ei le 'datblygu model nad yw'n talu difidend fel
rhan allweddol o ddarparu system drafnidiaeth integredig'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 5: ymestyn y Cynllun Rhyddhad
Ardrethi i Fusnesau Bach i roi rhyddhad o 100% i bob busnes sydd â gwerth
ardrethol o £10,000 neu lai a rhyddhad sy'n lleihau'n raddol ar gyfer y rhai
sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,001 a £15,000. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 5: sefydlu corff newydd i weithio
ochr yn ochr â UKTI i adeiladu perthynas fasnachu rhwng busnesau Cymru a'r
gymuned ryngwladol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5676 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod sector preifat
llwyddiannus, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn hanfodol ar gyfer twf
economaidd cynaliadwy ledled Cymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau
cyhoeddus. 2. Yn nodi bod cael mynediad
at gyfalaf ariannol i fusnesau Cymru yn hanfodol er mwyn hybu twf yn y sector
preifat. 3. Yn nodi bod gwella sgiliau
poblogaeth Cymru yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant a rhoi mantais gystadleuol
i economi Cymru. 4. Yn nodi bod ein natur
wledig a'n daearyddiaeth yn golygu bod angen cynigion arloesol a radical i dyfu
ein heconomi a gwella cysylltedd. 5. Yn credu bod yna lawer o
gryfderau a fydd yn helpu i adeiladu economi Cymru, fel y ffaith ein bod yn
agos at farchnadoedd y DU a'r UE, pocedi cyfredol o arloesi a rhagoriaeth, a
chapasiti hyfforddi. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a
mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i
fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru, gan gynnwys drwy: a) creu banc datblygu yng
Nghymru; b) datblygu rhwydweithiau o
ymgynghorwyr i ddarparu cymorth busnes proffesiynol; c) ymgorffori sgiliau ehangach
megis entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cwricwlwm; d) datganoli mwy o bwerau dros
ddatblygu economaidd o Fae Caerdydd, yn uniongyrchol i gymunedau; e) gwella ein seilwaith
trafnidiaeth drwy gefnogi trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Arfordir y
Gogledd, datblygu model nad yw'n talu difidend fel rhan allweddol o ddarparu
system drafnidiaeth integredig; ac ariannu astudiaeth ddichonoldeb i adfer y
cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r
rhwydwaith presennol; ac f) lansio adolygiad radical a
systematig o'r modd y mae ardrethi busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.47 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5679
Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cefnogi sefydlu Rhwydwaith Cydgynhyrchu i Gymru Adeiladu ar ein traddodiadau gorau o gydweithredu a
chymuned, i drawsnewid Cymru yn gymdeithas sy'n rhoi egwyddorion cydgynhyrchu
yn ganolog i'w gwasanaethau cyhoeddus, ei chymunedau a bywydau ei dinasyddion. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.55 NDM5679
Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cefnogi sefydlu Rhwydwaith Cydgynhyrchu i Gymru Adeiladu ar ein traddodiadau gorau o gydweithredu a
chymuned, i drawsnewid Cymru yn gymdeithas sy'n rhoi egwyddorion cydgynhyrchu yn
ganolog i'w gwasanaethau cyhoeddus, ei chymunedau a bywydau ei dinasyddion. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |