Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 2 i 14. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl.
Atebwyd cwestiynau 3, 12 a 13 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.24 Gofynnwyd cwestiynau 1, 3 i 7 a 9 i 15. Tynnwyd cwestiynau 2
ac 8 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd
yr eitem am 15.01 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynigion hynod
arwyddocaol yn yr ymgynghoriad papur gwyn ar iechyd cyhoeddus, yn dilyn y sylw
yng nghyfryngau’r DU a’r datganiad ysgrifenedig bore heddiw? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) (2010) NDM5481
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran
5(1) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010: Yn penderfynu bod Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol
Cymru (Taliadau) 2010 yn cael ei diwygio fel nad yw'r swyddi na'r disgrifiadau
canlynol o unigolion bellach wedi eu hanghymhwyso o aelodaeth o Fwrdd Taliadau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: a) Aelod o Dŷ'r Arglwyddi; b) Unigolyn a oedd yn aelod o’r naill neu’r llall o'r paneli
a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau Aelodau
Cynulliad yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad dyddiedig 4 Gorffennaf
2007 ac 8 Mai 2008. Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 ar
gael yn: http://www.legislation.gov.uk/mwa/2010/4/contents
[Saesneg yn unig] Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.13 NDM5481
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran
5(1) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010: Yn penderfynu bod Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol
Cymru (Taliadau) 2010 yn cael ei diwygio fel nad yw'r swyddi na'r disgrifiadau
canlynol o unigolion bellach wedi eu hanghymhwyso o aelodaeth o Fwrdd Taliadau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: a) Aelod o Dy'r Arglwyddi; b) Unigolyn a oedd yn aelod o’r naill neu’r llall o'r paneli
a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau Aelodau
Cynulliad yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad dyddiedig 4 Gorffennaf
2007 ac 8 Mai 2008. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru NDM5487
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Atodlen
1, paragraff 1, i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a Rheol
Sefydlog 10.5: Yn cytuno i enwebu Nicholas Bennett er mwyn ei benodi yn
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.14 NDM5487
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Atodlen
1, paragraff 1, i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a Rheol
Sefydlog 10.5: Yn cytuno i enwebu Nicholas Bennett er mwyn ei benodi yn
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i rywogaethau goresgynnol estron NDM5482
Alun Ffred Jones (Arfon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar
ei ymchwiliad i Rywogaethau Goresgynnol Estron a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 10 Ionawr 2014. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.18 NDM5482
Alun Ffred Jones (Arfon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar
ei ymchwiliad i Rywogaethau Goresgynnol Estron a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
10 Ionawr 2014. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5484
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu; 2. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r rôl y mae Uned Gyflawni'r
Prif Weinidog yn ei chwarae o ran cyflawni’r dangosyddion hyn; 3. Yn gresynu at fethiant ymddangosiadol yr Uned Gyflawni i
gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn well yn achos cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng
Nghymru. Mae dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu ar gael yn: http://cymru.gov.uk/about/programmeforgov/data?skip=1&lang=cy Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi canfyddiadau adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a
Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus o ran dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu; Mae adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yn: http://wales.gov.uk/docs/dpsp/publications/psgd/140120-psgd-full-report-cyv2.pdf Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol
a thargedau ochr yn ochr â holl strategaethau a pholisïau’r Llywodraeth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.56 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5484 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu; 2. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r rôl y
mae Uned Gyflawni'r Prif Weinidog yn ei chwarae o ran cyflawni’r dangosyddion
hyn; 3. Yn gresynu at fethiant ymddangosiadol yr Uned Gyflawni i gyflawni
amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn well yn achos cyflenwi gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn nodi canfyddiadau adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus o ran dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu; Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol a thargedau
ochr yn ochr â holl strategaethau a pholisïau’r Llywodraeth. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5484 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu; 2. Yn nodi canfyddiadau adroddiad y Comisiwn ar
Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus o ran dangosyddion y Rhaglen
Lywodraethu; 3. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r rôl y
mae Uned Gyflawni'r Prif Weinidog yn ei chwarae o ran cyflawni’r dangosyddion
hyn; 4. Yn gresynu at fethiant ymddangosiadol yr Uned Gyflawni i gyflawni
amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn well yn achos cyflenwi gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5485
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi y bydd un o bob 10 o blant a'r glasoed yn dioddef
o broblem iechyd meddwl ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyriad cynnar i gynorthwyo pobl
ifanc i gyrraedd eu llawn botensial. 2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael
â chanfyddiadau allweddol o adolygiad 2009 o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant
a'r Glasoed (CAMHS) ac yn nodi'r pryderon sylweddol yn adolygiad dilynol 2013 o
faterion diogelwch. 3. Yn gresynu bod nifer y bobl ifanc sy'n aros mwy na 14
wythnos i gael gwasanaethau seiciatrig plant a'r glasoed wedi cynyddu bron
bedair gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, o 199 ym mis Ionawr 2013 i 736 ym mis
Ionawr 2014. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) mynd i'r afael â'r amrywiad annheg o ran argaeledd a
hygyrchedd CAMHS yng Nghymru; b) ymchwilio i'r amseroedd aros rhwng asesiad cyntaf plentyn
neu unigolyn ifanc gyda CAMHS a'u hatgyfeirio dilynol i wasanaeth; c) adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer unedau cleifion
mewnol CAMHS a lleoliadau y tu allan i ardaloedd; d) cyhoeddi ystadegau aildderbyn yn rheolaidd i helpu i lywio
tueddiadau yn y system rhyddhau cleifion; e) sicrhau bod yr holl staff clinigol yn CAMHS wedi cael
gwiriadau diogelwch priodol; f) sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau iechyd adrodd ar
leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl i oedolion; g) egluro statws y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar
gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth; h) ystyried cyflwyno addysg iechyd meddwl yn y cwricwlwm
ysgol i godi ymwybyddiaeth a helpu i fynd i'r afael â materion o ran stigma; a i) cyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad
triniaeth yn y pontio rhwng CAMHS a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion, gan
gynnwys system rhannu gwybodaeth wedi ei symleiddio rhwng darparwyr. Mae'r adolygiad 2009 ‘Gwasanaethau i blant a phobl ifanc ag
anghenion emosiynol ac iechyd meddwl’ ar gael yn: http://www.hiw.org.uk/Documents/477/CAMHS%20241109-w.pdf Mae ‘Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Adolygiad
Dilynol o Faterion Diogelwch’ (11 Rhagfyr 2013) ar gael yn: http://www.hiw.org.uk/Documents/477/CAMHS_Final_welsh.pdf[ Mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl
Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sites3/Documents/441/SAAT%20User%20Guidance%20Welsh.pdf Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: 2. Yn cydnabod y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraethau
olynol yng Nghymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc; a 3. Yn ategu’r dull partneriaeth, lle y gwelir Llywodraeth
Cymru, iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i
gilydd fel partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ddarparu
gwasanaethau effeithiol yn y maes hwn. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi mynegi pryder dro ar ôl
tro ynghylch y gwasanaethau cymorth i blant a’r glasoed sydd â phroblemau
iechyd meddwl. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu fod gan y toriadau termau real i'r gyllideb iechyd
botensial i lesteirio gallu Byrddau Iechyd Lleol Cymru i gyflawni gwelliannau i
wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar
wasanaethau iechyd meddwl ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i gyhoeddi gwybodaeth i ddangos ei bod yn monitro ac yn cyflawni'r
ymrwymiad hwn a sut y mae'n effeithio ar wasanaethau CAMHS. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.53 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5485 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi y bydd un o bob 10 o blant a'r
glasoed yn dioddef o broblem iechyd meddwl ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyriad
cynnar i gynorthwyo pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial. 2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i
fynd i'r afael â chanfyddiadau allweddol o adolygiad 2009 o Wasanaethau Iechyd
Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ac yn nodi'r pryderon sylweddol yn adolygiad
dilynol 2013 o faterion diogelwch. 3. Yn gresynu bod nifer y bobl ifanc sy'n aros
mwy na 14 wythnos i gael gwasanaethau seiciatrig plant a'r glasoed wedi cynyddu
bron bedair gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, o 199 ym mis Ionawr 2013 i 736 ym
mis Ionawr 2014. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) mynd i'r afael â'r amrywiad annheg o ran
argaeledd a hygyrchedd CAMHS yng Nghymru; b) ymchwilio i'r amseroedd aros rhwng asesiad
cyntaf plentyn neu unigolyn ifanc gyda CAMHS a'u hatgyfeirio dilynol i
wasanaeth; c) adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer
unedau cleifion mewnol CAMHS a lleoliadau y tu allan i ardaloedd; d) cyhoeddi ystadegau aildderbyn yn rheolaidd i
helpu i lywio tueddiadau yn y system rhyddhau cleifion; e) sicrhau bod yr holl staff clinigol yn CAMHS
wedi cael gwiriadau diogelwch priodol; f) sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau
iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl i oedolion; g) egluro statws y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth; h) ystyried cyflwyno addysg iechyd meddwl yn y cwricwlwm
ysgol i godi ymwybyddiaeth a helpu i fynd i'r afael â materion o ran stigma; a i) cyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad triniaeth yn y pontio
rhwng CAMHS a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion, gan gynnwys system rhannu
gwybodaeth wedi ei symleiddio rhwng darparwyr.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: 2. Yn cydnabod y camau sy’n cael eu cymryd gan
Lywodraethau olynol yng Nghymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl
ifanc; a 3. Yn ategu’r dull partneriaeth, lle y gwelir Llywodraeth Cymru, iechyd,
addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd fel
partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ddarparu gwasanaethau
effeithiol yn y maes hwn. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi mynegi pryder dro ar ôl tro ynghylch
y gwasanaethau cymorth i blant a’r glasoed sydd â phroblemau iechyd meddwl. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu fod gan y toriadau termau real i'r gyllideb iechyd botensial i
lesteirio gallu Byrddau Iechyd Lleol Cymru i gyflawni gwelliannau i wasanaethau
iechyd meddwl plant a’r glasoed. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar wasanaethau iechyd
meddwl ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi
gwybodaeth i ddangos ei bod yn monitro ac yn cyflawni'r ymrwymiad hwn a sut y
mae'n effeithio ar wasanaethau CAMHS. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5485 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi y bydd un o bob 10 o blant a'r glasoed
yn dioddef o broblem iechyd meddwl ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyriad cynnar i
gynorthwyo pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial. 2. Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi mynegi
pryder dro ar ôl tro ynghylch y gwasanaethau cymorth i blant a’r glasoed sydd â
phroblemau iechyd meddwl. 3. Yn cydnabod y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraethau olynol yng
Nghymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc; 4. Yn ategu’r dull partneriaeth, lle y gwelir Llywodraeth Cymru, iechyd,
addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd fel
partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ddarparu gwasanaethau
effeithiol yn y maes hwn;a 5. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar wasanaethau
iechyd meddwl ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
gyhoeddi gwybodaeth i ddangos ei bod yn monitro ac yn cyflawni'r ymrwymiad hwn
a sut y mae'n effeithio ar wasanaethau CAMHS.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.48 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5483
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Aros ar y Cledrau: Cynnal Cysylltiadau Rheilffyrdd ar gyfer
Gogledd Cymru Pwysigrwydd cysylltiadau rheilffyrdd rhwng Gogledd Cymru a'r
ganolfan HS2 yn Crewe, ynghyd â'r potensial am wella'r capasiti o Wrecsam ac
Arfordir Gogledd Cymru i Lerpwl a Manceinion. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.52 NDM5483 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Aros ar y Cledrau: Cynnal Cysylltiadau
Rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru Pwysigrwydd cysylltiadau rheilffyrdd rhwng Gogledd Cymru a'r ganolfan HS2
yn Crewe, ynghyd â'r potensial am wella'r capasiti o Wrecsam ac Arfordir
Gogledd Cymru i Lerpwl a Manceinion. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|