Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3, 6 a 8 eu grwpio.
Atebwyd cwestiwn 2 a 4 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Purfa Murco, Aberdaugleddau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.20 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Penderfyniad: Ni
chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru NDM5610
David Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Anghymhwyso Person rhag bod yn Aelod o Gynulliad
Cenedlaethol Cymru, a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Gorffennaf
2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.50 NDM5610 David Melding (Canol
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar
ei ymchwiliad i Anghymhwyso Person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol
Cymru, a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Gorffennaf 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5608
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Triniaethau
Canser i Gymru. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa technolegau
iechyd i gynnwys meddyginiaethau ar gyfer canser a chlefydau eraill. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu popeth ar ôl "sefydlu" a rhoi "dull
gweithredu Cymru gyfan er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch o ran mynediad at
driniaethau canser" yn ei le. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.24 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5608 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Triniaethau Canser i Gymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa technolegau
iechyd i gynnwys meddyginiaethau ar gyfer canser a chlefydau eraill. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu popeth ar ôl "sefydlu" a rhoi "dull
gweithredu Cymru gyfan er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch o ran mynediad at
driniaethau canser" yn ei le. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5608 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dull
gweithredu Cymru gyfan er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch o ran mynediad at
driniaethau canser.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5611
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb
rhwng y bobl a'r rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y
naill Lywodraeth y DU ar ôl y llall. 2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd
yn 62.7% o gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%. 3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i
ffwrdd o grynodiad o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr. 4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU
ar y sector gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn
sector twf yng Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd
economi Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial
economaidd Cymru; b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd
sydd ei angen fwyaf; c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig
cyllid i fusnesau bach ar gyfraddau cystadleuol; a d) ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i
fod yn gymwys i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 1, ar ôl DU mewnosoder "a Llywodraeth
Cymru" Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3: ac yn cydnabod hefyd yr angen i newid cydbwysedd economi
Cymru i ffwrdd o grynodiad o gyfoeth ar hyd coridor de Cymru (yr M4). Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod y sefydlogrwydd economaidd sy'n deillio o
bolisïau Llywodraeth y DU sydd yn ysgogi twf economaidd ledled y DU. Gwelliant
4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 5(d). Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: Paratoi strategaeth allforio glir i Gymru i uno
dyfeisgarwch sector preifat â chefnogaeth sector cyhoeddus. Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynigion y
Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnwys cael gwared ar Cyllid Cymru a sefydlu Buddsoddi
Cymru yn ei le. Gwelliant
7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y dirywiad yn GYC Cymru o dan 15 mlynedd o
Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.24 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5611 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb rhwng y bobl a'r
rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y naill Lywodraeth y DU
ar ôl y llall. 2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 62.7% o
gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%. 3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i ffwrdd o
grynodiad o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr. 4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU ar y sector
gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn sector twf yng
Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd economi Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial economaidd Cymru; b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd sydd ei angen
fwyaf; c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig cyllid i fusnesau
bach ar gyfraddau cystadleuol; a d) ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i fod yn gymwys i
bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 1, ar ôl DU mewnosoder "a Llywodraeth
Cymru" Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3: ac yn cydnabod hefyd yr angen i newid cydbwysedd economi
Cymru i ffwrdd o grynodiad o gyfoeth ar hyd coridor de Cymru (yr M4). Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod y sefydlogrwydd economaidd sy'n deillio o
bolisïau Llywodraeth y DU sydd yn ysgogi twf economaidd ledled y DU. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 5(d). Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: Paratoi strategaeth allforio glir i Gymru i uno
dyfeisgarwch sector preifat â chefnogaeth sector cyhoeddus. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol
Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio
yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynigion y
Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnwys cael gwared ar Cyllid Cymru a sefydlu Buddsoddi
Cymru yn ei le. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant
7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y dirywiad yn GYC Cymru o dan 15 mlynedd o
Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5611 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb rhwng y bobl a'r
rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y naill Lywodraeth y DU
ar ôl y llall. 2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 62.7% o
gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%. 3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i ffwrdd o grynodiad
o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr. 4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU ar y sector
gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn sector twf yng
Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd economi Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial economaidd Cymru; b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd sydd ei angen
fwyaf; c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig cyllid i fusnesau
bach ar gyfraddau cystadleuol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.19 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5612
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Gwella bywydau pobl hŷn Pum ffordd syml a rhad o wella bywydau pobl hŷn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.24. NDM5612 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Gwella bywydau pobl hŷn Pum ffordd syml a rhad o wella
bywydau pobl hŷn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |