Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i
ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1-7 a 9-10. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl.
Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Prif Weinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem
am 14.15 Angela Burns (Gorllewin
Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff
y Gweinidog ddatganiad am ei adolygiad o gyllid Addysg Uwch? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.26 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cyflwyno'r Bil Tai (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.36 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarthau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.18 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013 NDM5355 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y
fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru)
2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 22 Hydref 2013. Dogfennau Ategol Gorchymyn
Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013 Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.50 NDM5355
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo
bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf
Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio
yn unol â’r
fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 22 Hydref 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(120 muned) |
Dadl ar Gyllideb Ddrafft 2014-15 NDM5356 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.12: Yn nodi’r
Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2014-2015 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 8 Hydref 2013. Mae Cynigion
Cyllideb Ddrafft 2014-15 ar gael ar
y ddolen ganlynol: Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 1. Yn
cydnabod y buddsoddiad ychwanegol a wnaethpwyd yn y gyllideb ddrafft
i’r gwasanaeth iechyd yn sgîl
y pwysau a roddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig; a 2. Yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i ailddrafftio
ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer
2014-15 fel ei bod: a) yn
diogelu’r gyllideb iechyd mewn termau
real ac yn mynd i’r afael â’r
pwysau ariannol eithriadol sy’n wynebu byrddau iechyd lleol yng
Nghymru; b) yn
bodloni anghenion busnesau ledled Cymru, er budd
economi Cymru; c) yn
mynd i’r afael â’r heriau
cyllido sy’n wynebu colegau Addysg Bellach, er mwyn iddynt
allu darparu amrywiaeth lawn o sgiliau a chyrsiau galwedigaethol i ddysgwyr yng
Nghymru. Gwelliant 2 - Elin
Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r
cytundeb pwysig a gyflawnwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru i sicrhau: a) Cronfa
Gofal Canolraddol i leihau’r pwysau
ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ddarparu
gofal yn nes at adref; b) bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei
ddyblu; c) tri robot Da Vinci
modern a fydd yn darparu gweithdrefnau llawfeddygol llai mewnwthiol; d) cronfa
technoleg iechyd a thelefeddygaeth i roi Cymru ar
flaen y gad ym maes technoleg feddygol; e) bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael
ei diogelu; ac Yn nodi
ymhellach yr effaith gadarnhaol y bydd buddsoddiadau o’r fath yn
ei chael ar gymunedau ledled
y wlad a’r gwelliannau mewn gwasanaethau cymunedol a fydd yn dilyn
hynny. Cefnogwyd gan: Aled Roberts (Gogledd Cymru) Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r
gweithredu ar y cyd rhwng Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, a sicrhaodd y canlynol yn y Gyllideb Ddrafft: a) £35 miliwn ychwanegol i ddyblu'r cyllid
ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn helpu
i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol; b) Cronfa
Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i gefnogi byw’n
annibynnol ac i leihau’r pwysau ar y system gofal mewn argyfwng; c) buddsoddiad
ychwanegol o £9.5 miliwn yn y Gronfa Technoleg
Iechyd er mwyn cynyddu buddsoddiad
mewn telefeddygaeth; a d) Pecyn
Cefnogi Pobl gwerth £5.5 miliwn i helpu i
fynd i’r afael â digartrefedd. Cefnogwyd gan: Elin Jones (Ceredigion) Dogfen
Ategol Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2014-2015 Papur Ymchwil: Cynigion ynghylch y Gyllideb
Ddrafft 2014-15 (Hydref
2013)- Y Gwasanaeth Ymchwil Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.52 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5356
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.12: Yn nodi’r
Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2014-2015 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 8 Hydref 2013. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 1.
Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol a wnaethpwyd yn y gyllideb ddrafft i’r gwasanaeth iechyd yn sgîl
y pwysau a roddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig; a 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft
ar gyfer 2014-15 fel ei bod: a)
yn diogelu’r gyllideb iechyd mewn termau real ac yn mynd i’r
afael â’r pwysau ariannol eithriadol sy’n wynebu byrddau iechyd lleol yng
Nghymru; b)
yn bodloni anghenion busnesau ledled Cymru, er
budd economi Cymru; c)
yn mynd i’r
afael â’r heriau cyllido sy’n wynebu colegau
Addysg Bellach, er mwyn iddynt
allu darparu amrywiaeth lawn o sgiliau a chyrsiau galwedigaethol i ddysgwyr yng
Nghymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Elin
Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r
cytundeb pwysig a gyflawnwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru i sicrhau: a)
Cronfa Gofal Canolraddol i leihau’r
pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ddarparu gofal
yn nes at adref; b)
bod y Grant Amddifadedd Disgyblion
yn cael ei
ddyblu; c)
tri robot Da Vinci modern a fydd yn
darparu gweithdrefnau llawfeddygol llai mewnwthiol; d)
cronfa technoleg iechyd a thelefeddygaeth i roi Cymru
ar flaen y gad ym maes technoleg
feddygol; e)
bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael
ei diogelu; ac Yn nodi
ymhellach yr effaith gadarnhaol y bydd buddsoddiadau o’r fath yn
ei chael ar gymunedau ledled
y wlad a’r gwelliannau mewn gwasanaethau cymunedol a fydd yn dilyn
hynny. Cefnogwyd gan: Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r
gweithredu ar y cyd rhwng Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, a sicrhaodd y canlynol yn y Gyllideb Ddrafft: a)
£35 miliwn ychwanegol i ddyblu'r cyllid
ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn helpu
i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol; b)
Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i gefnogi
byw’n annibynnol ac i leihau’r pwysau
ar y system gofal mewn argyfwng; c)
buddsoddiad ychwanegol o
£9.5 miliwn yn y Gronfa Technoleg Iechyd er mwyn
cynyddu buddsoddiad mewn telefeddygaeth; a d)
Pecyn Cefnogi Pobl gwerth £5.5 miliwn i helpu
i fynd i’r
afael â digartrefedd. Cefnogwyd gan: Elin Jones (Ceredigion) Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5356
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.12: 1.
Yn nodi’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2014-2015 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 8 Hydref 2013. 2.
Yn nodi’r cytundeb pwysig a gyflawnwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru i sicrhau: a)
Cronfa Gofal Canolraddol i leihau’r
pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ddarparu gofal
yn nes at adref; b)
bod y Grant Amddifadedd Disgyblion
yn cael ei
ddyblu; c)
tri robot Da Vinci modern a fydd yn
darparu gweithdrefnau llawfeddygol llai mewnwthiol; d)
cronfa technoleg iechyd a thelefeddygaeth i roi Cymru
ar flaen y gad ym maes technoleg
feddygol; e)
bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael
ei diogelu; ac Yn nodi
ymhellach yr effaith gadarnhaol y bydd buddsoddiadau o’r fath yn
ei chael ar gymunedau ledled
y wlad a’r gwelliannau mewn gwasanaethau cymunedol a fydd yn dilyn
hynny. Cefnogwyd gan: Aled Roberts (Gogledd Cymru) 3.
Yn croesawu’r gweithredu ar y cyd rhwng Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, a sicrhaodd y canlynol yn y Gyllideb Ddrafft: a)
£35 miliwn ychwanegol i ddyblu'r cyllid
ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn helpu
i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol; b)
Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i gefnogi
byw’n annibynnol ac i leihau’r pwysau
ar y system gofal mewn argyfwng; c)
buddsoddiad ychwanegol o
£9.5 miliwn yn y Gronfa Technoleg Iechyd er mwyn
cynyddu buddsoddiad mewn telefeddygaeth; a d)
Pecyn Cefnogi Pobl gwerth £5.5 miliwn i helpu
i fynd i’r
afael â digartrefedd. Cefnogwyd gan: Elin Jones (Ceredigion)
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13 NDM5357 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13. Gellir gweld
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2012-13 drwy ddilyn y linc
a ganlyn: http://www.childcomwales.org.uk/uploads/publications/400.pdf
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod
y pryder a godwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch difrifoldeb trefniadau diogelu annigonol. Gwelliant 2 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu
wrth ganfyddiad yn yr adroddiad
bod lleisiau plant a phobl ifanc yn aml
yn cael eu
hanwybyddu’n llwyr ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth
gadarnach o ran mynediad at
eiriolaeth broffesiynol annibynnol. Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu
wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chyflwyno
Bil Plant a Phobl Ifanc (Cymru) er
ei hymrwymiad yn natganiad deddfwriaethol
2011, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wyrdroi’r penderfyniad hwn a chyflwyno deddfwriaeth i gryfhau hawliau
plant a phobl ifanc ac i ddiwygio’r sail statudol dros swyddfa’r
Comisiynydd Plant. Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
ymateb i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru cyn ddadl flynyddol
arno. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.22 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5357
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod
y pryder a godwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch difrifoldeb trefniadau diogelu annigonol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu
wrth ganfyddiad yn yr adroddiad
bod lleisiau plant a phobl ifanc yn aml
yn cael eu
hanwybyddu’n llwyr ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth
gadarnach o ran mynediad at
eiriolaeth broffesiynol annibynnol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu
wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chyflwyno
Bil Plant a Phobl Ifanc (Cymru) er
ei hymrwymiad yn natganiad deddfwriaethol
2011, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wyrdroi’r penderfyniad hwn a chyflwyno deddfwriaeth i gryfhau hawliau
plant a phobl ifanc ac i ddiwygio’r sail statudol dros swyddfa’r
Comisiynydd Plant.
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
ymateb i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru cyn y ddadl flynyddol
arno. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig: NDM5357
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13.
Derbyniwyd y cynnig.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd
yr eitem am 18.13 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |