Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.23

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Adolygiad o Wasanaethau Newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.37

(30 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.09

(30 munud)

5.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardrethi Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.41

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Heb ei Drefnu

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.15

(30 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ymgysylltu a Datblygiad Ieuenctid

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.54

(30 munud)

8.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Diddymu'r cyrff sy'n gysylltiedig â'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol - gohiriwyd tan 30 Ebrill 2013

Penderfyniad:

Gohiriwyd yr eitem tan 30 Ebrill 2013.

(60 munud)

9.

Dadl: Gofal Diwedd Oes

NDM5209 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i wella gwasanaeth gofal diwedd oes; a

2. Yn nodi Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd Oes.

Mae’r ddogfen Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd Oes ar gael drwy fynd i:

http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/end-of-life/?skip=1&lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi pwysigrwydd darparu gwasanaethau gofal diwedd oes o safon uchel yng Nghymru.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod cyfraniad y mudiad hosbis, a darparwyr gofal eraill, tuag at ofal diwedd oes o safon uchel.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pwysigrwydd parchu dymuniadau cleifion wrth ddarparu gofal diwedd oes.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r manteision y gall taliadau uniongyrchol eu cynnig i wella profiad y claf ar gyfer pobl sy’n cael gofal diwedd oes.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu y bydd toriadau termau real i’r gyllideb iechyd yn llesteirio’r cynnydd o ran gwella gofal diwedd oes yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu’i chyllidebau i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5209 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i wella gwasanaeth gofal diwedd oes; a

2. Yn nodi Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd Oes.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi pwysigrwydd darparu gwasanaethau gofal diwedd oes o safon uchel yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod cyfraniad y mudiad hosbis, a darparwyr gofal eraill, tuag at ofal diwedd oes o safon uchel.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pwysigrwydd parchu dymuniadau cleifion wrth ddarparu gofal diwedd oes.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r manteision y gall taliadau uniongyrchol eu cynnig i wella profiad y claf ar gyfer pobl sy’n cael gofal diwedd oes.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu y bydd toriadau termau real i’r gyllideb iechyd yn llesteirio’r cynnydd o ran gwella gofal diwedd oes yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu’i chyllidebau i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

5

33

51

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5209 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i wella gwasanaeth gofal diwedd oes;

2. Yn cydnabod pwysigrwydd parchu dymuniadau cleifion wrth ddarparu gofal diwedd oes;

3. Yn cydnabod cyfraniad y mudiad hosbis, a darparwyr gofal eraill, tuag at ofal diwedd oes o safon uchel; a

4. Yn nodi Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd Oes.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.21

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer - gohiriwyd ers 20 Mawrth 2013

NDM5208 Ken Skates (De Clwyd): Y tu hwnt i Fae Caerdydd – Rôl newidiol cyfryngau lleol a rhanbarthol ledled Cymru.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.24

NDM5208 Ken Skates (De Clwyd): Y tu hwnt i Fae Caerdydd – Rôl newidiol cyfryngau lleol a rhanbarthol ledled Cymru.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: