Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan
y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 14.15 Gofynnwyd y cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.19 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2, 5 i 6, 8 i 12 a 14 i 15. Tynnwyd cwestiynau 3, 4, 7 a 13 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 11 gan y Dirprwy
Weinidog Trechu Tlodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros dro NDM5368 Christine Chapman (Cwm
Cynon) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Atodlen 1, paragraff 4, i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a Rheol Sefydlog 10.5: Yn cytuno
i enwebu'r Athro Sylvia
Margaret Griffiths i'w Mawrhydi
er mwyn ei
phenodi yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro. Dogfennau
ategol: Nodyn Cefndirol ar gyfer Aelodau'r
Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.54 NDM5368 Christine
Chapman (Cwm Cynon) Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Atodlen 1, paragraff 4, i Ddeddf
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a Rheol Sefydlog 10.5: Yn cytuno i enwebu'r
Athro Sylvia Margaret Griffiths i'w Mawrhydi er mwyn ei phenodi yn Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014/15 NDM5361 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.16: Yn cytuno
ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, fel y pennir yn
Nhabl 1 “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2014-15”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 13 Tachwedd 2013 a’i bod yn cael ei
hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Dogfennau
Ategol: Dogfen Cyllideb Comisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.56 NDM5361
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn
cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, fel y pennir yn Nhabl
1 “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2014-15”, a osodwyd gerbron y
Cynulliad ar 13 Tachwedd 2013 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig
Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5363 William Graham
(Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi polisi Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’; 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r farchnad gyfan i sicrhau y ceir
ateb i'r argyfwng cyflenwad tai. Mae
‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’ ar gael yma: Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
gresynu wrth y degawdau o fethiannau gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol sydd
wedi arwain at ein hargyfwng tai ac mae hynny wedi gwthio rhenti yn uwch ac yn
uwch, wedi gadael miloedd o bobl heb obaith o gael eu troed ar yr ysgol eiddo,
ac wedi golygu bod 1.5 miliwn yn llai o gartrefi cymdeithasol ar gael i’w
rhentu. Gwelliant 2 - Elin Jones
(Ceredigion) Dileu
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
nodi nad yw polisi’r Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’ yn
cydnabod mai’r broblem tai mwyaf brys yw’r effaith enbyd y mae’r Dreth Ystafell
Wely yn ei chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu
landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad tai, ac felly’n annog
Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely. Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
gresynu bod oddeutu 21,551 o gartrefi gwag hirdymor yng Nghymru a bod
Llywodraeth Cymru wedi methu â chreu strategaeth cartrefi gwag ar gyfer Cymru
gyfan. Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
cydnabod pryder adeiladwyr tai bod biwrocratiaeth yn y system gynllunio yn un
o’r prif rwystrau i ddatblygu cartrefi newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddefnyddio’r Bil Diwygio Cynllunio arfaethedig i gael gwared ar y prif rwystrau
rhag darparu trefn gynllunio effeithiol. Gwelliant 5 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
croesawu’r camau a gymerir gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r gwaith o adeiladu tai
newydd drwy fenthyciadau ecwiti a chynllun gwarant morgais, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i bennu dyddiad ar gyfer cyflwyno’r cynllun hirddisgwyliedig
Cymorth i Brynu Cymru. Gwelliant 6 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
nodi mai dim ond un ar ddeg o gynghorau lleol yng Nghymru sy’n dal i fod â stoc
tai cyngor yn eu meddiant ac mae hynny’n llesteirio gweledigaeth Ceidwadwyr
Cymreig i adfer cynllun ‘Hawl i Brynu’ yng Nghymru, a bod y pwer i atal yr Hawl
i Brynu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae llawer o alw yn arf pwysig i helpu i
leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.07 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5363
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi polisi
Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’; 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r
farchnad gyfan i sicrhau y ceir
ateb i'r argyfwng cyflenwad tai.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu
wrth y degawdau o fethiannau gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol sydd wedi arwain at ein hargyfwng tai ac mae hynny wedi
gwthio rhenti yn uwch ac yn
uwch, wedi gadael miloedd o bobl heb obaith
o gael eu troed ar yr
ysgol eiddo, ac wedi golygu bod 1.5 miliwn yn llai
o gartrefi cymdeithasol ar gael i’w
rhentu. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn nodi
nad yw polisi’r
Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’ yn cydnabod mai’r
broblem tai mwyaf brys yw’r effaith
enbyd y mae’r Dreth Ystafell Wely yn ei
chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu
landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad
tai, ac felly’n annog Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu
bod oddeutu 21,551 o gartrefi
gwag hirdymor yng Nghymru a bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chreu
strategaeth cartrefi gwag ar gyfer
Cymru gyfan. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
pryder adeiladwyr tai bod biwrocratiaeth yn y system gynllunio yn un o’r prif rwystrau
i ddatblygu cartrefi newydd ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Bil Diwygio Cynllunio
arfaethedig i gael gwared ar
y prif rwystrau rhag darparu trefn
gynllunio effeithiol. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r
camau a gymerir gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r gwaith
o adeiladu tai newydd drwy fenthyciadau ecwiti a chynllun gwarant morgais, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i bennu dyddiad
ar gyfer cyflwyno’r cynllun hirddisgwyliedig Cymorth i Brynu Cymru. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi
mai dim ond un ar ddeg o gynghorau
lleol yng Nghymru sy’n dal i fod â stoc
tai cyngor yn eu meddiant ac mae hynny’n llesteirio
gweledigaeth Ceidwadwyr Cymreig i adfer
cynllun ‘Hawl i Brynu’ yng
Nghymru, a bod y pwer i atal yr
Hawl i Brynu
tai cyngor mewn ardaloedd lle mae
llawer o alw yn arf pwysig
i helpu i
leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5363
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi nad
yw polisi’r Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’ yn cydnabod mai’r
broblem tai mwyaf brys yw’r effaith
enbyd y mae’r Dreth Ystafell Wely yn ei
chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu
landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad
tai, ac felly’n annog Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely. 2.
Yn nodi mai
dim ond un ar ddeg o gynghorau lleol yng Nghymru
sy’n dal i fod â stoc tai cyngor yn eu
meddiant ac mae hynny’n llesteirio gweledigaeth Ceidwadwyr Cymreig i adfer
cynllun ‘Hawl i Brynu’ yng
Nghymru, a bod y pwer i atal yr
Hawl i Brynu
tai cyngor mewn ardaloedd lle mae
llawer o alw yn arf pwysig
i helpu i
leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol. 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r
farchnad gyfan i sicrhau y ceir
ateb i'r argyfwng cyflenwad tai.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5362 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn Nodi: a)
canfyddiadau adroddiad ar newid yn
yr hinsawdd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn
yr Hinsawdd ei bod 95% yn sicr
mai dylanwad dynol ar yr
hinsawdd a achosodd dros hanner o'r
cynnydd a nodwyd mewn tymereddau arwyneb cyfartalog o 1951-2010; b)
dibyniaeth barhaus Cymru ar
danwyddau ffosil ar gyfer ynni,
sy'n darparu tua 80% o'r anghenion
ynni; c)
mai Llywodraeth
y DU sy'n gyfrifol am y defnydd o adnoddau nwy siâl
Cymru, ynghyd â rheoli unrhyw fudd
sy'n deillio ohono; d) methiant
Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged
o gynhyrchu 4TWh o drydan o
ynni adnewyddadwy erbyn 2010; e)
er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn allforiwr net trydan, mae biliau'n
uwch yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r Alban; 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a)
datblygu ‘Map Llwybr’ manwl a Chynllun Gweithredu a fydd yn arwain
at dargedau ynni adnewyddadwy 2020, gan ddangos targedau ar gyfer pob
math unigol o ynni a'r camau a gymerir
i gyrraedd y targedau hynny; b)
rhoi pwysau
ar Lywodraeth y DU i ddatganoli yn llawn
y portffolio ynni a rheoli adnoddau naturiol Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol; c)
cadarnhau gydag Ofgem a'r
Grid Cenedlaethol a oes unrhyw ymchwil wedi'i gwneud i gost a hyfywedd cebl tanfor sy'n
cysylltu'r Grid Cenedlaethol
rhwng gogledd a de Cymru, ac os felly darparu copi o'r
ymchwil honno; d)
ymchwilio i'r potensial i sefydlu cwmni ynni
cyhoeddus, di-ddifidend i fuddsoddi mewn ynni er budd
pobl Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt
1c a rhoi yn ei le: er mai
Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y drefn drwyddedu ar gyfer
chwilota am nwy anghonfensiynol a’i echdynnu, mae angen
mathau eraill o ganiatâd (megis caniatâd cynllunio lleol) cyn y caniateir
i waith ddechrau gyda nwy anghonfensiynol. Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt
1d newydd ac ailrifo yn unol â hynny: bod Llywodraeth
y DU wedi ymgynghori ar drefn ariannol
ar gyfer echdynnu nwy siâl
ac wedi addo darparu fframwaith cydlynol er mwyn
galluogi cymunedau lleol i elwa’n uniongyrchol o unrhyw adnoddau a ddatblygir yn eu hardal. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 1: bod Llywodraeth
Cymru wedi sefydlu Banc Buddsoddi
Gwyrdd gwerth £3 biliwn, y cyntaf o’i fath yn
y byd, a fydd yn sianelu £15 biliwn o fuddsoddiad y sector preifat i brosiectau gwyrdd. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 1: pwysigrwydd cynlluniau
ynni cymunedol i gynaliadwyedd ardaloedd lleol, gan feithrin
ysbryd cymunedol a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud
ag ynni a newid yn yr
hinsawdd. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 1: bod prosiectau
seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd (NSIP) ar ynni, gan
gynnwys ynni niwclear, yn cael
effaith y tu hwnt i ffin Cymru/Lloegr. Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt
2b a rhoi yn ei le: Gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cynnig cynhwysfawr i ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru ar gyfer
cydsyniadau ynni ac ymrwymo i ynni adnewyddadwy. [Os
derbynnir gwelliant 6, bydd gwelliant 7 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu is-bwynt
2b a rhoi yn ei le: ailddatgan y gefnogaeth
gan bob plaid i ddatganoli cydsyniadau ynni ar gyfer prosiectau
ar y tir sy’n fwy na
50MW ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i gysoni pwerau cydsynio ar y môr yn
nyfroedd Cymru. Gwelliant
8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt
2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Gweithio gyda
Llywodraeth y DU i ystyried
a yw’r drwydded
bresennol ar gyfer Datblygu a Chwilota am Betrolewm yn y DU yn drefn
effeithiol i ddatblygu nwy anghonfensiynol yn y dyfodol. Gwelliant
9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt
2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Datblygu canllawiau
cynllunio technegol ar chwilota am nwy anghonfensiynol er mwyn helpu
awdurdodau cynllunio lleol i gyflawni eu swyddogaethau yn briodol. Gwelliant
10 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: cadarnhau a yw’n
cefnogi Prosiect Cysylltu Canolbarth Cymru, a fyddai’n arwain at lawer iawn o dyrbinau gwynt ar y tir
ledled Canolbarth Cymru. Gwelliant
11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: cyflwyno’r gwerthusiad
gwerth am arian o brosiect Ynni’r Fro, a oedd i fod yn
barod erbyn diwedd mis Medi
2013. Gwelliant
12 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: cyflwyno datganiad
manwl yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau
cymaint o gyfleoedd ag y bo modd
i Gymru drwy’r Banc Buddsoddi Gwyrdd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.59 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5362
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn Nodi: a)
canfyddiadau adroddiad ar newid yn
yr hinsawdd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn
yr Hinsawdd ei bod 95% yn sicr
mai dylanwad dynol ar yr
hinsawdd a achosodd dros hanner o'r
cynnydd a nodwyd mewn tymereddau arwyneb cyfartalog o 1951-2010; b)
dibyniaeth barhaus Cymru ar danwyddau ffosil ar gyfer ynni,
sy'n darparu tua 80% o'r anghenion
ynni; c)
mai Llywodraeth
y DU sy'n gyfrifol am y defnydd o adnoddau nwy siâl
Cymru, ynghyd â rheoli unrhyw fudd sy'n
deillio ohono; d) methiant
Llywodraeth Cymru i gyrraedd
ei tharged o gynhyrchu 4TWh o drydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2010; e)
er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn allforiwr net trydan, mae biliau'n uwch
yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r
Alban; 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a)
datblygu ‘Map Llwybr’ manwl a Chynllun Gweithredu a fydd yn arwain
at dargedau ynni adnewyddadwy 2020, gan ddangos targedau ar gyfer pob
math unigol o ynni a'r camau a gymerir
i gyrraedd y targedau hynny; b)
rhoi pwysau
ar Lywodraeth y DU i ddatganoli yn llawn
y portffolio ynni a rheoli adnoddau naturiol Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol; c)
cadarnhau gydag Ofgem a'r
Grid Cenedlaethol a oes unrhyw ymchwil wedi'i gwneud i gost a hyfywedd cebl tanfor sy'n
cysylltu'r Grid Cenedlaethol
rhwng gogledd a de Cymru,
ac os felly darparu copi o'r ymchwil
honno; d)
ymchwilio i'r potensial i sefydlu cwmni ynni
cyhoeddus, di-ddifidend i fuddsoddi mewn ynni er budd
pobl Cymru.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) Yn
unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y
mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Mae’r
gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu
trafod fel a ganlyn: 1. Atebolrwydd 11,
13 2. Gofal Lliniarol 4 3. Gwasanaethau a
eithrir 5,
6, 10 4. Y cyfnod amser ar
gyfer adennill costau 7 5. Apelau a hawlildiadau 1,
2, 3 6. Defnyddio Gwybodaeth 12 7. Defnyddio symiau a
ad-delir 14,
15 8. Pŵer i atal y
Ddeddf dros dro 8,
9 Dogfennau Ategol: Bil
Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.55 Yn
unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y
mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion
y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl
y grwpiau a ganlyn: 1. Atebolrwydd
11,
13 2. Gofal
Lliniarol 4 3. Gwasanaethau
a eithrir 5,
6, 10 4. Y cyfnod
amser ar gyfer adennill costau 7 5. Apelau
a hawlildiadau 1,
2, 3 6. Defnyddio
Gwybodaeth 12 7. Defnyddio
symiau a ad-delir 14,
15 8. Pŵer
i atal y Ddeddf dros dro 8,
9 Cynhaliwyd
y bleidlais yn y drefn a nodir yn
y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: Derbyniwyd
gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 6 ac 10. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd
gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd
gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd
gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd
gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd
gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd
gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
8:
Gwrthodwyd gwelliant 8. Gan fod gwelliant 8 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 9. Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion
Cyfnod 3 i ben. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) Ar ddiwedd
Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n
gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael
ei basio yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47. Cynnig Cyfnod
4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau
Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.59 Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y
Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir ar y cynnig: Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i
gymeradwyo'r Bil Adennill
Costau Meddygol ar gyfer Clefydau
Asbestos (Cymru). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 18.14 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5360 Keith Davies
(Llanelli): Rheoleiddio gorfodol
gan y wladwriaeth ar gyfer y diwydiant
trin gwallt yng Nghymru: pryder
iechyd cyhoeddus ehangach. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.18 NDM5360 Keith Davies
(Llanelli): Rheoleiddio gorfodol
gan y wladwriaeth ar gyfer y diwydiant
trin gwallt yng Nghymru: pryder
iechyd cyhoeddus
ehangach. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |