Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd yr eitem am 14.18 William Graham (Dwyrain De
Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad i adfer hyder y cyhoedd yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd
meddwl yn sgil y digwyddiad yn Argoed a arweiniodd at farwolaeth dau o bobl? |
||
Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd yr eitem am 14.26 Eluned
Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweidog ddatganiad ar yr eiddo a brynwyd gan
Lywodraeth Cymru i wneud lle i ‘lwybr du’ yr M4 cyn y gwnaed penderfyniad
terfynol ar y llwybr? |
||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.35 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Diweddariad ar Raglenni'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.47 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Adroddiad y Farwnes Kay Andrews ynghylch Diwylliant a Thlodi - Ymateb gan Lywodraeth Cymru Dogfen
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.24 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Y Cyflenwad Tai Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.05 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr Adolygiad o Asiantau Cefnffyrdd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.44 |
|
(60 munud) |
Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru NDM5613 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) Gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng
Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog; b) Y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y Gweinidog
Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru; c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng
Nghymru. Mae Pecyn Cymorth Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
ar gael o'r ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/armedforces/packagesupport/?lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer
2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?' Mae Maniffesto'r Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer 2015
ar gael yn: http://www.britishlegion.org.uk/media/4044612/Extend
e d-Manifesto.pdf (Saesneg yn unig) Mae Cyfamodau Cymunedol y Lleng Brydeinig Frenhinol ar
gael yn: http://www.britishlegion.org.uk/media/3978192/ComCov_whats_next.pdf
(Saesneg yn unig) Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r angen: a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl i gyn-filwyr; b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y
Lluoedd Arfog; ac c) am ddarpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i
gyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth
di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd
â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol. Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd
Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai
sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.14 NDM5613
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) Gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog; b) Y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y
Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng
Nghymru; c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd
Arfog yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer
2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?' Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r angen: a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl i gyn-filwyr; b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y
Lluoedd Arfog; ac c) am ddarpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i
gyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth
di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd
â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
4 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd
Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai
sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth. Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5613
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) Gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog; b) Y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y
Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng
Nghymru; c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd
Arfog yng Nghymru. 2. Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar
gyfer 2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?' 3. Yn nodi'r angen: a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl i gyn-filwyr; b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y
Lluoedd Arfog; ac c) am ddarpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i
gyn-filwyr y Lluoedd Arfog. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth
di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd
â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd
Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai
sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth. Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio. |
||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |