Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Datganiad y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd ei bod yn 15 mlynedd ers i’r Cynulliad
gyfarfod am y tro cyntaf ac felly, ar ei rhan hi a phob Llywydd blaenorol,
diolchodd i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu’n adeiladol yn ystod y cyfnod
hwnnw at gyflwyno deddfwriaeth a pholisi, a chraffu ar ddeddfwriaeth a pholisi,
sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl Cymru. |
||
Datganiad y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd bod y Bil Addysg (Cymru) wedi derbyn
Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mai. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2 Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 9.
Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad yr Athro Andrews ar ofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.30 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Argymhelliad ar leoli’r Ganolfan Isranbarthol ar gyfer Gofal Newyddenedigol Dwys yng ngogledd Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.33 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Gweithio mewn Partneriaeth gyda Chymdeithasau Tai Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.04 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Strategaeth Ddŵr i Gymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.45 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu strategol morol a physgodfeydd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.16 |
|
(15 munud) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio NDM5492
Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy’n ymwneud
â mesurau sy’n effeithio ar fusnesau: cyffredinol, trafnidiaeth, yr amgylchedd,
addysg a hyfforddiant, mesurau i leihau’r baich ar awdurdodau cyhoeddus a
deddfwriaeth nad yw o ddefnydd ymarferol mwyach, i’r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24
Chwefror 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Mae
copi o'r Bil Dadreoleiddio i'w weld yma: Dogfennau'r
Bil – Y Bil Dadreoleiddio [Ty’r Cyffredin] 2013-14 – Senedd y DU –(Saesneg
yn unig) Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.57 NDM5492
Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy’n ymwneud
â mesurau sy’n effeithio ar fusnesau: cyffredinol, trafnidiaeth, yr amgylchedd,
addysg a hyfforddiant, mesurau i leihau’r baich ar awdurdodau cyhoeddus a
deddfwriaeth nad yw o ddefnydd ymarferol mwyach, i’r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod Pleidleisio Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio. |
||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |