Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Cysoni cymorth cyflogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.33

(60 munud)

4.

Dadl: Cymeradwyo drafft y ‘Cynllun Hawliau Plant 2014’ o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

NDM5489 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn cymeradwyo’r drafft o Gynllun Hawliau Plant 2014 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014.

Dogfen Ategol

Drafft y Cynllun Hawliau Plant 2014

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi datganiad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, sydd wedi’i gynnwys yn atodiad 3 i Gynllun Hawliau Plant 2014, bod y rhwymedigaeth i roi’r brif ystyriaeth i fuddiannau gorau’r plentyn yn ymestyn hefyd at gymeradwyo cyllidebau, gan fod gofyn mabwysiadu safbwynt sy’n canolbwyntio ar fuddiannau gorau’r plentyn wrth eu paratoi a’u datblygu er mwyn iddynt fod yn sensitif i hawliau plant. 

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu wrth y diffyg cyfeiriad at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mewn deddfwriaeth ddiweddar, fel Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i danlinellu ymrwymiad Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy gynnwys cyfeiriad at “sylw dyledus” ar wyneb unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol a fyddai’n effeithio ar blant.

 

Mae Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) ar gael yn:

 

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs/cr-ld9064.pdf

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi Adroddiad Interim Corff Anllywodraethol Cymru 2013 ‘Hawliau Nawr, Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru?’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau monitro effeithiol ar waith er mwyn sicrhau "gweithredu unedig i leihau'r bwlch o ran gweithredu rhwng rhethreg polisi cenedlaethol a chyflenwi lleol".

 

Mae Hawliau Nawr, Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru? ar gael yn:

 

https://www.savethechildren.org.uk/sites/default/files/docs/Rights_Here_Right_Now_Welsh.pdf

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.06

 

NDM5489 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn cymeradwyo’r drafft o Gynllun Hawliau Plant 2014 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi datganiad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, sydd wedi’i gynnwys yn atodiad 3 i Gynllun Hawliau Plant 2014, bod y rhwymedigaeth i roi’r brif ystyriaeth i fuddiannau gorau’r plentyn yn ymestyn hefyd at gymeradwyo cyllidebau, gan fod gofyn mabwysiadu safbwynt sy’n canolbwyntio ar fuddiannau gorau’r plentyn wrth eu paratoi a’u datblygu er mwyn iddynt fod yn sensitif i hawliau plant.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar weddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu wrth y diffyg cyfeiriad at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mewn deddfwriaeth ddiweddar, fel Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i danlinellu ymrwymiad Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy gynnwys cyfeiriad at “sylw dyledus” ar wyneb unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol a fyddai’n effeithio ar blant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

10

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi Adroddiad Interim Corff Anllywodraethol Cymru 2013‘Hawliau Nawr, Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru?’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau monitro effeithiol ar waith er mwyn sicrhau "gweithredu unedig i leihau'r bwlch o ran gweithredu rhwng rhethreg polisi cenedlaethol a chyflenwi lleol".

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5489 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

1. Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn cymeradwyo’r drafft o Gynllun Hawliau Plant 2014 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014.

 

2. Yn nodi datganiad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, sydd wedi’i gynnwys yn atodiad 3 i Gynllun Hawliau Plant 2014, bod y rhwymedigaeth i roi’r brif ystyriaeth i fuddiannau gorau’r plentyn yn ymestyn hefyd at gymeradwyo cyllidebau, gan fod gofyn mabwysiadu safbwynt sy’n canolbwyntio ar fuddiannau gorau’r plentyn wrth eu paratoi a’u datblygu er mwyn iddynt fod yn sensitif i hawliau plant.

3. Yn nodi Adroddiad Interim Corff Anllywodraethol Cymru 2013‘Hawliau Nawr, Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru?’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau monitro effeithiol ar waith er mwyn sicrhau "gweithredu unedig i leihau'r bwlch o ran gweithredu rhwng rhethreg polisi cenedlaethol a chyflenwi lleol".

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

(60 munud)

5.

Dadl: Cynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020

 

NDM5490 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi y bydd cynigion Llywodraeth Cymru yn Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 yn sbarduno ac yn cryfhau’r economi, yr amgylchedd a chydlyniant cymdeithasol yn y Gymru Wledig.

 

Mae cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn:

http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/wales-rdp-2014-2020-final-proposals/?lang=cy

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddewis trosglwyddo 15%, sef y lefel uchaf a ganiateir, i ffwrdd o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yng Ngholofn 1 o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin i’r Rhaglen Datblygu Gwledig, gan wneud busnesau ffermio Cymru yn llai cystadleuol.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn ceisio sicrwydd y bydd mesurau sy’n cael eu darparu drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael effaith ddi-oed, amlwg a mesuradwy ar incwm ffermydd.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) datblygu cynllun annibynnol ar gyfer Ardaloedd Llai Ffafriol i gefnogi’r rheini sy’n ffermio yn ardaloedd mwyaf heriol Cymru;

 

b) annog rhagor o ffermwyr i fanteisio ar gynllun Glastir drwy ei symleiddio ac ehangu’r mynediad iddo.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i fodiwleiddio’r 15% llawn o Golofn 1 i Golofn 2.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru ddangos yn flynyddol effaith y Rhaglen Datblygu Gwledig ar incwm ffermydd.

 

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar y Llywodraeth i flaenoriaethu cymorth i ffermwyr ifanc er mwyn ysgogi'r sector ffermio.

 

Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi cyfraniad sylweddol yr economi wledig at economi ehangach Cymru ac yn cydnabod y potensial ar gyfer datblygu economaidd drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig.

 

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol penodedig ar gyfer ffermydd mynydd.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.45

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5490 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi y bydd cynigion Llywodraeth Cymru yn Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 yn sbarduno ac yn cryfhau’r economi, yr amgylchedd a chydlyniant cymdeithasol yn y Gymru Wledig.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddewis trosglwyddo 15%, sef y lefel uchaf a ganiateir, i ffwrdd o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yng Ngholofn 1 o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin i’r Rhaglen Datblygu Gwledig, gan wneud busnesau ffermio Cymru yn llai cystadleuol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

1

26

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn ceisio sicrwydd y bydd mesurau sy’n cael eu darparu drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael effaith ddi-oed, amlwg a mesuradwy ar incwm ffermydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) datblygu cynllun annibynnol ar gyfer Ardaloedd Llai Ffafriol i gefnogi’r rheini sy’n ffermio yn ardaloedd mwyaf heriol Cymru;

 

b) annog rhagor o ffermwyr i fanteisio ar gynllun Glastir drwy ei symleiddio ac ehangu’r mynediad iddo.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

10

26

52

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i fodiwleiddio’r 15% llawn o Golofn 1 i Golofn 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru ddangos yn flynyddol effaith y Rhaglen Datblygu Gwledig ar incwm ffermydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

25

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar y Llywodraeth i flaenoriaethu cymorth i ffermwyr ifanc er mwyn ysgogi'r sector ffermio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi cyfraniad sylweddol yr economi wledig at economi ehangach Cymru ac yn cydnabod y potensial ar gyfer datblygu economaidd drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 8.

 

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol penodedig ar gyfer ffermydd mynydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5490 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi y bydd cynigion Llywodraeth Cymru yn Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 yn sbarduno ac yn cryfhau’r economi, yr amgylchedd a chydlyniant cymdeithasol yn y Gymru Wledig.

 

2. Yn penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru ddangos yn flynyddol effaith y Rhaglen Datblygu Gwledig ar incwm ffermydd.

3. Yn galw ar y Llywodraeth i flaenoriaethu cymorth i ffermwyr ifanc er mwyn ysgogi'r sector ffermio.

4. Yn nodi cyfraniad sylweddol yr economi wledig at economi ehangach Cymru ac yn cydnabod y potensial ar gyfer datblygu economaidd drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

40

52

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

(60 munud)

6.

Dadl: Ail adroddiad Comisiwn Silk ar Ddatganoli yng Nghymru

NDM5491 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu cyhoeddi adroddiad diweddaraf Comisiwn Silk gan Lywodraeth y DU, y cytunwyd arno’n unfrydol, sef “Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru”, ac yn ystyried yr adroddiad fel sail i’r angen mawr am ddiwygio’r setliad datganoli i Gymru.

 

Gallwch fynd at yr adroddiad “Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru” drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2014/03/Grymuso-a-Chyfrifoldeb-Pwerau-Deddfwriaethol-i-Gryfhau-Cymru.pdf

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi argymhellion Comisiwn Silk i gynnwys diwygiadau deddfwriaethol allweddol mewn maniffestos pleidiau, fel cyflwyno model cadw pwerau, trosglwyddo pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol, a chryfhau capasiti’r Cynulliad Cenedlaethol i graffu ar ddeddfwriaeth, ac yn annog pleidiau gwleidyddol Cymru i ddilyn y cynnig hwn.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.32

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5491 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn croesawu cyhoeddi adroddiad diweddaraf Comisiwn Silk gan Lywodraeth y DU, y cytunwyd arno’n unfrydol, sef “Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru”, ac yn ystyried yr adroddiad fel sail i’r angen mawr am ddiwygio’r setliad datganoli i Gymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi argymhellion Comisiwn Silk i gynnwys diwygiadau deddfwriaethol allweddol mewn maniffestos pleidiau, fel cyflwyno model cadw pwerau, trosglwyddo pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol, a chryfhau capasiti’r Cynulliad Cenedlaethol i graffu ar ddeddfwriaeth, ac yn annog pleidiau gwleidyddol Cymru i ddilyn y cynnig hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

11

0

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5491 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.Yn croesawu cyhoeddi adroddiad diweddaraf Comisiwn Silk gan Lywodraeth y DU, y cytunwyd arno’n unfrydol, sef “Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru”, ac yn ystyried yr adroddiad fel sail i’r angen mawr am ddiwygio’r setliad datganoli i Gymru.

 

2. Yn nodi argymhellion Comisiwn Silk i gynnwys diwygiadau deddfwriaethol allweddol mewn maniffestos pleidiau, fel cyflwyno model cadw pwerau, trosglwyddo pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol, a chryfhau capasiti’r Cynulliad Cenedlaethol i graffu ar ddeddfwriaeth, ac yn annog pleidiau gwleidyddol Cymru i ddilyn y cynnig hwn.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

11

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.19

Ataliwyd y trafodion tan 17.30 oherwydd nam technegol gyda’r system bleidleisio electronig. Ailymgynullodd y cyfarfod am 17.30 a hysbyswyd yr Aelodau gan y Dirprwy Lywydd y byddai pleidlais drwy godi dwylo yn bosibl o dan Reol Sefydlog 12.43(i) a gofynnodd a oedd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad. Ataliwyd y trafodion er mwyn gwneud paratoadau. Ailymgynullodd y cyfarfod am 17.37 a chynhaliwyd y pleidleisiau yn electronig.

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: