Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd
yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog
ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30. Gofynnwyd cwestiynau 1-11, a chwestiwn 13. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.11 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Trawsnewid—Cyflawni ar y Cyd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwysedd i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012 NDM4983 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Iechyd Meddwl
(Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwysedd i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl
Sylfaenol) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2012. Dogfennau Ategol
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.49 NDM4983 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Iechyd Meddwl
(Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwysedd i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl
Sylfaenol) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2012. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Law yn Llaw at Iechyd – adroddiad cynnydd chwe mis NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn Llaw at Iechyd”.
http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/together/?lang=cy Cynnwys ar ddiwedd y cynnig: “ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i
ad-drefnu ysbytai. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod agenda Llywodraeth Cymru, ‘Law yn Llaw at Iechyd’ yn cynnwys
cynlluniau i leihau nifer y safleoedd ysbytai sy’n darparu gwasanaethau
damweiniau ac achosion brys 24/7 o dan law meddyg ymgynghorol. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn erbyn israddio ysbytai lleol a
gwasanaethau iechyd ar draws Cymru. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau
arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at
Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn
lleol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.53 NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn Llaw at Iechyd” Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd y cynnig: “ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i
ad-drefnu ysbytai. Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gohiriwyd gweddill
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod agenda Llywodraeth Cymru, ‘Law yn Llaw at Iechyd’ yn cynnwys
cynlluniau i leihau nifer y safleoedd ysbytai sy’n darparu gwasanaethau
damweiniau ac achosion brys 24/7 o dan law meddyg ymgynghorol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn erbyn israddio ysbytai lleol a
gwasanaethau iechyd ar draws Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn lleol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn Llaw at Iechyd” ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i
ad-drefnu ysbytai. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau
arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at
Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn
lleol.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar bolisi Teithio Byw Llywodraeth Cymru NDM4982 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn ystyried polisïau teithio llesol Llywodraeth Cymru, a photensial teithio
llesol o ran mynd i’r afael â thlodi, gwella iechyd y cyhoedd a lleihau
allyriadau nwyon ty gwydr.
http://wales.gov.uk/topics/transport/integrated/walkingcycling/?skip=1&lang=cy Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder nad yw Cymru, ar hyn o bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd
targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng Nghynllun Gweithredu Cerdded a
Beicio Llywodraeth Cymru. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrian De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r sylwadau a wnaeth Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ei
Adroddiad Blynyddol cyntaf, y bu cynnydd y Llywodraeth yn ansicr o ran annog
newid ymddygiad tuag
at ddewisiadau teithio doethach. Mae Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ar
gael drwy fynd i: Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar effaith
gronnol ei mentrau teithio byw ar allyriadau nwyon tŷ
gwydr yng Nghymru. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau cerdded a llwybrau
beicio lleol wedi’u cysylltu â’i gilydd a chanolfannau teithio eraill er mwyn
creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol hyfyw. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylid ei gwneud yn orfodol i bob datblygiad cynllunio mawr
ystyried yr angen am fynediad rhwydd i gerddwyr a beicwyr.
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.41 NDM4982 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ystyried polisïau teithio llesol
Llywodraeth Cymru, a photensial teithio llesol o ran mynd i’r afael â thlodi,
gwella iechyd y cyhoedd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder nad yw Cymru, ar hyn o
bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng
Nghynllun Gweithredu Cerdded a Beicio Llywodraeth Cymru.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrian De
Cymru)
Yn nodi’r sylwadau a wnaeth Comisiwn Cymru ar
y Newid yn yr Hinsawdd yn ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, y bu cynnydd y
Llywodraeth yn ansicr o ran annog newid ymddygiad tuag at ddewisiadau teithio
doethach.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
adroddiad blynyddol ar effaith gronnol ei mentrau teithio llesol ar allyriadau
nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
llwybrau cerdded a llwybrau beicio lleol wedi’u cysylltu â’i gilydd a
chanolfannau teithio eraill er mwyn creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol
hyfyw. Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylid ei gwneud yn orfodol i bob
datblygiad cynllunio mawr ystyried yr angen am fynediad rhwydd i gerddwyr a
beicwyr. Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. NDM4982 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ystyried polisïau teithio llesol
Llywodraeth Cymru, a photensial teithio llesol o ran mynd i’r afael â thlodi,
gwella iechyd y cyhoedd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn nodi â phryder nad yw Cymru, ar hyn o
bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng
Nghynllun Gweithredu Cerdded a Beicio Llywodraeth Cymru. Yn nodi’r sylwadau a wnaeth Comisiwn Cymru ar
y Newid yn yr Hinsawdd yn ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, y bu cynnydd y
Llywodraeth yn ansicr o ran annog newid ymddygiad tuag at ddewisiadau teithio
doethach. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
adroddiad blynyddol ar effaith gronnol ei mentrau teithio llesol ar allyriadau
nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
llwybrau cerdded a llwybrau beicio lleol wedi’u cysylltu â’i gilydd a
chanolfannau teithio eraill er mwyn creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol
hyfyw. Yn credu y dylid ei gwneud yn orfodol i bob
datblygiad cynllunio mawr ystyried yr angen am fynediad rhwydd i gerddwyr a
beicwyr. Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 16.25 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |