Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 13.30 Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ymadawiad y Gweinidog
Cyfoeth Naturiol a Bwyd o’r Cabinet? |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.38 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2, 4 i 10
a 12 i 15. Ni ofynwyd cwestiwn 3. Tynnwyd
cwestiwn 11 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.25 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Cyflwyno Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.46 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn Williams Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.43 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y Papur Gwyn Llywodraeth Leol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16.27 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (i’w ddarparu gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.10 |
|||||||||
(15 munud) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd NDM5549
Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau Yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a’r
Llysoedd sy’n cyflwyno gofyniad i gael caniatâd yr Uchel Lys cyn y ceir herio
dilysrwydd amrywiol orchmynion, camau, cynlluniau a dogfennau strategol eraill
sy’n ymwneud â chynllunio, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2014 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25
Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae
copi o'r Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd i'w weld yma: http://services.parliament.uk/bills/2013-14/criminaljusticeandcourts.html
[ Saesneg yn unig] Dogfennau Ategol Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 17.42 NNDM5549 Carl Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd sy’n cyflwyno gofyniad
i gael caniatâd yr Uchel Lys cyn y ceir herio dilysrwydd amrywiol orchmynion,
camau, cynlluniau a dogfennau strategol eraill sy’n ymwneud â chynllunio, i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd o Brydain) 2014 NNDM5550
Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf
Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn
Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd o Brydain) 2014, yn unol â'r drafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mai 2014. Gosodwyd
y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mai 2014. Dogfennau Ategol Gorchymyn
Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd o Brydain) 2014
(Saesneg yn unig) Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: The item
started at 17.43 NNDM5550 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog
30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd
o Brydain) 2014, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mai
2014. Derbyniwyd y cynnig y unol â Rheol
Sefydlog 12.36 |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Tai (Cymru) Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil
Tai (Cymru) Dogfennau
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 17.44 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon
tan y cyfnod pleidleisio. Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Weinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn
unol â Rheol Sefydlog 26.47: Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i
gymeradwyo'r Bil Tai (Cymru). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd
yr eitem am 18.01 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |