Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Llywydd. Cadeiriodd y Dirprwy Lywydd y cyfarfod yn ei
habsenoldeb. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Dydd Mawrth, bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn
gwneud datganiad ar Tata Steel. Nododd y Rheolwyr Busnes
y byddai pob pleidlais mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru),
ddydd Mawrth, a pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Lefelau Diogel Staff
Nyrsio (Cymru), ddydd Mercher, yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3. Nododd y Rheolwyr Busnes
y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes ddydd Mawrth a dydd Mercher yn
digwydd cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor
Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 2 Mawrth
2016 -
|
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor
Busnes y ddau gynnig a gyflwynwyd ar gyfer y ddadl. Dydd Mercher 10 Chwefror 2016 ·
NNDM 5942 Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd) Elin Jones (Ceredigion) Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at nifer y
canghennau banc sydd wedi'u cau yng Nghymru ac, yn arbennig, pa mor aml y mae
canghennau yn cael eu cau hyd yn oed pan mai'r gangen banc yw'r banc olaf yn yr
ardal. 2. Yn galw ar fanciau i
ystyried effaith cau canghennau banc ar gymunedau trefol a gwledig ac
unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau bach, cyn i benderfyniadau
terfynol gael eu gwneud ynghylch cau. 3. Yn galw ar fanciau i
gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnwys sefydliadau cymunedol lleol,
sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes cyn dod i benderfyniadau terfynol
ynghylch cau canghennau, yn enwedig pan mai'r gangen banc dan sylw yw'r unig un
sydd ar ôl yn yr ardal. 4. Yn galw ar Lywodraeth
y DU, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i sicrhau eu bod yn
ystyried effaith cau canghennau banc wrth lunio eu polisïau perthnasol ar
wasanaethau ariannol, datblygu economaidd a rheoleiddio ariannol. Dydd Mercher 9 Mawrth
2016 ·
NNDM4945 Eluned Parrott (Canol De
Cymru) Angela Burns (Gorllewin
Caerfyrddin a De Sir Benfro) Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y
ffaith bod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw o ganlyniad hunanladdiad bob blwyddyn
yng Nghymru, gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad yw'r prif
achos o farwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed. 2. Yn cydnabod bod pobl
sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig ac
amcangyfrifir bod gan 90 y cant o bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n
marw o ganlyniad i hunanladdiad un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl. 3. Yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl i
siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth
a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar
eu pen eu hunain. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) gwella'r broses o
gasglu data i adnabod y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf; b) sicrhau bod cymorth
dilynol ar gael i bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl
hunan-niweidio neu geisio cyflawni hunanladdiad; c) darparu ffyrdd mwy
effeithiol o gyfeirio pobl at wasanaethau gwrando ac eiriolaeth; d) edrych ar gyflawni
prosiectau megis y parth tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor blaengar mewn
ffordd sy'n briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac enghreifftiau
cenedlaethol a rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac e) asesu'r cymorth sydd
ar gael i deuluoedd unigolion sydd â salwch meddwl. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Newidiadau amrywiol i'r Rheolau Sefydlog Cofnodion: O ganlyniad i'r rhaglen o ddiwygio Rheolau Sefydlog a gytunwyd gan y
Pwyllgor Busnes ym mis Mai 2014, trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn nodi'r
newidiadau amrywiol arfaethedig i Reolau Sefydlog 26, 18 a 30A. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau ac a thrafod y papur
eto yn y cyfarfod ar 23 Chwefror 2016. |