Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Byddai’r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn y busnes a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 16 Mawrth 2016 –

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ei ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (60 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4): Bil Menter

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch y Bil Menter.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i nodi’r Memorandwm a’r ffaith bod y Llywodraeth yn bwriadu trefnu dadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ddydd Mawrth 15 Mawrth. Oherwydd y cyfyngiadau amser, cytunodd y Rheolwyr Busnes na ddylid cyfeirio’r Memorandwm at un o bwyllgorau’r Cynulliad i graffu arno ond y dylai’r Llywydd ysgrifennu at y Pwyllgor Menter a Busnes (fel y pwyllgor mwyaf perthnasol), gan anfon copi at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Materion, i dynnu sylw aelodau’r pwyllgor hwnnw at benderfyniad y Pwyllgor Busnes.

 

4.2

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ynghylch Rheoliadau (Diwygio) y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth.

 

Cytunodd y Gweinidog i ddosbarthu nodyn ar gynnwys polisi’r rheoliadau hyn.

 

 

5.

Y Cyfarfod Llawn

5.1

Busnes y Cynulliad cyn y diddymiad

Cofnodion:

Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod trefniadau cyflwyno cyn ac yn ystod y diddymiad. Cytunodd y Pwyllgor ar y trefniadau a ganlyn:

 

·         ni ellir derbyn dogfennau i’w gosod os ydynt yn dod i law ar ôl 18.00 (diwedd y diwrnod gwaith) ddydd Mawrth 5 Ebrill; ac

·         y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig fydd 16.00 dydd Gwener 18 Mawrth.

 

5.2

Cyflwyno ar ôl yr etholiad

Cofnodion:

Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod trefniadau cyflwyno yn syth ar ôl Etholiad y Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor ar y trefniadau a ganlyn:

 

  • bydd y Swyddfa Gyflwyno ar agor ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig, busnes brys, cynigion, gwelliannau i gynigion a datganiadau barn, yn ogystal â chofrestru buddiannau a gosod dogfennau, o ddydd Llun 9 Mai 2016;

 

  • caiff cwestiynau ysgrifenedig eu cyhoeddi yn y ffordd arferol, a’r dyddiad olaf ar gyfer ateb cwestiynau ysgrifenedig fydd pum niwrnod gwaith ar ôl iddynt gael eu cyflwyno; a

  • bydd pob cwestiwn ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno i’w ateb gan y Prif Weinidog, a fydd yn penderfynu pwy fydd yn ateb y cwestiwn hwnnw.

 

6.

Y Rheolau Sefydlog

6.1

Cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 26

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i’r cynigion arfaethedig i Reolau Sefydlog a amlinellwyd yn y papur fel y’i drafftiwyd, gyda’r eithriadau a ganlyn:

 

  • Y Cyfnod Adrodd - o ran y Rheolau Sefydlog 26.45, 26.45A, 26.45B a 26.46A newydd arfaethedig, roedd Paul Davies, Elin Jones ac Aled Roberts o blaid y newid arfaethedig, ond roedd y Gweinidog yn gwrthwynebu. Roedd y Gweinidog hefyd yn gwrthwynebu pob un o’r cyfaddawdau posibl a nodwyd yn y papur, ac felly nid oedd mwyafrif am unrhyw newid.

  • Craffu ar gydymffurfio â hawliau’r Confensiwn – Rheol Sefydlog 26.6(xii) newydd arfaethedig (paragraffau 11-14). Roedd Paul Davies, Elin Jones ac Aled Roberts o blaid y newid arfaethedig, ond eglurodd y Gweinidog fod y Llywodraeth am gael mwy o amser i ystyried y goblygiadau cyn cytuno i unrhyw newid. Roedd y Gweinidog yn dymuno bod y newid hwn yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Busnes newydd yn gynnar yn ystod y Pumed Cynulliad; felly, nid oedd mwyafrif am newid ar hyn o bryd.
     
  • "Atodlenni Keeling" – y Rheol Sefydlog 26.6C newydd arfaethedig (paragraffau 15-17). Roedd Paul Davies, Elin Jones ac Aled Roberts o blaid y newid arfaethedig fel y’i drafftiwyd, ond roedd y Gweinidog am weld bod y gofyniad ond yn berthnasol lle mae Biliau yn diwygio deddfwriaeth bresennol "yn sylweddol". Cytunodd y Rheolwyr Busnes arall i’r newid hwn fel cyfaddawd.

 

6.2

Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Newidiadau amrywiol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i’r newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 18 a 30A.