Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 9. Tynnwyd cwestiynau 3, 13 a 15 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.18

 

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 10 a 13 i 15. Tynnwyd cwestiynau 11 a 12 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 9 a 1 3 gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi.

 

Datganiad gan y Llywydd

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Aelodau, oherwydd y bydd y cynnig a ganlyn yn mynd gerbron yr Uchel Lys eleni, y byddai’r rheol ‘sub judice’, a amlinellir yn Rheol Sefydlog 13.15 yn gymwys i’r ddadl.

 

(60 munud)

3.

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM5423 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) yr effaith andwyol y mae colli eu pensiynau wedi’i chael ar dros 700 o gyn-weithwyr Visteon sy’n byw yn ardal Abertawe a’r cyffiniau;

 

b) yr effaith ddilynol y mae colli pensiynau gweithwyr Visteon wedi’i chael ar economi Abertawe a’r cyffiniau;

 

c) y bydd pum mlynedd wedi mynd heibio ar 2 Ebrill eleni ers cau Visteon fel cwmni, a bod gorymdaith fawr yn cael ei threfnu yn San Steffan; a

 

d) bod eleni’n flwyddyn bwysig i’r ymgyrch, o ystyried y bydd achos llys Unite the Union yn erbyn Ford yn cael ei gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain ddiwedd 2014.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i effaith colli eu pensiynau ar weithwyr Visteon ac ar economi’r ardal lle maent yn byw.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu pwynt 2.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5423 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) yr effaith andwyol y mae colli eu pensiynau wedi’i chael ar dros 700 o gyn-weithwyr Visteon sy’n byw yn ardal Abertawe a’r cyffiniau;

 

b) yr effaith ddilynol y mae colli pensiynau gweithwyr Visteon wedi’i chael ar economi Abertawe a’r cyffiniau;

 

c) y bydd pum mlynedd wedi mynd heibio ar 2 Ebrill eleni ers cau Visteon fel cwmni, a bod gorymdaith fawr yn cael ei threfnu yn San Steffan; a

 

d) bod eleni’n flwyddyn bwysig i’r ymgyrch, o ystyried y bydd achos llys Unite the Union yn erbyn Ford yn cael ei gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain ddiwedd 2014.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i effaith colli eu pensiynau ar weithwyr Visteon ac ar economi’r ardal lle maent yn byw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

14

4

41

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

(60 munud)

4.

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ardaloedd Menter

NDM5429 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Ardaloedd Menter, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2013.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2014.

 

Dogfennau Ategol:

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

 

NDM5429 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Ardaloedd Menter, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM5430 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen frys i fynd i'r afael â'r argyfwng parhaus o ran cyflenwad tai yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu popeth ar ôl ‘gyflawni’ a rhoi yn ei le, ‘rhaglen gynhwysfawr a chynaliadwy i fynd i’r afael â’r prinder tai fforddiadwy ar gyfer pob math o ddaliadaeth’.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y ffaith bod diffyg mynediad at dir sydd ar gael, mynediad at gyllid ac oedi yn y system gynllunio, yn creu rhwystrau rhag adeiladu tai yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ffyrdd o roi hwb i’r cyflenwad tai.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5430 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen frys i fynd i'r afael â'r argyfwng parhaus o ran cyflenwad tai yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

11

44

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 16.52

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

6.

Dadl Fer

NDM5419 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Rheoli diwygio lles

 

Sut y mae cynghorau lleol yn defnyddio taliadau tai yn ôl disgresiwn i liniaru effaith newidiadau i fudd-dal tai.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.52

NDM5419 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Rheoli diwygio lles

 

Sut y mae cynghorau lleol yn defnyddio taliadau tai yn ôl disgresiwn i liniaru effaith newidiadau i fudd-dal tai.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: