Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 10 a 12 eu grwpio. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.04 Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5370 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 1. Yn nodi ei bod yn adeg o newid
o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio
systemau. 2. Yn cydnabod: a) y potensial i gydgynhyrchu wella
cyflenwad gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol. b) ymrwymiad presennol
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan asedau sy'n eiddo cyhoeddus y potensial i
aros mewn perchnogaeth gymunedol yng Nghymru. 3. Yn gresynu: a) nad oes digon yn cael ei wneud
i sicrhau bod cymunedau'n ymwybodol o gynlluniau megis Trosglwyddo Asedau
Cymunedol neu'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol. b) bod Cymru yn methu â rhannu
llwyddiant yr Agenda Anghenion Cymunedol mewn rhannau eraill o'r DU. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) hyrwyddo cydgynhyrchu fel
ffordd hyfyw o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau'r
Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus. b) archwilio dichonoldeb
mabwysiadu agweddau pellach ar y Ddeddf Lleoliaeth yng Nghymru. Mae linc i'r Comisiwn ar
Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yn http://new.wales.gov.uk/topics/improvingservices/public-service-governance-and-delivery/?skip=1&lang=cy
Ceir linc i'r Ddeddf Lleoliaeth
yn http://new.wales.gov.uk/topics/improvingservices/public-service-governance-and-delivery/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt
3 a rhoi yn ei le: 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a)
sicrhau mwy o ymwybyddiaeth o gynlluniau megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r Rhaglen Cyfleusterau
a Gweithgareddau Cymunedol.
b)
datblygu polisi asedau cymunedol cynhwysfawr sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion
Cymru. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt
4b) a rhoi yn ei le: sicrhau bod yr
agendâu lleoliaeth a throsglwyddo asedau cymunedol yn ddiamau
yn grymuso cymunedau ac nad ydynt yn cael
eu defnyddio fel ffordd o breifateiddio
gwasanaethau cyhoeddus. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.09 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5370 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 1. Yn nodi ei bod yn adeg o newid
o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio
systemau. 2. Yn cydnabod: a) y potensial i gydgynhyrchu
wella cyflenwad gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol. b) ymrwymiad presennol
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan asedau sy'n eiddo cyhoeddus y potensial i
aros mewn perchnogaeth gymunedol yng Nghymru. 3. Yn gresynu: a) nad oes digon yn cael ei wneud
i sicrhau bod cymunedau'n ymwybodol o gynlluniau megis Trosglwyddo Asedau
Cymunedol neu'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol. b) bod Cymru yn methu â rhannu
llwyddiant yr Agenda Anghenion Cymunedol mewn rhannau eraill o'r DU. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) hyrwyddo cydgynhyrchu fel
ffordd hyfyw o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau'r
Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus. b) archwilio dichonoldeb
mabwysiadu agweddau pellach ar y Ddeddf Lleoliaeth yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt
3 a rhoi yn ei le: 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a)
sicrhau mwy
o ymwybyddiaeth o gynlluniau
megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r Rhaglen Cyfleusterau
a Gweithgareddau Cymunedol.
b)
datblygu polisi
asedau cymunedol cynhwysfawr sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt
4b) a rhoi yn ei le: sicrhau bod yr
agendâu lleoliaeth a throsglwyddo asedau cymunedol yn ddiamau
yn grymuso cymunedau ac nad ydynt yn cael
eu defnyddio fel ffordd o breifateiddio
gwasanaethau cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio,
ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd
y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5371 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 1. Yn mynegi pryder ynghylch dyfodol
gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty
Llwynhelyg. 2. Yn nodi'r effaith y byddai absenoldeb
gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ei chael ar
wasanaethau craidd eraill yn yr ysbyty, megis gofal pediatrig a gofal brys. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) cymryd camau gweithredu brys
i sicrhau dyfodol gwasanaethau craidd yn Llwynhelyg; a (b) sicrhau bod Bwrdd Iechyd
Hywel Dda yn cyfathrebu ei gynlluniau ar gyfer cyfeiriad strategol y
gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg mewn modd effeithiol a diamwys. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.05 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig: NDM5371 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 1. Yn mynegi pryder ynghylch dyfodol
gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty
Llwynhelyg. 2. Yn nodi'r effaith y byddai
absenoldeb gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ei
chael ar wasanaethau craidd eraill yn yr ysbyty, megis gofal pediatrig a gofal
brys. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) cymryd camau gweithredu brys
i sicrhau dyfodol gwasanaethau craidd yn Llwynhelyg; a (b) sicrhau bod Bwrdd Iechyd
Hywel Dda yn cyfathrebu ei gynlluniau ar gyfer cyfeiriad strategol y gwasanaethau
yn Ysbyty Llwynhelyg mewn modd effeithiol a diamwys.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly,
gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5372 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 1. Yn nodi na fydd perfformiad
Cymru yn erbyn PISA a mesuriadau perfformiad addysgol cenedlaethol a
rhyngwladol eraill yn gwella digon i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru oni bai
bod cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion o gefndir difreintiedig yn gwella'n
sylweddol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
fuddsoddi mewn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i athrawon, penaethiaid a staff
cymorth newydd a phresennol ar ymyriad cynnar i wella llythrennedd, rhifedd,
presenoldeb ac ymddygiad er mwyn codi cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion
difreintiedig. 3. Yn croesawu cytundeb cyllideb
Plaid Cymru gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i fwy na
dyblu'r cyllid a roddir fesul plentyn drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cryfhau'r canllawiau ar y
defnydd o'r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei
ddefnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon i godi cyrhaeddiad disgyblion
difreintiedig yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio; a b) cryfhau'r broses o fonitro’r
defnydd o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio
at y diben a fwriadwyd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo
yn unol â hynny: Yn nodi bod cyflwyno ‘Premiwm
Disgybl’ yn un o brif ymrwymiadau maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac
felly’n croesawu’r Grant Amddifadedd Disgyblion a gyflwynwyd yn dilyn cytundeb
cyllideb 2012–13 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru, a
sicrhaodd £32.4 miliwn i helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni
addysgol. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi’r cyllid ychwanegol fesul
plentyn yn y Grant Amddifadedd Disgyblion a neilltuwyd yng Nghyllideb Ddrafft
2014/15. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo
yn unol â hynny: Yn nodi’r cyhoeddiad ‘Dysgu
gwersi o’r Grant Amddifadedd Disgyblion’ gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru,
a’i argymhellion. Mae linc i’r cyhoeddiad ‘Dysgu
gwersi o’r Grant Amddifadedd Disgyblion’ ar gael yn: http://welshlibdems.org.uk/cy/page/education Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo
yn unol â hynny: Yn nodi bod y Cynulliad hwn, ar
30 Mai 2012, wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid gwelliant gan Ddemocratiaid
Rhyddfrydol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i “sicrhau bod gwario’r Grant
Amddifadedd Disgyblion yn cael ei fonitro'n effeithiol er mwyn iddo gyflawni
gwelliannau mewn cyrhaeddiad”. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4: cyflwyno rhaglen monitro
disgyblion unigol i fesur cynnydd disgyblion, gan alluogi ysgolion i hoelio’u
hymdrechion ar y disgyblion hynny nad ydynt yn cyflawni eu potensial. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
adolygu a gwella’r dangosyddion ar gyfer mesur anfantais ymhlith disgyblion
ysgol yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.57 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5372 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 1. Yn nodi na fydd perfformiad
Cymru yn erbyn PISA a mesuriadau perfformiad addysgol cenedlaethol a
rhyngwladol eraill yn gwella digon i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru oni
bai bod cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion o gefndir difreintiedig yn gwella'n sylweddol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
fuddsoddi mewn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i athrawon, penaethiaid a staff
cymorth newydd a phresennol ar ymyriad cynnar i wella llythrennedd, rhifedd,
presenoldeb ac ymddygiad er mwyn codi cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion
difreintiedig. 3. Yn croesawu cytundeb cyllideb
Plaid Cymru gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i fwy na
dyblu'r cyllid a roddir fesul plentyn drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cryfhau'r canllawiau ar y
defnydd o'r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei
ddefnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon i godi cyrhaeddiad disgyblion
difreintiedig yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio; a b) cryfhau'r broses o fonitro’r
defnydd o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio
at y diben a fwriadwyd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.44 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl Fer Ni chyflwynwyd testun Penderfyniad: Ni
chyflwynwyd testun. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl fer - aildrefnwyd o 25 Medi NDM5305
Julie James (Gorllewin Abertawe): Manteision
Canmlwyddiant Dylan Thomas i Gymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.54 NDM5305
Julie James (Gorllewin Abertawe): Manteision
Canmlwyddiant Dylan Thomas i Gymru |
|||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |