Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

(15 munud)

2.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Gofynnwyd y 3 chwestiwn.

(45 munud)

3.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.24

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 9. Tynnwyd cwestiynnau 3 a 10 yn ôl.

(60 munud)

4.

Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Meysydd Carafanau Gwyliau (Cymru) (Darren Millar)

 

NNDM5258 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Darren Millar gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 18 Ebrill 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90.

Mae’r wybodaeth cyn y balot ar gael drwy fynd i:

http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill-050.htm

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

NNDM5258 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Darren Millar gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 18 Ebrill 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

 

NDM5268 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr angen am strategaeth hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru.

2. Yn cydnabod ymhellach gynigion Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, a amlinellir yn y cyhoeddiad, ‘Glasbrint ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’.

Mae Glasbrint ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar gael drwy'r linc a ganlyn:

https://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/cardiff_airport_blueprint_cymraeg.pdf

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector cyhoeddus.

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Strategaeth Hedfan i Gymru erbyn diwedd 2013, gan gynnwys amserlen ar gyfer gweithredu.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu strategaeth hedfan nesaf Cymru.

Gellir gweld adroddiad Rhan I Comisiwn Silk drwy ddilyn y linc ganlynol:

http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddar.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym, hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5268 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr angen am strategaeth hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru.

2. Yn cydnabod ymhellach gynigion Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, a amlinellir yn y cyhoeddiad, ‘Glasbrint ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

38

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

4

12

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu strategaeth hedfan nesaf Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddar.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym, hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5268 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr angen am strategaeth hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru.

2. Yn cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector cyhoeddus.

3. Yn galw am ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu strategaeth hedfan nesaf Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddar.

5. Yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym, hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

12

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

(60 munud)

6.

Dadl Plaid Cymru

 

NDM5269 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi rôl allweddol y system gynllunio o ran cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol;  a

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r system gynllunio fel ei bod yn adlewyrchu'n well egwyddorion datblygu cynaliadwy, yn arbennig:

a) bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu anghenion tai lleol yn well;

b) bod yr iaith Gymraeg yn dod yn ystyriaeth gynllunio fwy ystyrlon; ac

c) bod y system gynllunio'n hwyluso twf gwyrdd yn well.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Bil Cynllunio i Gymru.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod y gall y cyfrifoldeb ar y cyd am bolisïau cynllunio, tai ac adfywio rhwng y Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol achosi llawer o densiwn a’i gwneud yn anodd i ddatblygu polisïau cynllunio ac adfywio cydlynol mewn ardaloedd gwledig.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2a):

i. drwy ddisodli’r targedau adeiladu tai a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ag asesiad o anghenion tai lleol; a  

ii. drwy gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y cartrefi i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol a phoblogaeth sy’n heneiddio;

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Rhaid i awdurdodau lleol gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ystyrlon sy’n galluogi cymunedau i gael eu grymuso er mwyn llunio eu dyfodol.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cyflwyno canllawiau cynllunio ychwanegol ar gyfer gwaith datblygu ac adnewyddu mewn ardaloedd cadwraeth.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod rôl bwysig cynghorau tref a chymuned fel ymgyngoreion statudol yn y broses gynllunio ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu ffyrdd o gryfhau’r rôl hon, er mwyn cryfhau llais cynghorau tref a chymuned.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system i adolygu Nodiadau Cyngor Technegol yn gyfnodol, i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf mewn polisïau a deddfwriaeth a’r datblygiadau technolegol diweddaraf.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5269 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi rôl allweddol y system gynllunio o ran cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol;  a

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r system gynllunio fel ei bod yn adlewyrchu'n well egwyddorion datblygu cynaliadwy, yn arbennig:

a) bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu anghenion tai lleol yn well;

b) bod yr iaith Gymraeg yn dod yn ystyriaeth gynllunio fwy ystyrlon; ac

c) bod y system gynllunio'n hwyluso twf gwyrdd yn well.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

16

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyfnod pleidleisio

 

Dechreuodd yr eitem am 17.46

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

7.

Dadl Fer

 

NDM5267 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r Parth Clustogi glo brig yn addas at y diben?

Dadl sy'n trafod y problemau sydd wedi codi ers i'r parth clustogi gael ei gyflwyno yn MTAN2 yn 2009, gan drafod a ydyw mewn gwirionedd wedi cyflawni diogelwch i gymunedau sy'n byw gyda chloddio glo brig.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.50

NDM5267 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r Parth Clustogi glo brig yn addas at y diben?

Dadl sy'n trafod y problemau sydd wedi codi ers i'r parth clustogi gael ei gyflwyno yn MTAN2 yn 2009, gan drafod a ydyw mewn gwirionedd wedi cyflawni diogelwch i gymunedau sy'n byw gyda chloddio glo brig.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: