Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Safodd Paul
Davies i mewn dros Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig a safodd Aled Roberts i mewn
dros Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 |
|||||||||
(90 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.28 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Y Cynllun Gweithredu Sgiliau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.48 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Archwiliadau Dirybudd mewn Ysbytai Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 16.18 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi: Cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 16.57 |
|||||||||
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2014 - Gohiriwyd |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2014-15 NDM5541
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb
Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 24 Mehefin 2014. Troednodyn: Yn unol
â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog
20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: (i) y
datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru; (ii) yr
adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad
rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad
rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr
Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad
rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r
symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn
yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfen
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.26 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio. NDM5541 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn
cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd
Mawrth, 24 Mehefin 2014. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.51 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |