Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.21 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno'r Bil Cymwysterau Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.53 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Gwyddoniaeth yng Nghymru - Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.45 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Effaith y Polisi Caffael yng Nghymru NDM5640 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol: 1. Yn nodi: a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi
Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012; b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio ar
y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU. I weld Datganiad Polisi Caffael Cymru, ewch i'r linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2012/welshprocurement/?skip=1&lang=cy Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod: a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau
yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr
economi a'r farchnad lafur; b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng
nghyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru
yn creu 2,000 o swyddi newydd. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y newidiadau
yn rheolau caffael yr UE ac anelu at ddyfarnu o leiaf 75% o dendrau sector
cyhoeddus i gwmnïau o Gymru. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol
bod sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth
Cymru. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu
diweddariadau rheolaidd ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael
Cymru gan awdurdodau lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y gyfran isel o gontractau sy'n mynd i
gwmnïau sydd â phencadlys yng Nghymru. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod
cyrff cyhoeddus yn asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau
caffael cyhoeddus gael eu bwndelu. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.19 NDM5640 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol: 1. Yn nodi: a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi
Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012; b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio
ar y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod: a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau yn y sector
cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr economi a'r
farchnad lafur; b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng nghyfran y tendrau
yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru yn creu 2,000 o
swyddi newydd. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Gwelliant 2 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y newidiadau yn rheolau
caffael yr UE ac anelu at ddyfarnu o leiaf 75% o dendrau sector cyhoeddus i
gwmnïau o Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol bod
sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd
ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael Cymru gan awdurdodau
lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y gyfran isel o gontractau sy'n mynd i gwmnïau sydd â
phencadlys yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn
asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau caffael cyhoeddus
gael eu bwndelu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5640 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol: 1. Yn nodi: a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi
Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012; b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio
ar y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU. 2. Yn cydnabod: a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau yn y sector
cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr economi a'r
farchnad lafur; b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng nghyfran y tendrau
yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru yn creu 2,000 o
swyddi newydd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol bod
sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth Cymru. 4. Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau
rheolaidd ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael Cymru gan
awdurdodau lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus
yn asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau caffael cyhoeddus
gael eu bwndelu.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol 2014 ar y Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau NDM5641 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth
camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir
arno yn adroddiad blynyddol 2014. I weld adroddiad blynyddol 2014 ar y strategaeth camddefnyddio sylweddau,
ewch i'r linc a ganlyn: Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau
cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â phroblemau mewn perthynas â
chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i gynnal
cyflogaeth. Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn llongyfarch arloeswyr therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar
adfer yng Nghymru. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno gwasanaethau haen 4 ar
gyfer adsefydlu preswyl a gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbytai ar sail
gynaliadwy a thymor hir yng Nghymru. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Gartref 'Drugs: International
Comparators' ac yn credu mai'r ffordd orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy
drin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater
troseddol. Mae'r adroddiad hwn ar gael yn: https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/368489/DrugsInternationalComparators.pdf
(Saesneg yn unig) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.57 NDM5641 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth
camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir
arno yn adroddiad blynyddol 2014. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau
cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â phroblemau mewn perthynas â
chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i gynnal cyflogaeth. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn llongyfarch arloeswyr therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar
adfer yng Nghymru. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Gwelliant 3 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno gwasanaethau haen 4
ar gyfer adsefydlu preswyl a gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbytai ar
sail gynaliadwy a thymor hir yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Gartref 'Drugs: International
Comparators' ac yn credu mai'r ffordd orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy
drin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater
troseddol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5641 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i
wneud o ran gweithredu'r strategaeth camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n
Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir arno yn adroddiad blynyddol 2014. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â
phroblemau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a
chefnogaeth i gynnal cyflogaeth. 3.
Yn llongyfarch arloeswyr
therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar adfer yng Nghymru. 4.
Yn croesawu cyhoeddi adroddiad
y Swyddfa Gartref 'Drugs: International Comparators' ac yn credu mai'r ffordd
orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy drin camddefnyddio sylweddau fel
mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater troseddol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.47 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|