Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad y Llywydd

 

Cydymdeimlodd y Llywydd ar ran y Cynulliad â Gwenda Thomas AC yn ei phrofedigaeth o golli ei gŵr.

 

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Pwynt o drefn

 

Cododd Arweinydd yr Wrthblaid, Andrew R.T. Davies, bwynt o drefn yn ceisio dyfarniad ynghylch a oedd y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog mewn trefn pan ddywedodd nad oedd Andrew R.T. Davies wedi bod yn gwbl onest â’r Siambr wrth gyfeirio at ffigurau allforio masnach. Cytunodd y Llywydd i edrych ar Gofnod y Trafodion a dod yn ôl at y mater os y bydd hi o’r farn bod angen dyfarniad.

 

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.32

(60 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.49

(30 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen TB mewn Gwartheg

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.30

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Ymateb y Llywodraeth i'r Adolygiad o Gymwysterau 14-19

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.17

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Y camau nesaf yn y gwaith o ddiwygio'r Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.02

(15 munud)

7.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Darpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ddarparu data electronig i gwsmeriaid

NDM5139 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ynghylch y gofyniad bod cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau yn darparu data cwsmeriaid i’r graddau y mae hyn yn rhan o gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/enterpriseandregulatoryreform/documents.html
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.40

NDM5139 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ynghylch y gofyniad bod cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau yn darparu data cwsmeriaid i’r graddau y mae hyn yn rhan o gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Diddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Cymru a Lloegr

NDM5138 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â diddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
Dogfennau’r Bil — Y Bil Menter a Diwygio RheoleiddioSenedd y DU (Saesneg yn unig)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5138 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â diddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

33

51

Gwrthodwyd y cynnig.

(15 munud)

9.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus

NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhy’r Cyffredin ar 13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
Dogfennau’r Bil — Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2012-13 — Senedd y DU (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.18

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

8

50

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

10.

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013

NDM5154 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol(Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2013.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol(Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013 – Saesneg yn unig
Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.34

NDM5154 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol(Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfnod Pleidleisio

 

Dechreuodd yr eitem am 18.36

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: