Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd. Yn ei habsenoldeb, cadeiriwyd y cyfarfod gan y Dirprwy Lywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Ddydd Mawrth, byddai'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad am Fil Cymru drafft.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3 ddydd Mawrth.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes dydd Mawrth yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau, a chytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai Cyfnod Pleidleisio dydd Mercher yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i aildrefnu'r eitemau a ganlyn:

Dydd Mercher 9 Mawrth 2016 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Dyfodol ynni craffach i Gymru? (60 munud) - symudwyd i 16 Mawrth

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 16 Mawrth 2016 –

  • Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau (5 munud)

 

 

3.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd at y Llywydd ynghylch Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad 'Dyfodol ynni craffach i Gymru?'

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gais gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i'r ddadl ar yr adroddiad 'Doethach Dyfodol Ynni i Gymru' gael ei gohirio am wythnos, o 9 Mawrth i 16 Mawrth.