Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Dirprwy Lywydd dros dro Cafodd Peter Black ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30. Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Atebwyd cwestiwn 5, 9 a 12 gan y Dirprwy Weinidog
Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:17. Gofynnwyd cwestiynau 1 – 7, 9 – 12 ac 14 – 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 8. Tynnwyd cwestiwn 13 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:01. Atebwyd cwestiynau 1 – 4 gan Peter Black. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Roi Pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU NDM5022 David Melding
(Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr ymchwiliad i'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn neddfau’r DU, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Gwener 23 Mawrth 2012. Noder: Gosodwyd ymatebion y Prif Weinidog, y Pwyllgor Busnes a Chomisiwn y Cynulliad i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2012. Dogfennau ategol: Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:10. NDM5022 David Melding
(Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr ymchwiliad i'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn neddfau’r DU, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Gwener 23 Mawrth 2012. Noder: Gosodwyd ymatebion y Prif Weinidog, y Pwyllgor Busnes a Chomisiwn y Cynulliad i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 NDM5021 Christine
Chapman (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr
ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2012. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 20 Mehefin 2012. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:59. NDM5021 Christine
Chapman (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2012. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 20 Mehefin 2012. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5025 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod cryfder y teimlad yn erbyn cynigion i israddio gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro ac yn mynegi pryder ynghylch yr ymgysylltiad â chlinigwyr a’r cyhoedd; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Deoniaeth Cymru ac i adolygu’r arferion a ddefnyddir wrth gadw a hyfforddi meddygon iau; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Colegau Brenhinol i adolygu perthnasedd y canllawiau diogelwch clinigol a sicrhau bod y canllawiau hyn wedi’u teilwra ar gyfer amodau lleol, ac yn adlewyrchu amodau lleol, gan gynnal arfer gorau; a 4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i egluro sefyllfa gyllido bresennol y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1. Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: ‘gyda’r nod o sicrhau bod yna lefelau
staffio digonol ym mhob rhan o Gymru’ [os
derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3. Gwelliant
4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 3 ar ôl ‘adlewyrchu amodau lleol’ cynnwys ‘, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ymylol,’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.45. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5025 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod cryfder y teimlad yn erbyn cynigion i israddio gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro ac yn mynegi pryder ynghylch yr ymgysylltiad â chlinigwyr a’r cyhoedd; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Deoniaeth Cymru ac i adolygu’r arferion a ddefnyddir wrth gadw a hyfforddi meddygon iau; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Colegau Brenhinol i adolygu perthnasedd y canllawiau diogelwch clinigol a sicrhau bod y canllawiau hyn wedi’u teilwra ar gyfer amodau lleol, ac yn adlewyrchu amodau lleol, gan gynnal arfer gorau; a 4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i egluro sefyllfa gyllido bresennol y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: ‘gyda’r nod o sicrhau bod yna lefelau
staffio digonol ym mhob rhan o Gymru’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant
3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 3 ar ôl
‘adlewyrchu amodau lleol’ cynnwys ‘, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac
ymylol,’ Gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5025 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Deoniaeth Cymru ac i adolygu’r arferion a ddefnyddir wrth gadw a hyfforddi meddygon iau gyda’r nod o sicrhau bod yna lefelau staffio digonol ym mhob rhan o Gymru. 2. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i egluro sefyllfa gyllido bresennol y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17:41. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - WEDI'I GOHIRIO NDM5024 Leanne Wood (Canol De Cymru): Arafu’r traffig i sicrhau diogelwch ein plant ysgol Bydd y ddadl
hon yn canolbwyntio’n
bennaf ar leihau cyfyngiadau cyflymder y tu allan i ysgolion
er mwyn amddiffyn
plant ar eu ffordd i’r ysgol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |