Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

 

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd cwestiynau 2 - 11. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 3.

 

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

 

Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf.

 

(30 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

 

Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau

NDM5486 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad Llywodraeth Cymru o ganlyniadau TGAU Saesneg mis Ionawr 2014

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cynnydd o ran Sicrhau Twf: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.13

 

(15 munud)

6.

Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol) 2014

NDM5432 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol) 2014 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2014.

 

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2014.

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

Dogfen Esboniadol DEFRA (Saesneg yn unig)

Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol) 2014 (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

NDM5432 Alun Davies (Blaenau Gwent)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol) 2014 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2014.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

7.

Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru)

NDM5479 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru).

Gosodwyd Bil Tai (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Tachwedd 2013.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Tai (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 21 Mawrth 2014.

 

Dogfennau Ategol

Bil Tai (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu nad yw Bil Tai (Cymru) yn rhoi sylw i'r cyflenwad tai cymdeithasol.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.51

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5479 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru).

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu nad yw Bil Tai (Cymru) yn rhoi sylw i'r cyflenwad tai cymdeithasol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

9

24

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM5479 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru).

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig.

(5 munud)

8.

Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Tai (Cymru)

NDM5480 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Tai (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.58

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5480 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Tai (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig.

 

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.58

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: